Nwyddau ffug
Mae nwyddau ffug yn cynnwys dillad a phersawr sydd â labeli ffug, DVDs a gemau cyfrifiadur peirat. Erbyn hyn, mae technoleg yn golygu ei bod yn hawdd i droseddwyr wneud copïau soffistigedig. Os ydych yn credu eich bod chi wedi prynu eitem ffug, mae yna nifer o hawliau cyfreithiol y gallech eu defnyddio yn erbyn y gwerthwr.
Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?
Mae’n anghyfreithlon gosod nod masnach cofrestredig ar nwyddau, neu wneud copi union o nwyddau sy’n dwyn nod masnach cofrestredig, heb gael caniatâd perchennog y nod masnach.
Hyd yn oed os nad oes nod masnach wedi’i gofrestru ar gyfer nwyddau, mae’n dal yn bosibl weithiau dwyn achos yn erbyn rhywun sy’n gwneud copïau o nwyddau, neu sy’n gosod nodau ar nwyddau, heb ganiatâd y person sydd eisoes yn masnachu’r nwyddau hynny a’r nodau sy’n gysylltiedig â nhw. Yr enw ar hyn yw achos ‘efelychu’.
Mae’n dal yn bosibl y gallwch ddefnyddio’ch hawliau statudol yn erbyn y gwerthwr – gan nad yw’r nwyddau’n cyd-fynd â’r disgrifiad. I gael rhagor o gyngor am hyn, dylech gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr.
Gall fod yna hawlfraint ar nwyddau penodol, fel dyluniadau artistig ar ddillad, rhaglenni cyfrifiadur, CDs, DVDs a chyfryngau electronig eraill. Gall yr hawlfraint fod yn cael ei thorri os caiff y nwyddau hyn eu copïo heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint.
Mae nwyddau sy’n torri’r hawlfraint yn cael eu hadnabod fel rheol fel nwyddau 'ffug’ neu nwyddau 'peirat’.
Os hoffech wybod rhagor am nwyddau ffug, neu os ydych yn meddwl bod rhywun yn gwerthu nwyddau ffug, ffoniwch Gyswllt Defnyddwyr.
Mae’r Cynghrair yn erbyn Ffugio a Pheiratio (AACP) yn gynghrair o gymdeithasau masnach a sefydliadau gorfodi diwydiannol ym Mhrydain sydd â diddordeb mewn atal nwyddau ffug a pheiratio yn y DU. Nod y cynghrair yw helpu busnesau dilys i ffynnu fel nad yw nwyddau is-safonol, a allai fod yn beryglus, yn creu risgiau i ddefnyddwyr.
Mae gan wefan Eiddo Deallusol y Llywodraeth ragor o gyngor am sut i osgoi prynu nwyddau ffug.

