Ceir
Felly, rydych chi wedi prynu car, ond mae yna broblem. Dyma’r hyn y mae angen ichi ei wneud nesaf.
Felly, dyna chi wedi prynu car ond mae yna broblem. Dyma beth ddylech chi ei wneud nesaf.
Os yw pethau’n mynd o chwith
Os aiff rhywbeth o’i le, ewch yn ôl at y gwerthwr ar unwaith, esboniwch y broblem a dywedwch wrthyn nhw beth rydych yn disgwyl iddyn nhw ei wneud.
Os yw’r gwerthwr yn aelod o gymdeithas fasnach sy’n dilyn cod ymarfer, ewch i www.motorindustrycodes.co.uk i gael cyngor a gwybodaeth ar ystod eang o faterion yn ymwneud â moduro, gan gynnwys codau ceir newydd, gwasanaethu ac atgyweirio, a chynnyrch gwarantu cerbydau. Gallwch ffonio 0800 692 0825 hefyd i gael cyngor.
Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybodaeth am Gynllun Cymeradwyo Codau Defnyddwyr (CCAS) y Swyddfa Masnachu Teg sy’n anelu at gymeradwyo a hyrwyddo codau ymarfer busnes-i-ddefnyddwyr sy’n cynnig buddion i ddefnyddwyr sy’n mynd y tu hwnt i’r rheiny a ddarperir yn unol â’r gyfraith ac i weld pa sectorau busnes sy’n perthyn i’r cod a sut mae gwneud cwyn.
Os yw’r car yn dal dan warant y gwneuthurwr, cysylltwch â Chymdeithas y Gweithgynhyrchwyr a Masnachwyr Moduron.
Hefyd, ewch i:
Rhagor o wybodaeth a chyngor ar brynu car

