Ewch yn syth i'r cynnwys

Gwella’r cartref ac adeiladu

Ar ôl ichi drefnu bod adeiladwr neu gontractiwr yn gwneud gwaith gwella ar eich cartref neu waith adeiladu, dilynwch ein canllawiau er mwyn sicrhau eich bod yn talu pris teg am waith boddhaol.

Back to top

Pethau i chwilio amdanyn nhw

  • Mynnwch gael dyfynbris a chontract ysgrifenedig sy’n cynnwys y gwaith, y pris, y trefniadau talu a’r dyddiadau dechrau/gorffen.
  • Cyn ichi wneud unrhyw daliad terfynol, gwnewch yn siŵr eich bod yn fodlon bod y gwaith wedi’i wneud yn iawn a’i fod yn bodloni telerau’r contract.
  • Byddwch yn amheus os bydd y masnachwr yn sydyn yn codi arnoch am gostau ychwanegol. Os ydych wedi cytuno ar bris am y gwaith ymlaen llaw, ddylech chi ddim gorfod talu am ddim byd ‘ychwanegol’. Peidiwch â theimlo’n lletchwith wrth ofyn am dderbynebau.
  • Weithiau fe fydd angen gwaith ychwanegol yn annisgwyl, ond cytunwch ar y costau ychwanegol yma mewn ysgrifen cyn i’r gwaith ychwanegol ddechrau.

Back to top

Talu

  • Ceisiwch osgoi talu blaendal, yn enwedig blaendal mawr, a pheidiwch byth â thalu’r swm cyfan ymlaen llaw. Mae yna berygl y gallai’r masnachwr ddiflannu gyda’ch arian a bydd llai o ddylanwad gennych dros gwblhau’r gwaith, ansawdd y gwaith ac ati.
  • Dylech geisio cadw digon o arian yn ôl bob tro i gadw pwysau ar y masnachwr i fwrw ymlaen â’r gwaith a’i gwblhau’n iawn.
  • Ond byddwch yn deg ynghylch cwblhau’r gwaith: talwch yn brydlon os yw popeth yn y contract wedi’i gwblhau’n foddhaol.

Mynnwch gael y gwaith papur a’i gadw

Mynnwch anfoneb, gan gynnwys TAW, a gofynnwch am dderbynneb, wedi’i llofnodi, am bob taliad. Cadwch bob anfoneb a phob derbynneb.

Talwch y cwmni

Peidiwch â thalu adeiladwr unigol. Talwch i’r cwmni yn wastad.

Wrth dalu ar gredyd

  • Os oes gennych unrhyw fath o gytundeb credyd, meddyliwch yn ofalus a chymerwch gyngor cyfreithiol cyn dal taliadau’n ôl, oherwydd fe allai hyn effeithio ar eich cyfraddiad credyd yn y dyfodol.
  • Os ydych wedi talu â cherdyn credyd neu os yw’r gwaith yn cael ei ariannu drwy gyfrwng cytundeb credyd sydd wedi’i drefnu gan y masnachwr, mae’r benthyciwr yn gyd-atebol gyda’r masnachwr am unrhyw beth sy’n torri’r contract (os yw’r gwaith yn costio rhwng £100 a £30,000). Os bydd anghydfod, dywedwch wrth y benthyciwr. Gweler Prynu ar gredyd? i gael rhagor o wybodaeth.

"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi rywbeth sy’n werth mwy na £35 oddi wrth werthwr sy’n galw yn eich tŷ heb wahoddiad, mae gennych chi saith diwrnod i ganslo’ch archeb.

Rhagor o Wybodaeth >