Cyrff rydyn ni’n gweithio gyda nhw
Gall y sefydliadau canlynol eich helpu gydag amrywiaeth mawr o faterion defnyddwyr.
Cymorth ar amrywiaeth o broblemau, gan gynnwys cwynion am siopa. I ddod o hyd i CAB yn lleol, edrychwch ar www.citizensadvice.org.uk
Mae’r ASA yn ymchwilio i gwynion am hysbysebion, hyrwyddiadau gwerthiant a marchnata uniongyrchol. Gall yr ASA atal hysbysebion camarweiniol neu niweidiol neu hysbysebion sy’n peri tramgwydd, sicrhau bod gwerthiant yn cael ei hyrwyddo’n deg, helpu i leihau post masnachol nad oes ei eisiau a datrys problemau wrth brynu drwy’r post.
I wybod mwy am yr ASA neu i wneud cwyn, edrychwch ar www.asa.org.uk
Yn darparu cyngor am ddim gan gyfreithwyr a gweithwyr achosion arbenigol mewn meysydd fel cyflogaeth, mewnfudo, budd-daliadau lles, tai a gwahaniaethu. I ddod o hyd i’ch swyddfa leol, edrychwch ar www.lawcentres.org.uk
Mae Cymdeithas Ombwdsmyn Prydain ac Iwerddon (www.bioa.org.uk) yn cyhoeddi cyfeirlyfr o gynlluniau ombwdsmyn a chyrff sy’n trafod cwynion yn y DU ac Iwerddon. Mae’r cyfeirlyfr yn rhoi manylion byr am bob cynllun a sut i gysylltu â’r cynllun drwy ffonio, llythyr, ffacs neu e-bost.
Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr
Mae manylion eu cynllun i ddefnyddwyr ar gael yn www.arbitrators.org
Cyngor Cyflafareddu yr Alban
Mae manylion eu cynllun i’w gweld yn www.scottish-arbitrators.org
Y Gwasanaeth Cymodi Cenedlaethol
Yn ymdrin â chwynion am geir wedi’u defnyddio, trwsio a chynnal-a-chadw yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rhagor o wybodaeth www.rmif.co.uk
Gwasanaeth Cwynion Cwsmeriaid, Cymdeithas Masnach Moduron yr Alban
Yn ymdrin â chwynion am geir wedi’u defnyddio, trwsio a chynnal-a-chadw yn yr Alban. Rhagor o wybodaeth yn www.smta.co.uk
Cymdeithas y Gweithgynhyrchwyr a’r Manwerthwyr Moduron
Cwynion am geir sydd yn dal o dan warantiad y gweithgynhyrchydd. Rhagor o wybodaeth yn www.smmt.co.uk
Ffederasiwn y Canolfannau Gwybodaeth a Chyngor
Cysylltwch ag asiantaethau cynghori annibynnol drwy gyfrwng yr FIAC yn www.adviceuk.org.uk
Y Llinell Ddyledion Genedlaethol
Llinell gymorth ar y ffôn i bobl sydd â phroblemau dyledion. Rhagor o wybodaeth yn www.nationaldebtline.co.uk
Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr
Yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol am ddim i helpu i sicrhau atebion realistig i broblemau dyled, osgoi methdaliad a dysgu trafod arian. Rhagor o wybodaeth yn www.cccs.co.uk
Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol
Yn gweithredu fel rhwyd ddiogelwch derfynol i ddefnyddwyr sydd â hawliadau yn erbyn ffyrmiau ariannol awdurdodedig sy’n methu â’u talu, er enghraifft am eu bod wedi rhoi’r gorau i’r busnes. Mae’n ymdrin ag ernesau, yswiriant a buddsoddiadau.
Rhagor o wybodaeth yn www.fscs.org.uk
Cynllun yr Ombwdsmon Ariannol
Yn rhoi cyngor annibynnol am ddim i ddefnyddwyr ar gyfer datrys anghydfodau gyda ffyrmiau ariannol. Rhagor o wybodaeth yn www.financial-ombudsman.org.uk
Gallwch weld a yw manwerthwr yn aelod neu beidio yn www.retra.co.uk
Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Offer Trydan i’r Cartref
Gallwch weld a yw manwerthwr yn aelod neu beidio. Mae’r manylion cysylltu ar gael yn
www.amdea.org.uk
Cymdeithas Gwasanaethau Offer Domestig
Gallwch weld a yw manwerthwr yn aelod neu beidio yn www.dasa.org.uk
Cynllun Ombwdsmon Asiantau Tai
Yn ymdrin â chwynion yn erbyn un o’i aelodau. Rhagor o wybodaeth yn www.oea.co.uk
Cynllun Cymodi Cenedlaethol Qualitas
Edrychwch i weld a yw manwerthwr dodrefn wedi cofrestru o dan god ymarfer Qualitas. Mae rhagor o fanylion ar gael yn www.qualitas.uk.com
Trwydded Trefnwyr Teithiau Awyr Mae ATOL yn diogelu’r cyhoedd rhag colli arian neu gael eu gadael mewn gwlad dramor am fod ffyrm teithio awyr wedi methu. Rhagor o wybodaeth yn www.atol.org.uk
Trwyddedu Trefnwyr Teithiau Awyr
Yn cynnig cyngor am bynciau sy’n gysylltiedig â theithio ac yn gallu cadarnhau a yw asiant teithio neu weithredwr gwyliau yn aelod o ABTA neu beidio. Rhagor o wybodaeth yn www.abta.com
Cyngor Defnyddwyr Cludiant Awyr
Yn cynghori teithwyr awyr am eu hawliau. Rhagor o wybodaeth yn www.auc.org.uk
Y Tollau Tramor a Chartref
Yn cynnig cyngor am dollau tramor a chartref yn www.hmrc.gov.uk
Y Cyngor Rhannu Amser
Yn rhoi cyngor i ddefnyddwyr sydd â phroblemau rhannu amser yn www.timeshare.org.uk
Cyngor y DTI ar Rannu Amser
Yn rhoi cyngor am rannu amser ar daflen ffeithiau sydd i’w gweld yma.
Cynllun Cystadleuaeth Pro Bono
Mae’r Cynllun Cystadleuaeth Pro Bono yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim i unigolion a busnesau sy’n credu bod eu hawliau o dan y gyfraith ar gystadleuaeth wedi’u torri neu sy’n poeni y gallen nhw fod yn torri hawliau.
www.probonogroup.org.uk/competition
Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyfreithiol
Yn ymchwilio i’r ffordd y mae cwynion am gyfreithiwr yn cael eu trafod gan gorff proffesiynol y cyfreithiwr ei hun. Rhagor o wybodaeth yn www.olso.org
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyfreithiol yr Alban
Yn ymchwilio i gwynion am y ffordd y mae corff proffesiynol wedi trafod cwyn yn erbyn ymarferydd cyfreithiol. Rhagor o wybodaeth yn www.slso.org.uk
Cymdeithas Masnachwyr Archebu drwy’r Post
Chwiliwch i weld a yw cwmni archebu drwy’r post yn aelod neu beidio. Mae’r manylion cysylltu ar gael yn www.adassoc.org.uk
Y Gymdeithas Marchnata Uniongyrchol
Chwiliwch i weld a yw cwmni archebu drwy’r post yn aelod neu beidio yn www.dma.org.uk
Cynllun Diogelwch wrth Archebu o’r Cartref drwy’r Papurau Newydd Cenedlaethol (SHOPS)
Yn darparu iawndal i ddarllenwyr papurau cenedlaethol pan fydd y defnyddiwr yn prynu’n uniongyrchol drwy hysbysebion a chatalogau sydd wedi’u gosod mewn papurau newydd cenedlaethol. Rhagor o wybodaeth yn: www.shops-uk.org.uk
Galwadau/post/negeseuon ffacs na ofynnwyd amdanyn nhw
Cynllun Dewisiadau Post
Yn tynnu’ch enw oddi ar restrau postio nad ydych eisiau bod arnyn nhw. Mae’r manylion cysylltu i’w gweld yn www.dma.org.uk
Cynllun Dewisiadau Ffôn
Yn galluogi defnyddwyr i ddewis peidio â chael galwadau gwerthu a galwadau marchnata nad ydyn nhw wedi gofyn amdanyn nhw. Rhagor o fanylion yn www.tpsonline.org.uk
Gwasanaeth Dewisiadau Ffacs
Yn galluogi defnyddwyr i ddewis peidio â chael negeseuon ffacs gartref sy’n gwerthu ac yn marchnata. Rhagor o fanylion yn www.fpsonline.org.uk
Y Swyddfa Gyfathrebiadau
Ofcom yw rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU ac mae’n gyfrifol am wasanaethau ym maes teledu, radio, telathrebu a chyfathrebu diwifr. www.ofcom.org.uk
Y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr
Dylai cwynion fynd at eich cwmni dŵr lleol i ddechrau. Os ydych am fynd â’r peth ymhellach, edrychwch ar www.ofwat.gov.uk
Cyngor Defnyddwyr Dŵr
Asiantaeth genedlaethol sy’n gwarchod defnyddwyr y diwydiant dŵr. www.ccwater.org.uk

