Polisi Preifatrwydd
Mae’r datganiad yma’n ymdrin â’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan wefan Cyswllt Defnyddwyr.
Rheolwr Data y wefan yma yw’r Swyddfa Masnachu Teg. Mae Cyswllt Defnyddwyr yn wasanaeth gwybodaeth a chyngor ar-lein ac ar y ffôn i ddefnyddwyr. Cafodd ei lansio yn 2004, ac yn y pen draw fe fydd yn gweithredu drwy Brydain Fawr i gyd (Cymru, Lloegr a’r Alban).
Mae gwefan Cyswllt Defnyddwyr yn cael ei rheoli gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT). Diben y datganiad yma yw rhoi gwybodaeth ichi am y canlynol:
- Pa wybodaeth amdanoch rydyn ni’n ei chasglu wrth ichi ymweld â’r wefan yma
- Sut rydyn ni’n diogelu’ch preifatrwydd
- Sut rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth
- Pryd y gallen ni ddatgelu gwybodaeth i bartïon y tu allan i Gyswllt Defnyddwyr a’r OFT
- Beth gallwch ei wneud os hoffech chi weld yr wybodaeth amdanoch sydd gennym
- Cysylltiadau â gwefannau eraill o wefan Cyswllt Defnyddwyr
- Newidiadau i’r polisi preifatrwydd yma
Pa wybodaeth amdanoch rydyn ni’n ei chasglu wrth ichi ymweld â’r wefan yma
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol gan yr ymwelwyr hynny â www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk sy’n anfon e-bost atom gydag ymholiadau a chwynion am fasnachwyr, gyda sylwadau a chwynion am wasanaeth Cyswllt Defnyddwyr, a chydag adborth am y safle. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn gallu cynnwys manylion personol fel enwau a chyfeiriadau, cyfeiriadau e-bost a manylion ymholiadau unigol. Hefyd, rydym yn casglu gwybodaeth am sut mae’r wefan ei hun yn cael ei defnyddio.
Sylwch nad oes rhaid ichi roi’ch manylion personol er mwyn defnyddio gwasanaeth Cyswllt Defnyddwyr. Er hynny, os dewiswch chi beidio â’u rhoi, fe allai hynny effeithio ar y ffordd y byddwn yn trafod eich ymholiad neu’ch cwyn.
Os byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ‘E-bostio’r tudalen yma i ffrind’, sylwch nad ydym yn cadw manylion y cyfeiriadau e-bost sy’n cael eu rhoi fel hyn.
Sut rydyn ni’n diogelu’ch preifatrwydd
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi yn cael ei chadw yn ddiogel gan Gyswllt Defnyddwyr yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Mae’r Ddeddf honno’n diogelu’ch gwybodaeth bersonol ac yn sicrhau:
- mai dim ond at y dibenion sy’n cael eu datgan yn glir ichi ymlaen llaw y caiff eich gwybodaeth ei chadw a’i phrosesu,
- mai dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen er mwyn cyflawni’r prosesau hyn y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth,
- y byddwn yn sefydlu mesurau priodol er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw a’i phrosesu yn ddiogel ac yn gyfrinachol.
Sut rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth
Ymholiadau a Chwynion Defnyddwyr
Os byddwch yn e-bostio Cyswllt Defnyddwyr gydag ymholiad neu gŵyn defnyddiwr, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi er mwyn eich cynghori am eich hawliau fel defnyddiwr, am sut i osgoi problemau defnyddwyr a sut i roi sylw i unrhyw broblemau y gallech fod wedi’u cael. Gall fod angen inni roi gwybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i sefydliad sy’n bartner i ni er mwyn rhoi sylw i broblem rydych chi wedi’i chael; rydym hefyd yn rhannu data gyda’r partneriaid er mwyn helpu i fonitro gweithgareddau ac arferion masnachu (gweler ‘Pryd y gallen ni ddatgelu gwybodaeth i bartïon y tu allan i Gyswllt Defnyddwyr a’r OFT’). Byddwn yn cadw manylion eich ymholiad neu’ch cwyn am chwe blynedd.
Sylwadau a chwynion am Gyswllt Defnyddwyr
Os oes gennych sylw am y gwasanaeth rydych chi wedi’i gael – da neu ddrwg – byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a rowch i’n helpu i gynnal a gwella’n gwasanaeth i’n holl gwsmeriaid. Byddwn yn cadw manylion eich sylwadau am chwe blynedd.
Os oes gennych gŵyn am Gyswllt Defnyddwyr ei hun, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a rowch er mwyn ymchwilio i’ch cwyn. Os cafodd eich ymholiad neu’ch cwyn gwreiddiol eu trosglwyddo i un o’n partneriaid, gall fod angen hefyd inni roi manylion eich cwyn iddyn nhw i’w helpu i ymchwilio ymhellach iddo. Byddwn yn cadw manylion eich cwyn am chwe blynedd.
I gael manylion am sut i roi’ch sylwadau inni neu wneud cwyn am Gyswllt Defnyddwyr, a sut y byddwn yn trafod eich sylwadau a’ch cwynion, edrychwch ar Eich Adborth Chi am Gyswllt Defnyddwyr.
Adborth
Rydym yn croesawu’ch adborth. Os rhowch chi adborth am wefan Cyswllt Defnyddwyr drwy gyfrwng ein ffurflen ar-lein, dim ond i ddatblygu a gwella’r wefan y defnyddiwn ni’r wybodaeth yma. Gallwn gadw manylion eich adborth am hyd at flwyddyn.
Cwcis ac ystadegau ymwelwyr
Ffeiliau byr y gall gwefan eu storio ar eich cyfrifiadur chi wrth ichi ymweld â’r wefan yw cwcis. Mae’r ffeiliau hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio’r wefan ac maen nhw’n gallu cynnwys manylion personol. Mae www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk yn defnyddio cwcis i gasglu ystadegau am sut mae ymwelwyr yn defnyddio’r wefan. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma i wella cynllun y wefan a’r wybodaeth arni, ar sail y ffordd y bydd ymwelwyr yn dod i’r wefan, yn symud o’i hamgylch ac yn ymadael â hi.
Yn ychwanegol, mae tudalennau penodol ar y wefan yma yn defnyddio cwcis i gyfrif faint o ymwelwyr sydd wedi cyrraedd y tudalennau hyn drwy gyfrwng ein hysbysebion ar-lein. Fydd y ffeiliau hyn ddim yn cynnwys manylion personol.
Pryd y gallen ni ddatgelu gwybodaeth i bartïon y tu allan i Gyswllt Defnyddwyr a’r OFT
Mae Cyswllt Defnyddwyr yn gweithio gydag amrywiaeth mawr o sefydliadau sy’n monitro gweithgareddau masnachu, yn helpu unigolion i osgoi problemau defnyddwyr a/neu’n datrys problemau defnyddwyr y maen nhw wedi’u cael. Rydym yn rhoi data am yr ymholiadau sy’n dod i law i sefydliadau sy’n gorfodi’r ddeddfwriaeth ar faterion defnyddwyr a deddfwriaeth arall (er enghraifft Gwasanaethau Safonau Masnachu yr Awdurdodau Lleol a’r Swyddfa Masnachu Teg) ac fe allen ni roi’ch manylion personol i’r sefydliadau hyn, fel rhan o’r data yma.
Os ydym yn dymuno rhoi gwybodaeth i sefydliad sy ddim yn cymryd rhan mewn gorfodi (er enghraifft un o ganolfannau Cyngor ar Bopeth), byddwn yn gofyn yn unswydd am eich cydsyniad cyn rhoi’ch manylion chi iddyn nhw.
Byddwn yn datgelu’r manylion fel hyn er mwyn i’n partneriaid gadw llygad ar arferion masnachu, cymryd camau i roi sylw i broblem ar eich rhan neu er mwyn iddyn nhw nodi masnachwyr sy’n peri problem a mathau newydd o dwyll. Bydd unrhyw wybodaeth amdanoch y byddwn yn ei throsglwyddo i bartner yn cael ei chadw’n ddiogel gan y parti hwnnw, yn unol â Deddf Diogelu Data 1998, a’i defnyddio i ddarparu’r gwasanaethau uchod yn unig.
Mewn achosion penodol, gall y partneriaid hyn ddwyn erlyniad; yn yr achosion hyn, byddan nhw’n cysylltu â chi i ofyn eich caniatâd i ddefnyddio gwybodaeth amdanoch chi o dan yr amgylchiadau hyn.
Sylwch nad yw’n ofynnol ichi roi’ch manylion personol er mwyn defnyddio gwasanaeth Cyswllt Defnyddwyr. Er hynny, os dewiswch beidio â’u rhoi, fe allai hynny effeithio ar y ffordd y byddwn yn trafod eich ymholiad neu’ch cwyn.
Gall Cyswllt Defnyddwyr ddefnyddio’r data sy’n cael ei gasglu hefyd i gynhyrchu adroddiadau a gwybodaeth ystadegol, sy’n gallu cael eu rhannu â’n partneriaid. Bydd gwybodaeth am gŵynion yn cael ei chasglu hefyd, a gall Cyswllt Defnyddwyr ddefnyddio’r data cyfun yn fewnol, neu ei rannu ag unrhyw un o’r partneriaid sydd wedi’u rhestru uchod. Fyddwn ni ddim yn cynnwys eich manylion personol yn y data cyfun yma.
Beth gallwch ei wneud os hoffech chi weld yr wybodaeth amdanoch sydd gennym
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’ch manylion personol ar unrhyw adeg i sicrhau bod yr wybodaeth amdanoch sydd gan Gyswllt Defnyddwyr yn gywir. Os hoffech chi wneud hyn, ysgrifennwch (gan esbonio bod gennych ddiddordeb mewn data personol sy’n cael ei gadw gan Gyswllt Defnyddwyr) at y
Data Protection Officer,
Office of Fair Trading,
Open Government and Data Protection Unit,
Fleetbank House, 2-6 Salisbury Square
London EC4Y 8JX
Cysylltiadau â gwefannau eraill o wefan Cyswllt Defnyddwyr
Mae’n gwefan yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill, sef gwefannau adrannau eraill o’r Llywodraeth yn bennaf, ond hefyd gwefannau ein partneriaid a chyrff eraill. Mae’r polisi preifatrwydd yma yn gymwys i’n gwefan ni yn unig. Dydy’r OFT ddim yn gyfrifol am yr arferion preifatrwydd yn unrhyw un o’r gwefannau eraill hyn. Dylech fod yn ymwybodol o hyn bob amser werth ymadael â gwefan www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk ac rydym yn eich annog i ddarllen y datganiad preifatrwydd ar unrhyw wefan arall sy’n casglu gwybodaeth bersonol.
Newidiadau i’r polisi preifatrwydd yma
Pan fydd y polisi preifatrwydd yma’n newid, byddwn yn gosod fersiwn diwygiedig ar y tudalen yma. Bydd ailedrych ar y tudalen yma’n rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o’r wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill, os ydym yn ei rhannu o gwbl.
Dylech bob amser edrych ar y polisi preifatrwydd cyn defnyddio’r wefan, hyd yn oed os ydych wedi ymweld â hi yn y gorffennol. Mae hynny’n sicrhau y byddwch yn ymwybodol o unrhyw newidiadau. Dydy newidiadau yn ein polisi preifatrwydd ddim yn effeithio ar wybodaeth amdanoch sydd gennym yn barod.

