Ewch yn syth i'r cynnwys

Deddf Gwerthiant Nwyddau 1979 fel y’i diwygiwyd

Darllenwch yma i gael gwybod am Ddeddf Gwerthiant Nwyddau 1979 a sut y mae’n effeithio ar eich hawliau.

Pan fyddwch yn prynu nwyddau rydych yn creu contract rhwng y prynwr a’r gwerthwr sy’n gyfreithiol-rwym ac mae’n unol â chyfraith o’r enw Deddf Gwerthiant Nwyddau 1979.

Os ydych wedi prynu nwyddau sydd wedi mynd yn ddiffygiol neu nad oeddent yn unol â’r disgrifiad pan y’u prynwyd neu nad oeddent yn addas i’r pwrpas y prynwyd hwy, darllenwch y wybodaeth isod i wybod eich hawliau fel defnyddiwr.

Eich hawliau

Os ydych wedi prynu nwyddau mae gennych hawl i ddisgwyl y dylent fod fel y’u disgrifiwyd, yn addas i’r pwrpas ac o ansawdd boddhaol:

Ystyr ‘fel y disgrifiwyd’ yw y dylent gyd-fynd ag unrhyw ddisgrifiad a geir am y nwyddau o ran nifer, lliw, mesuriadau ac ati. Gall y disgrifiadau hyn fod yn ddatganiadau ar lafar am y nwyddau, datganiadau mewn llyfryn, ar ochr silff neu hyd yn oed ar y blwch.

Mae nwyddau o ‘ansawdd boddhaol’ os byddant yn cyrraedd y safon y byddai unigolyn rhesymol yn ei ddisgwyl o ystyried y pris ac unrhyw ddisgrifiad.

Yn ôl y ddeddf mae nwyddau sydd o ansawdd boddhaol heb fân ddiffygion, â golwg a gorffeniad da ac yn wydn, diogel ac yn addas i bob pwrpas y cyflenwir y nwyddau hyn yn gyffredinol.

Yn ogystal â bod yn addas i’w pwrpas cyffredinol, dylai nwyddau fod yn addas i unrhyw bwrpas penodol y gwnaethoch chi a’r gwerthwr gytuno arno ar yr adeg y gwerthwyd y nwyddau [er enghraifft, os gwnaethoch ofyn yn benodol am argraffydd a oedd yn cydweddu â’ch cyfrifiadur].

Os nad yw’ch nwyddau yn foddhaol, gallwch hawlio ad-daliad, atgyweirio neu un yn ei le am hyd at 6 blynedd ar ôl prynu’ch nwyddau yng Nghymru a Lloegr a 5 mlynedd yn yr Alban.

Nid oes gennych hawl i gael ad-daliad o dan Ddeddf Gwerthiant Nwyddau 1979 os ydych wedi newid eich meddwl am bryniant neu eich bod wedi penderfynu nad ydych yn ei hoffi. Fodd bynnag, mae deddfwriaeth arall ar gyfer defnyddwyr fel Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000 yn darparu hawliau canslo eraill, gweler ein hadran prynu gartref am fwy o gyngor. 

Hawlio ad-daliad

Os yw nwyddau yn ddiffygiol ac rydych am hawlio ad-daliad llawn, mae’n rhaid i chi ddychwelyd y nwyddau i’r gwerthwr o fewn cyfnod rhesymol o amser, ni phennir y cyfnod hwn gan y ddeddf gan y bydd yn amrywio yn unol â beth a brynwyd ac amgylchiadau’r gwerthiant. Er enghraifft, efallai y byddwch yn prynu esgidiau a’u gwisgo'r diwrnod nesaf ac yna’n sylweddoli eu bod yn ddiffygiol a’u dychwelyd cyn pen wythnos i gael ad-daliad.

Fel arall, byddai’n rhesymol prynu sgïau mewn gwerthiant yn ystod yr haf a pheidio â’u defnyddio hyd y gaeaf ac yna eu dychwelyd am ad-daliad pan ddaethpwyd o hyd i’r diffyg. Yr arfer gorau yw gweithredu a rhoi gwybod am broblem a gofyn am ad-daliad cyn gynted â’ch bod wedi darganfod y diffyg.

O dan ba amgylchiadau y gallaf gael ad-daliad? Pryd bydd hawl gennyf i gael rhywbeth wedi’i atgyweirio neu un arall yn ei le yn unig?

Os ydych yn dychwelyd nwyddau nad ydynt o ansawdd boddhaol neu nid ydynt fel y’u disgrifir a’ch bod yn eu dychwelyd o fewn cyfnod rhesymol o amser, efallai y bydd gennych hawl i ofyn am ad-daliad llawn.

Os ydych wedi cael rhywfaint o ddefnydd o’r nwyddau neu eu bod gennych am ysbaid cyn eu dychwelyd, gallech ofyn am i’r eitem gael ei hatgyweirio neu am un arall yn eu lle. Fel defnyddiwr, chi biau’r dewis o ran beth hoffech i’r ateb fod, fodd bynnag, ni ddylech ofyn i’r masnachwr atgyweirio’r nwyddau neu roi un arall yn eu lle os byddai hyn yn rhy ddrud o gymharu ag ateb posibl arall. 

Os na all y masnachwr naill ai atgyweirio’r nwyddau neu ddarparu nwyddau eraill yn eu lle, yna mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad ym mhrisiau’r nwyddau i adlewyrchu’r defnydd hyd yna neu ad-daliad. Mae’r posibiliadau hyn yn bodoli ochr yn ochr â’r posibiliadau sydd ar gael i chi o dan y gyfraith gyffredin i derfynu’r contract am dor-amod ac i gael ad-daliad llawn.

Mae’n rhaid i unrhyw gynigion a wnaed gan y masnachwr gael eu gwneud o fewn amser rhesymol i’r defnyddiwr a heb achosi unrhyw anghyfleustra sylweddol.


Wrth bwy y byddaf yn hawlio ad-daliad, atgyweirio neu nwyddau eraill yn eu lle?
Gyda’r masnachwr ac nid gyda’r gweithgynhyrchwr mae eich contract ac felly dylech fynd at y masnachwr bob amser i wneud hawliad yn unol â’r Ddeddf Gwerthiant Nwyddau. Fodd bynnag, os ydych wedi talu am y nwyddau drwy ddefnyddio cytundeb credyd fel Cytundeb Hurbrynu yna mae eich hawliau yn wahanol a dylech gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr am gyngor pellach.

Os ydych wedi talu mwy na £100 am eich nwyddau drwy gerdyn credyd yna gall y masnachwr a’r cwmni cerdyn credyd fod yn gyfrifol am unrhyw dor- contract o dan Adran 75 o’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Mae’r cerdyn credyd yn atebol ar y cyd ac yn unigol sy’n golygu nad oes yn rhaid i chi fynd at y masnachwr yn gyntaf o ran eich hawliad, fodd bynnag, yn ymarferol efallai mai mynd at y masnachwr yw’r ffordd gyflymaf i ddatrys eich problem. I ysgrifennu llythyr at eich cwmni cerdyn credyd i hawlio ad-daliad am nwyddau diffygiol, cliciwch yn y fan hon am dempled.

A yw’r Ddeddf Gwerthiant Nwyddau yn berthnasol i nwyddau ail-law?
Ydyw, fodd bynnag, mae’n bwysig cofio nad yw’r gyfraith yn disgwyl yr un peth o ran ansawdd nwyddau ail-law ag y mae’n ei ddisgwyl o ran nwyddau newydd. Er enghraifft, efallai ei bod yn rhesymol i ddisgwyl bod traul a breuo i’w gweld yn amlwg yn y nwyddau ac i wydnwch y nwyddau fod wedi’i gyfyngu, yn ddibynnol ar oed y nwyddau.

A allaf hawlio ad-daliad ar bethau am bris is mewn sêl?
Mae’r Ddeddf Gwerthiant Nwyddau yn berthnasol ond ni fyddai gennych hawl i ad-daliad os tynnwyd eich sylw at y diffyg cyn y gwerthiant neu os oedd y diffyg yn amlwg. Os ydych yn newid eich meddwl ynglŷn â hoffi'r nwyddau, nid oes gennych hawliau o dan y Ddeddf Gwerthiant Nwyddau.

A oes rhaid i mi gael derbynneb er mwyn hawlio ad-daliad, atgyweirio nwyddau neu gael rhai eraill yn eu lle?

Nid yw’n ofynnol yn ôl y Ddeddf Gwerthiant Nwyddau a deddfwriaeth berthnasol arall i’r masnachwr ddarparu derbynneb i’r cwsmer ar adeg y gwerthu, felly byddai’n annheg i ddweud ei fod yn rhaid i chi ddangos un er mwyn cael ad-daliad. Fodd bynnag, mae'n rhesymol i’r masnachwr ofyn i chi ddangos rhyw fath o dystiolaeth o’r pryniad a gall hyn fod ar ffurf slip cerdyn credyd, cyfriflen banc neu fonyn siec ac ati.

Beth sy’n digwydd yn achos anghydfod ynghylch a oedd y nwyddau’n ddiffygiol adeg y gwerthiant?
Os ydych yn gwneud hawliad am atgyweirio nwyddau diffygiol neu am gael rhai eraill yn eu lle cyn pen chwe mis o’u prynu, yna mae’n rhaid i’r masnachwr brofi nad oeddent yn ddiffygiol pan y’u gwerthwyd i chi. Ar ôl chwech mis mae’n bosibl y gofynnir i chi brofi nad achoswyd y diffyg gan ddifrod damweiniol neu draul a breuo ac efallai y byddwch am gael adroddiad gan arbenigwr annibynnol i gefnogi’ch hawliad. Fodd bynnag, gall adroddiadau annibynnol fod yn ddrud felly, cyn cael un, mae’n bwysig trafod eich cynigion â’r masnachwr ac, os oes modd, dod i gytundeb ymlaen llaw ynghylch pwy fydd yn talu’r costau.

Gwnewch eich cwyn yn ysgrifenedig gan ddefnyddio Llythyr Enghreifftiol y Ddeddf Gwerthiant Nwyddau.
Anfonwch y llythyr drwy’r post yn unol â dosbarthiad wedi’i gofnodi a chadwch gopi o’r llythyr rydych wedi’i anfon ac unrhyw atebion a gewch fel bod gennych brawf o’r ohebiaeth.

Beth am werthwyr preifat, a yw’r Ddeddf Gwerthiant Nwyddau yn berthnasol iddynt hwy?
Gall y Ddeddf Gwerthiant Nwyddau fod yn berthnasol i gontractau rhwng unigolion preifat, ond rhannau ohoni yn unig. Os byddwch yn prynu oddi wrth unigolyn preifat, gallwch ddisgwyl bod gan y gwerthwr yr hawl i werthu’r nwyddau a bod y nwyddau fel y’u disgrifir.

Beth allaf ei wneud o ran hawliad yn erbyn gwerthwr os na fydd yn parchu fy hawliau?
Yn y DU a Chymru, cyn belled nad yw gwerth yr hawliad yn fwy na £5,000 gallwch gofnodi hawliad yn y llys mân hawliadau am swm rhesymol a heb ddefnyddio cyfreithiwr, gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth eich cynghori am sut i wneud hawliad. Yn yr Alban yn llys y Siryf gall gwerth eich hawliad fod hyd at a chynnwys £3,000 ac nid oes rhaid i chi benodi cyfreithiwr ond gall ffioedd llys a ffioedd cyfreithiol fod yn gymwys.

Os yw gwerth yr hawliad yn fwy na £5000, mae’n bosibl y byddai’n werth trafod gorfodi’ch hawliad â chyfreithiwr, mae gwasanaethau cyngor cyfreithiol cymunedol yn cadw cyfeirlyfr lle gallwch ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol yn eich ardal a gall gynghori os oes gennych hawl i gymorth cyfreithiol.


"Nôl i'r brig

Did you know

Wrth brynu cyrfrifiadur personol, ceisiwch ddarganfod pa feddalwedd sy’n cael ei gynnwys ac a yw wedi cael ei osod ymlaen llaw.

Rhagor o Wybodaeth >