Os aiff rhywbeth o’i le
Os aiff rhywbeth o’i le pan fyddwch yn siopa o’ch cartref, gall hynny greu mwy byth o rwystredigaeth nag wrth siopa yn y ffordd draddodiadol. Ond cofiwch, mae gennych chi hawliau, ac mae yna gamau y gallwch eu cymryd.
- Os yw’r pris wedi codi
- Os na ddaw’r nwyddau mewn pryd
- Os aiff y masnachwr i’r wal
- Sut i gwyno
- Mynd â phethau ymhellach
Cyn ichi archebu, fe ddylai’r gwerthwr fod wedi dweud wrthoch chi, mewn ysgrifen:
- Am faint y byddai pris y nwyddau neu’r gwasanaethau yn parhau.
- Holl fanylion y costau eraill fel postio a phacio.
- Unrhyw drethi y mae angen ichi eu talu.
Hyd yn oed os gwnaeth y gwerthwr roi’r holl wybodaeth ichi, os yw’r pris terfynol yn wahanol i’r pris gawsoch chi, mae’n bosibl bod y gwerthwr wedi torri’r gyfraith.
Beth i’w wneud
Fel rheol, mae gennych chi hawl i ganslo am unrhyw reswm o fewn saith diwrnod gwaith ar ôl i’r nwyddau ddod i law. (Sylwch ei bod yn bosibl bod y rheolau ar gyfer gwasanaethau ariannol (gan gynnwys credyd defnyddwyr) yn caniatáu cyfnod gwahanol ar gyfer tynnu'n ôl.) Os oedd yr wybodaeth ysgrifenedig yn anghywir, mae gennych fwy o amser i ganslo.
Os nad ydych chi am ganslo
Darllenwch y telerau a’r amodau a gofynnwch i’r masnachwr gyfiawnhau’r cynnydd yn y pris. Gallai teler eang a digyfyngiad mewn contract, sy’n caniatáu i’r masnachwr gynyddu’r pris, fod yn deler annheg.
Os na ddaw’r nwyddau mewn pryd
Mae’n rhaid i’r gwerthwr gael y nwyddau atoch erbyn y dyddiad y cytunwyd arno. Os na chytunwyd ar ddyddiad, rhaid i’r gwerthwr gael y nwyddau atoch cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r archeb gael ei gosod.
Dylai’r gwerthwr roi gwybod ichi os nad oes modd anfon y nwyddau mewn pryd. Os nad ydych chi am roi rhagor o amser i’r gwerthwr, dylai roi ad-daliad ichi cyn pen 30 diwrnod.
Os yw’r dyddiad i’r nwyddau gyrraedd wedi mynd heibio yn barod a chithau heb gael dim byd, triniwch y peth fel petaech chi heb osod yr archeb o gwbl. Os ydych wedi talu yn barod, mynnwch gael ad-daliad llawn.
Os bydd busnes masnachwr yn methu a’ch bod chithau heb gael eich nwyddau, ond wedi talu amdanyn nhw, mae yna risg y gallech chi golli’ch arian. Efallai y bydd mwy o amddiffyniad neu hawliau ychwanegol gennych os ydych chi wedi talu â cherdyn credyd.
Er hynny, efallai y gallwch chi gael ad-daliad os prynsoch chi bethau drwy bapur newydd neu gylchgrawn sy’n rhedeg cynllun i ddiogelu taliadau ymlaen llaw. Mae pedwar cynllun o’r math. Mae amodau pob un yn wahanol, felly holwch y cynllun perthnasol i weld a ydyn nhw’n gymwys i chi.
Sylwch: cyn iddyn nhw dalu, mae rhai cynlluniau’n mynnu bod rhaid i’r masnachwyr fod wedi torri neu wedi datod: dydy’r ffaith bod y masnachwr wedi rhoi’r gorau i fasnachu ddim yn ddigon.
Papurau newydd cenedlaethol
The National Newspapers' Mail Order Protection Scheme Ltd
Ffôn: 01628 641930
Cyfnodolion a chylchgronau
Periodical Publishers' Association Ltd
Ffôn: 020 7404 4166
Ffacs: 020 7404 4167
Papurau newydd rhanbarthol a lleol
The Newspaper Society
Ffôn: 020 7636 7014
Ffacs: 020 7631 5119
Papurau newydd dyddiol yr Alban
The Scottish Daily Newspaper Society
Ffôn: 0131 220 4353
e-bost: info@sdns.org.uk
Os oes cwyn gennych chi, darllenwch drwy’r telerau a’r amodau ac wedyn:
- Cysylltwch â’r masnachwr yn gyntaf.
- Esboniwch mor fanwl ag y gallwch beth yw’r broblem.
- Dywedwch wrth y masnachwr beth hoffech chi iddyn nhw ei wneud.
- Cadwch gofnod o’r sgwrs neu’r llythyr, hynny yw dyddiadur o’r digwyddiadau.
Gwybodaeth i’w chynnwys mewn cwyn
- Dylech gynnwys y canlynol:
- Enw a chyfeiriad llawn y masnachwr.
- Unrhyw gyfeirnod ar eich archeb.
- Manylion yr hyn gafodd ei archebu.
- Dyddiad unrhyw hysbyseb a’r cyhoeddiad roedd yr hysbyseb ynddo.
- Dyddiad yr archeb.
- Y swm a dalwyd.
- Y dull talu.
- Y rhif ar eich derbynneb.
- Y rheswm am eich cwyn.
- Unrhyw fanylion perthnasol eraill.
Os ydych yn dal yn anfodlon ar ôl cwyno i’r masnachwr, cysylltwch â ni i gael cyngor. Fel arall, os ydych yn dal yn anfodlon, efallai yr hoffech fynd â’ch cwyn ymhellach. Efallai bod yna gymdeithas masnach neu sefydliad tebyg a allai helpu.
Dysgwch ragor am wneud cwyn
Arbitration
Cyflafareddu
Os yw’r masnachwr yn aelod o gymdeithas fasnach, efallai y bydd yna gynllun cymodi neu gyflafareddu. Yn aml, mae’r rhain yn anffurfiol ac yn rhad, ond gofynnwch a fydd rhaid ichi dalu unrhyw ffioedd os byddwch yn colli.
Sylwch: yn gyffredinol mae’n rhaid ichi ddewis rhwng mynd i’r llys a chyflafareddu - chewch chi ddim gwneud y ddau. Os na fyddwch yn hoffi penderfyniad y cyflafareddwr, chewch chi ddim mynd i’r llys wedyn, ac eithrio o dan amgylchiadau arbennig.
Dysgwch ragor am ddelio ag anghydfodau
Mynd i’r llys
Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar bopeth arall a’ch bod yn dal yn anfodlon, efallai yr hoffech ystyried mynd â’r mater i’r llys er mwyn dwyn achos i gael eich arian yn ôl neu iawndal. Cofiwch, gallwch gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr i gael cyngor unrhyw bryd.
Beth sy’n digwydd
Os ydych yn hawlio £5,000 neu lai (£750 yn yr Alban), gallwch ddefnyddio gweithdrefnau’r hawliadau bychain yn y llys sirol neu, yn yr Alban, yn y llys Siryf.
Mae’r hawliadau bychain yma yn cael eu gwrando yn anffurfiol ac yn breifat. Mae yna ffi i’r llys, ond eich gwrthwynebydd sy’n gorfod talu os byddwch yn ennill eich achos. Mae’r ffioedd yn amrywio yn ôl y swm sy’n cael ei hawlio a’r Gwasanaeth Llysoedd sy’n eu pennu.
Holwch eich llys sirol neu’ch llys siryf lleol i gael rhagor o wybodaeth (chwiliwch o dan 'courts' yn y llyfr ffôn er mwyn cael y cyfeiriad). Fe fyddan nhw’n gallu rhoi taflenni ichi i esbonio gweithdrefnau’r llys.
Hyd yn oed os byddwch yn colli
Dim ond os bydd y llys yn credu eich bod wedi gweithredu’n afresymol y bydd rhaid ichi dalu costau cyfreithiol eich gwrthwynebydd - er enghraifft, bod eich hawliad cychwynnol yn afresymol neu eich bod chi heb drafferthu dod i’r gwrandawiad.
Mae’r weithdrefn hawliadau bychain wedi’i fwriadu i chi gael delio â’ch achos eich hun. Mae taflenni sy’n esbonio’r weithdrefn yn fanylach ar gael yn swyddfa’ch llys sirol lleol.

