Dillad ac esgidiau
Anfodlon ar rywbeth rydych chi wedi’i brynu? Darganfyddwch a oes gennych hawl i gael ad-daliad neu eitem newydd, a’r hyn y mae angen ichi ei wneud nesaf.
Os ydych wedi prynu dilledyn neu esgidiau, mae’n rhaid iddyn nhw fod o ansawdd foddhaol, yn addas at eu diben ac yn cyd-fynd â’r disgrifiad.
Mae hynny’n golygu bod rhaid iddyn nhw fod:
-
yn addas i’w gwisgo – dylai’r semau fod yn gadarn a dylai’r defnydd fod yn ddi-nam.
-
yr un fath â’r hyn rydych chi wedi gofyn amdano – er enghraifft, yn dal dŵr.
- yr un faint â’r hyn sydd wedi’i nodi ar y label, ond cofiwch nad oes canllawiau maint swyddogol ar gyfer gweithgynhyrchu dillad.
Os na fydd dilledyn rydych wedi’i brynu yn bodloni’r gofynion uchod:
-
Os mai dim ond ambell waith rydych chi wedi’i wisgo neu os nad ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n bosibl bod gennych chi hawl i gael ad-daliad ar gyfer nam neu ddisgrifiad gwael, neu fel arall gallech ofyn am un arall yn ei le.
-
Os mai mân wall yn unig sydd yna a bod modd ei gywiro’n hawdd, mae’n rhesymol derbyn atgyweiriad. Fydd hynny ddim yn eich atal rhag hawlio un newydd neu ad-daliad os yw’r gwaith trwsio yn anfoddhaol wedyn.
-
Os ydych chi wedi’i wisgo mwy nag ambell waith neu os ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n dal yn debyg y bydd gennych chi hawl i gael ei drwsio neu i gael un arall. Dylai’r gwaith trwsio gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol o amser a heb beri anghyfleuster arwyddocaol ichi. Dylai unrhyw waith trwsio adfer y dilledyn i gyflwr boddhaol. Os nad yw hynny’n digwydd, mae gennych hawl i gael un newydd neu iawndal. Gallai hynny fod yn swm o arian neu gost cael rhywun arall i drwsio’r dilledyn.
-
Os nad oes modd cael dilledyn newydd neu os nad yw’n ddarbodus trwsio’r dilledyn, mae gennych hawl i gael ad-daliad. Gall y masnachwr dynnu rhywfaint oddi ar y pris a daloch chi, i ganiatáu am y defnydd gawsoch chi ar y dilledyn.
-
Os oes rhywbeth arall wedi cael ei ddifrodi, er enghraifft os yw’r lliw wedi pylu oherwydd nam, gan gamliwio dillad eraill, neu os ydych chi wedi colli arian mewn rhyw fodd arall, efallai y bydd gennych chi hawl i gael iawndal yn ychwanegol at bris y dilledyn.
- Cofiwch: os oes gennych hawl i gael ad-daliad, dilledyn newydd, atgyweiriad neu iawndal, y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem. Chaiff y masnachwr ddim dweud wrthych am fynd yn ôl at y gweithgynhyrchydd.
Pethau pwysig i’w cadw mewn cof:
-
Os nad yw’r dilledyn yn ffitio, does dim hawliau gennych.
-
Os ydych wedi newid eich meddwl, does dim hawliau gennych.
- Os ydych chi wedi dewis y dillad anghywir at ryw ddiben penodol, does dim hawliau gennych.
Er hynny, mae gennych chi saith diwrnod gwaith i ganslo contract am nwyddau sydd wedi’u harchebu dros y ffôn, drwy’r post, y rhyngrwyd, yr e-bost neu’r ffacs, ac eithrio’r nwyddau hynny sy’n cael eu gwneud yn unswydd ar gyfer eich archeb chi. Gweler Dychwelyd neu ganslo archebion i gael rhagor o wybodaeth.
Cofiwch fod angen gofalu am ddillad ac esgidiau, ac nad yw’r un eitem yn para am byth.
Cyn gynted â’ch bod chi wedi penderfynu bod problem gyda dilledyn rydych chi wedi’i brynu:
-
Stopiwch wisgo’r dilledyn.
-
Gwnewch yn siŵr nad yw’r nam wedi’i achosi drwy gamddefnyddio’r dilledyn, drwy ddamwain, drwy draul arferol neu drwy beidio â dilyn y cyfarwyddiadau gofal ar y label.
- Chwiliwch am eich prawf prynu. Os nad oes derbynneb gennych, gallwch ddefnyddio cyfriflen cerdyn credyd neu fonyn siec. Efallai y bydd nwyddau penodol y siop, rhywbeth sy’n unigryw i un siop (fel bag pwrpasol) neu’r pecyn yn profi ble cafodd y dilledyn ei brynu. Os oedd rhywun arall gyda chi wrth ichi ei brynu, fe allan nhw’ch cefnogi. Cofiwch: chi sy’n gorfod dangos ble cafodd y dillad eu prynu a pha bryd.
Cysylltwch â’r masnachwr ar unwaith a dweud am y broblem. Os yw’r eitemau wedi’u prynu’n lleol, ewch i weld y masnachwr. Ewch â’r eitem, y pecyn (os oes modd) ac unrhyw brawf prynu gyda chi. Os na allwch chi fynd â’r dillad nôl i’r siop, ffoniwch y masnachwr neu ysgrifennwch ato.
-
I gael rhagor o wybodaeth am gwyno dros y ffôn neu mewn ysgrifen, gweler Gwneud cwyn

