Ewch yn syth i'r cynnwys

Cyfrifiaduron

Peiriannau cymhleth yw cyfrifiaduron, ac mae’n bosibl y bydd arnoch chi angen cymorth technegol, gwaith trwsio neu hyd yn oed gyfrifiadur yn lle’r un sydd gennych os aiff rhywbeth o’i le ar ôl ichi brynu. Mewn llawer o achosion, bydd y gwasanaethau y mae gennych hawl i’w cael yn dibynnu ar y contract neu’r gwarantiad ar gyfer eich cyfrifiadur penodol chi.

Gweler hefyd Os ydych yn meddwl am gyfrifiaduron i gael cyngor am ddewis cyfrifiadur.

Back to top

Pethau i’w cofio

Diogelwch credyd - Os prynsoch chi’ch system drwy ddefnyddio cerdyn credyd neu gytundeb cyllid, mae’n bosibl y bydd diogelwch ychwanegol gennych. Mae’n bosibl y bydd darparwyr credyd yn rhannu’n cyfrifoldeb am unrhyw beth sy’n torri’r contract neu am unrhyw gamliwio gan gyflenwyr y nwyddau neu’r gwasanaethau, sydd wedi’u hariannu (hyd yn oed yn rhannol) gan y credyd.  Gweler Prynu ar gredyd? i gael rhagor o wybodaeth.

Telerau ac amodau – darllenwch y telerau a’r amodau a’r print mân bob tro ar unrhyw ffurflenni swyddogol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd wedi’i gynnwys o dan y telerau a’r amodau a beth sydd heb ei gynnwys.

Telerau annheg mewn contractau – dydych chi ddim wedi’ch rhwymo gan delerau safonol sy’n ffafrio’r masnachwr yn annheg. Dydy telerau ac amodau sydd fel petaen nhw’n gwadu neu’n cyfyngu ar eich rhwymedigaeth chi am nwyddau sydd â nam arnyn nhw neu nwyddau sydd wedi’u disgrifio’n wael neu golledion yn sgil hynny ddim yn deg. Nid yn unig mae telerau annheg yn camarwain, ond does dim modd eu gorfodi drwy’r llysoedd chwaith. Gweler Telerau annheg mewn contractau i gael rhagor o wybodaeth.

Os hoffech chi uwchraddio – y peth pwysicaf y mae’n rhaid ichi fod yn sicr yn ei gylch yw bod y cydrannau’n gydnaws. Ewch â rhestr o fanylebau’ch cyfrifiadur gyda chi bob tro a’u cymharu â’r cynhyrchion yr hoffech eu prynu. Allwch chi ddim disgwyl y bydd pob meddalwedd newydd yn gydnaws â’ch system chi.



Back to top

Gwasanaethau cymorth

Dydy cyfrifiaduron ddim bob amser yn rhydd rhag problemau, felly mae gwasanaethau cymorth yn bwysig os cewch chi broblemau.

Mae gwasanaethau cymorth yn tueddu i gynnig:

  • Llinellau cymorth ar y ffôn – mae’r rhan fwyaf o werthwyr a gweithgynhyrchwyr yn cynnig cysylltiad â llinell gymorth y gallwch ei ffonio i gael cyngor. Gall hyn fod yn ateb cyflym a hawdd, ac yn aml dyma’r lle cyntaf y dywedir wrthych am droi os cewch broblem, ond efallai y bydd rhaid ichi dalu. Mae’r taliadau’n gallu bod yn £1.50 y funud, felly ceisiwch sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn barod cyn ichi ffonio. 
  • Gwasanaethau ar-lein – mae llawer o werthwyr bellach yn cynnig mannau ar eu gwefannau sy’n rhestru problemau ac atebion cyffredin a lle y gallwch ofyn am gyngor. Gofynnwch i’ch gwerthwr chi a ydyn nhw’n cynnig gwasanaeth felly a faint yw’r gost i’w ddefnyddio. Ond os bydd nam ar y cyfrifiadur, cofiwch ei bod yn bosibl na fyddwch yn gallu cysylltu â’r gwasanaeth trwsio ar-lein.
  • Gwasanaethau arsefydlu – gall y rhain gael eu cynnig gan y cyflenwr, ac fe allen nhw fod o fudd os nad ydych wedi defnyddio cyfrifiadur o’r blaen. Unwaith eto, efallai y bydd rhaid talu am yr arsefydlu.

Back to top

Contractau gwasanaeth

Os ydych wedi gwneud contract ar gyfer gwasanaethau cymorth yn unig, a dim nwyddau, bydd angen i’r contract gydymffurfio â’r Rheoliadau Gwerthu o Hirbell os ydych wedi gwneud y contract dros y ffôn, yr e-bost, y rhyngrwyd neu’r ffacs. Mae’n rhaid ichi gael gwybod, mewn ysgrifen, nad oes modd i’r contractau hyn gael eu canslo ar ôl iddyn nhw ddechrau ar ddyddiad y byddwch yn cytuno arno.

Gwasanaethau trwsio

Mae’r math o wasanaeth trwsio’n amrywio rhwng y gwerthwyr a’r gweithgynhyrchwr. Os bydd eich PC yn torri i lawr, edrychwch bob amser i weld a yw’n dal o dan warantiad, yn unol â’r esboniad isod.

Gwarantiad y gweithgynhyrchydd – bydd hyn wedi dod gyda’r cyfrifiadur yn awtomatig. Fel rheol, mae’r gwarantiad yn gymwys ar gyfer trwsio’r cyfrifiadur neu roi un newydd yn ei le ac mae’n gallu cynnwys amddiffyniad yn erbyn difrod damweiniol neu ladrad. Darllenwch y print mân er mwyn gweld beth sy’n gymwys ac am faint y mae’n para. Dydy meddalwedd ddim bob amser yn cael ei chynnwys mewn gwarantiad.

Cofiwch, mae hawliau o dan warantiad yn ychwanegol at eich hawliau eraill fel defnyddiwr. Dydy’r gwarantiad ddim yn effeithio ar eich hawl gyfreithiol i wrthod cyfrifiadur os oedd nam arno pan brynsoch chi e a chael eich arian yn ôl. Ond peidiwch ag oedi’n rhy hir cyn cwyno. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Defnyddio gwarant a Gwneud cwyn.

Mae’n gyffredin i wasanaethau trwsio gael eu trefnu yn un o’r ffyrdd hyn:

  • Gwasanaeth trwsio ar y safle – lle mae’r peiriannydd yn dod atoch chi i gywiro’r nam. 
  • Dychwelyd y nwyddau – lle mae’n rhaid i chi anfon y cyfrifiadur yn ôl i ganolfan drwsio. Efallai y bydd rhaid ichi dalu ffioedd y cludwr am fynd â’r cyfrifiadur yn ôl ac ymlaen i’r ganolfan drwsio.

Back to top

Os aiff rhywbeth o’i le

Os nad ydych yn fodlon ar eich PC, eich argraffydd neu’r gwasanaeth sydd wedi’i roi gan y gwerthwr, ceisiwch ddatrys hyn yn uniongyrchol gyda’r gwerthwr (neu’r brif swyddfa os yw’r gwerthwr yn rhan o gadwyn). Gweler Gwneud cwyn i gael rhagor o wybodaeth.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi nwyddau ffug ac nad ydyn nhw’n bodloni’ch disgwyliadau, chewch chi ddim gwasanaeth na gwarant ar ôl ichi eu prynu.

Rhagor o Wybodaeth >