Ewch yn syth i'r cynnwys

Prynu gartref

Dychwelyd neu ganslo archebion

Os ydych chi wedi archebu eitem o’ch cartref, gallwch ganslo’ch archeb a chael ad-daliad o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau. Darllenwch ragor i gael gweld sut.

Back to top

Pan fydd eich archeb yn cyrraedd

Mae gennych chi hawl i ddychwelyd eich archeb neu i’w chanslo am unrhyw reswm. Ond mae rhai eithriadau.
Os nad ydych yn hoffi’r nwyddau neu os ydych chi wedi newid eich meddwl, cewch ganslo’r archeb. Fel arfer, mae hyn o fewn y cyfnod ‘ail-feddwl’ o saith diwrnod. (Sylwch ei bod yn bosibl bod y rheolau ar gyfer gwasanaethau ariannol (gan gynnwys credyd defnyddwyr) yn caniatáu cyfnod gwahanol ar gyfer tynnu'n ôl.)

Back to top

Pryd i ganslo

Cewch ganslo ar unrhyw adeg hyd at:

  • ddiwedd y seithfed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y cewch chi’ch nwyddau; neu
  • ddiwedd y seithfed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y cytunodd y masnachwr fynd ymlaen â’r gwasanaeth.

Ond sylwch y gallech golli’ch hawl i ganslo ar ôl i’r gwasanaeth ddechrau.

Mae gennych chi dri mis arall i ganslo os na chawsoch chi’r holl wybodaeth ysgrifenedig angenrheidiol. Os bydd y masnachwr yn rhoi’r wybodaeth yma ichi’n hwyr - ond cyn diwedd y cyfnod o dri mis - bydd gennych chi hyd at saith diwrnod i ganslo o’r diwrnod y cewch chi’r wybodaeth.

Back to top

Sut i ganslo

I ganslo’ch archeb, rhaid ichi ddweud wrth y gwerthwr mewn ysgrifen - drwy lythyr, ffacs neu e-bost. Os byddwch yn anfon llythyr, anfonwch y llythyr drwy’r post cofrestredig, er mwyn profi eich bod wedi’i anfon ac olrhain sut mae’n mynd yn ei flaen.

Back to top

Ad-daliadau ar ôl canslo

Os ydych chi wedi talu am y nwyddau neu’r gwasanaethau yn barod, rhaid i’r gwerthwr ad-dalu’ch arian cyn pen 30 diwrnod ar ôl ichi ganslo’r cytundeb.

Os ydych wedi talu am y nwyddau drwy gyfrwng cytundeb credyd a gafodd ei awgrymu neu ei drefnu gan y gwerthwr, bydd y cytundeb yn cael ei ganslo’n awtomatig.

Back to top

Pryd na chewch chi ganslo

Sylwch fod yna amgylchiadau pan na chewch chi ganslo oni bai bod y masnachwr wedi rhoi hawl benodol ichi i wneud hynny, sef:

Os yw’r masnachwr eisoes wedi dechrau darparu’r gwasanaeth o fewn y cyfnod canslo a’ch bod chi wedi cytuno â hynny. Mae’n rhaid eich bod wedi cael gwybod mewn ysgrifen - cyn i’r cyflenwr gytuno i gyflawni’r gwasanaeth - y byddech chi’n colli’ch hawl i ganslo wedyn.

  • Os cawsoch chi wneud y nwyddau yn unol â’ch manyleb chi neu eu personoleiddio.
  • Os yw’r eitemau’n debyg o bydru neu ddirywio’n gyflym, fel blodau neu fwydydd ffres.
  • Os na all y nwyddau gael eu dychwelyd oherwydd eu natur.
  • Os ydych chi wedi agor meddalwedd, CDs, DVDs etc oedd o dan sêl.
  • Os mai papurau newydd, cyfnodolion neu gylchgronau yw’r nwyddau.
  • Os prynsoch chi wasanaethau betio, gamblo neu loteri.
  • Os yw’r pris yn dibynnu ar amrywiadau yn y farchnad ariannol.
  • Os yw’r nwyddau wedi’u personoleiddio’n amlwg.

"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi nwyddau ffug ac nad ydyn nhw’n bodloni’ch disgwyliadau, chewch chi ddim gwasanaeth na gwarant ar ôl ichi eu prynu.

Rhagor o Wybodaeth >