Hygyrchedd
Mae’n gwefan ni wedi’i chreu yn unswydd i chi. Gobeithio y bydd yn hygyrch iawn ichi ac y byddwch yn dod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani.
Os ydych yn cael anhawster i ddod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, defnyddiwch yr offeryn chwilio yng nghornel uchaf y tudalen yma ar y dde neu cysylltwch â ni
- Ffyrdd gwahanol i lywio drwy’r wefan
- Sgipio’r llywio
- Bysellau cyrchu
- Cymorth ar gyfer gwahanol borwyr
- Dogfennau PDF
- Cynyddu maint y testun
Ffyrdd gwahanol i lywio drwy’r wefan
Mae’n hawdd symud o gwmpas y wefan yma drwy ddefnyddio’r cysylltiadau ar frig y tudalen i ddefnyddwyr sy’n defnyddio llygoden a bysellfwrdd.
Mae "bysellau cyrchu" wedi’u cynnwys i helpu defnyddwyr sydd ag anableddau wrth iddyn nhw symud drwy’r wefan. Dewisiadau cyflym ar y bysellfwrdd yw’r bysellau cyrchu yn y bôn, ac maen nhw’n cynnig ffordd gyflym a hwylus i gyrraedd tudalennu cyffredin heb fod angen llygoden.
Mae cyfleuster wedi’i ddarparu i sgipio’r llywio ar y wefan yma, a hynny er lles defnyddwyr sy’n defnyddio darllenydd sgrin.
Gallwch roi’r cyfleuster ar waith drwy ddefnyddio’r cyfuniad o fysellau sgipio llywio, sef CTRL, ALT ac S yn ôl pa borwr penodol rydych chi’n ei ddefnyddio.
Drwy sgipio’r llywio ar unrhyw dudalen penodol, byddwch yn osgoi’r adrannau llywio ac yn mynd yn syth i brif gynnwys y tudalen.
Mae’r bysellau cyrchu canlynol yn gweithio ar holl dudalennau gwefan yr OFT:
0 – Hygyrchedd
1 – Hafan
2 – Yr ystafell newyddion
3 – Map o’r wefan
4 – Chwilio
9 – Cysylltwch â ni
J – Am Gyswllt Defnyddwyr
K – Cyn ichi brynu
L – Ar ôl ichi brynu
P – Gofalwch
Cymorth ar gyfer gwahanol borwyr
Mae’r ffordd i ddefnyddio’r bysellau cyrchu yn amrywio yn ôl y porwr:
- Internet Explorer 5+: Daliwch y fysell ALT i lawr a dewiswch rif neu lythyren y fysell gyrchu, yna pwyswch ENTER
- Internet Explorer 4: Daliwch y fysell ALT i lawr a dewiswch rif neu lythyren y fysell gyrchu
- Internet Explorer 5+ i’r Mac: Daliwch y fysell CTRL i lawr a dewiswch rif neu lythyren y fysell gyrchu
- Internet Explorer 4.5 i’r Mac: Dydy’r bysellau cyrchu ddim ar gael
- Mozilla: Daliwch y fysell ALT i lawr a dewiswch rif neu lythyren y fysell gyrchu
- Netscape 6+: Daliwch y fysell ALT i lawr a dewiswch rif neu lythyren y fysell gyrchu
- Fersiynau cynharach Netscape: Dydy’r bysellau cyrchu ddim ar gael
Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, rydyn ni’n ceisio sicrhau bod dogfennau PDF ar ein gwefan mor hygyrch â phosibl. Os ydych yn dal yn cael problemau wrth gyrchu’n dogfennau PDF edrychwch ar offeryn trosi ar-lein adobe. Bydd offeryn trosi adobe yn trosi ffeiliau i fformat HTML 3.2 neu fformat ffeil testun.
Bydd rhai defnyddwyr yn gweld ei bod yn haws darllen testun y sgrin drwy gynyddu maint y tesun sy’n cael ei arddangos. I wneud hyn, dylech addasu gosodiadau’ch porwr.
- Os ydych yn defnyddio Microsoft Internet Explorer, ewch i’r ddewislen View, dewiswch Text Size ac wedyn naill ai Larger neu Largest.
- Os ydych yn defnyddio Firefox, ewch i’r ddewislen Golwg, dewiswch Maint Testun ac wedyn naill ai Cynyddu Ctrl + +, Lleihau Ctrl + - neu Arferol Ctrl + 0.
- Os ydych yn defnyddio Opera, ewch i’r ddewislen Tools, dewiswch Preferences ac yna cliciwch ar y tab Web pages. Dewiswch fotwm y ffont normal. Bydd blwch deialog yn codi ac yn cynnig opsiynau i gynyddu/lleihau maint y ffont, math y ffont, pwysau ac arddull y ffont.
- Os ydych yn defnyddio Netscape Navigator, ewch i’r ddewislen View a dewiswch Increase Font nes bod y maint yn cyrraedd yr hyn rydych chi’n chwilio amdano.

