Yr hyn rydyn ni’n ei wneud
Mae’n cynghorwyr ni’n gallu ateb eich ymholiadau ffôn ac e-bost, a rhoi gwybodaeth a chyngor am eich hawliau fel defnyddiwr. Ond allwn ni ddim argymell nwyddau neu wasanaethau penodol, cwyno i fasnachwr ar eich rhan, na rhoi cyngor am gynhyrchion a gwasanaethau penodol. Os oes gennych chi ymholiad na allwn ni ymdrin ag e ein hunain, gwnawn ein gorau glas i’ch cyfeirio chi at sefydliad sy’n gallu gwneud.
Os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn neu’r e-bost, gall Cyswllt Defnyddwyr:
- Rhoi cyngor ichi cyn ichi siopa a phrynu nwyddau neu wasanaethau.
- Esbonio’ch hawliau chi fel defnyddiwr.
- Eich cynghori os oes gennych chi broblem neu anghytundeb gyda masnachwr.
- Eich helpu i wneud cwyn am fasnachwr sydd wedi gwneud rhywbeth o’i le yn eich barn chi (er na fyddwn ni’n cwyno ar eich rhan).
- Rhoi cyngor cyffredinol am sut i osgoi masnachwr diegwyddor neu "gowbois".
- Esbonio materion defnyddwyr fel gwarantiadau, prynu ar gredyd, siopa ar y rhyngrwyd, ad-daliadau a newid nwyddau etc.
- Rhoi cyngor am osgoi cael eich twyllo.
- Eich cyfeirio at reoleiddiwr neu gorff arall os ydyn nhw’n fwy addas i’ch helpu.
- Cyfeirio’ch achos at adran Gwasanaethau Safonau Masnachu eich awdurdod lleol neu asiantaeth debyg os ydyn nhw’n fwy addas i’ch helpu.
Bydd Cyswllt Defnyddwyr yn ymdrin â phroblemau neu gwestiynau pob galwr yn unigol. Byddwn yn rhoi asesiad gonest, diduedd ar y sefyllfa ac os oes modd byddwn yn argymell cwrs gweithredu clir i’w ddilyn. Dim ond rhoi gwybodaeth a chyngor allwn ni. Allwn ni ddim ymyrryd yn uniongyrchol mewn materion defnyddwyr, fel cymryd camau yn erbyn masnachwr.
Os yw’n briodol, gallem anfon manylion cwyn ymlaen at asiantaeth sydd wedi’i hawdurdodi i gymryd camau uniongyrchol, fel y Gwasanaethau Safonau Masnachu.
Does dim rhaid ichi roi manylion personol er mwyn defnyddio gwasanaeth Cyswllt Defnyddwyr. Ond, fe allai hyn effeithio ar y ffordd y caiff eich ymholiad neu’ch cwyn ei drin a’i drafod.
Cysylltwch â ni, neu dysgwch ragor am sut gallwn ni helpu
Yr hyn rydyn ni’n methu â’i wneud
Mae Cyswllt Defnyddwyr yn methu:
- Argymell masnachwr neu gorff i chi (ond fe allwn eich cyfeirio at gorff arall sydd â gwybodaeth ddefnyddiol).
- Rhoi gwybodaeth benodol ichi ynghylch a oes cwyn wedi’i wneud am fasnachwr neu beidio.
- Cwyno i fasnachwr ar eich rhan.
- Rhoi cyngor am gynhyrchion penodol (ac eithrio materion diogelwch).
- Rhoi cyngor am gyfleustodau fel cyflenwadau nwy, trydan a dŵr (ond fe allem eich cyfeirio at reoleiddiwr neu gorff arall sy’n gallu’ch helpu).
- Rhoi cyngor am forgeisiau, tenantiaethau neu fudd-daliadau tai/lles.
- Rhoi cyngor am ddyledion personol neu gam-werthu ariannol.
- Rhoi cyngor am faterion llywodraeth leol.
Nid gwasanaeth cyfreithiol yw Cyswllt Defnyddwyr. Er hynny, mae’n cynghorwyr ni wedi’u hyfforddi ym mhob agwedd ar hawliau defnyddwyr. Mae hynny’n ein galluogi i gynnig cyngor sy’n gywir o safbwynt y gyfraith a chyrsiau gweithredu y gall y defnyddwyr ddibynnu arnyn nhw.
Cysylltwch â ni, dysgwch ragor am y cyrff rydyn ni'n gweithio gyda nhw neu dysgwch ragor am sut gallwn ni helpu

