Ewch yn syth i'r cynnwys

Gwefannau twyllodrus – gweithrediadau’r heddlu

Mae’r Heddlu a Safonau Masnach wedi bod yn cydweithio i gael gwared ar dwyll sy’n ymwneud â thocynnau ac, yn ddiweddar, maen nhw wedi bod yn rhan o’r ymdrech i gau gwefannau twyllodrus sy’n gwerthu tocynnau.

Mae’r gwefannau – sydd wedi gwasgaru ar hyd bedwar ban byd – wedi bod yn hysbysebu tocynnau ar werth ar gyfer gemau pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair a gemau Awdurdod Pêl-droed y DU; gan dwyllo cefnogwyr i brynu tocynnau sydd un ai’n ffug neu nad ydynt yn bodoli.

Yn anffodus i unigolion sydd wedi cael eu twyllo, mae’r tebygrwydd o gael eu harian yn ôl yn isel. Er bod gan bobl hawliau sy’n gysylltiedig â chontract ‘arferol’, darllenwch fwy fan hyn. Yn gyffredinol, nid oes gan y bobl sy’n rhedeg y ‘busnesau’ unrhyw fwriad o ddarparu tocynnau nac ad-dalu cwsmeriaid, ac mae’n anodd i ddefnyddwyr gael gafael arnynt i hawlio ad-daliad trwy’r llwybrau gwneud iawn arferol, er enghraifft trwy’r llysoedd.

Os yw gwerth y nwyddau neu wasanaethau rydych wedi’u prynu yn fwy na £100 ac eich bod wedi talu â cherdyn credyd, mae’n bosibl eich bod yn cael eich diogelu gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Mae’r ddeddf hon yn datgan bod y cwmni cerdyn credyd yn gyfartal atebol am unrhyw broblemau. Felly, os bydd problem yn codi, gallwch hawlio un ai oddi wrth y masnachwr neu’r cwmni cerdyn credyd. Mewn sefyllfaoedd lle nad yw’n bosibl gwneud hawliad yn erbyn y masnachwr, gall y Ddeddf Credyd Defnyddwyr ddod i’r adwy. Mwy o wybodaeth am brynu ar gredyd.

Os taloch â cherdyn debyd, nid ydych yn cael eich diogelu gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr ac felly nid oes ymrwymiad cyfreithiol ar ddarparwr y cerdyn i’ch ad-dalu. Ond, mae’n bosibl gofyn am ad-daliad yn unol â’r Cynllun Ad-dalu a weithredir gan aelodau cynlluniau Visa a Mastercard - cysylltwch â’ch banc am fwy o fanylion.

Os nad ydych yn siŵr beth ddylech chi ei wneud nesaf neu os nad ydych yn siŵr a yw’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn berthnasol yn eich achos chi, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr am fwy o gyngor.


"Nôl i'r brig

Did you know

Mae’n bosibl y bydd manwerthwyr trydanol yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig i chi. Os prynwch un, mae gennych 45 diwrnod i ganslo rhag ofn i chi newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >