Ewch yn syth i'r cynnwys

Cyrff rydyn ni’n gweithio gyda nhw

Safonau Masnach

Rôl adrannau Safonau Masnach yw rhoi grym a gwybodaeth i ddefnyddwyr, hybu busnes gonest, a thargedu masnachwyr twyllodrus ac arferion masnach twyllodrus.

Mae Cyswllt Defnyddwyr yn gweithio mewn partneriaeth â’r Safonau Masnach i roi cyngor i ddefnyddwyr. Pan fyddwch yn ffonio Safonau Masnach, mae’n debyg y caiff eich galwad ei chyfeirio at Gyswllt Defnyddwyr, neu y byddan nhw’n gofyn ichi’n ffonio ni er mwyn i ni roi cyngor cychwynnol ichi.

Mae’r trefniant yma yn caniatáu i chi y defnyddiwr gael cyngor ar y ffordd orau i fynd i’r afael â’ch problem ac mae’n caniatáu i’r gwasanaethau safonau masnach ddelio â materion mwy cymhleth, yn aml ar sail yr wybodaeth rydyn ninnau wedi’i throsglwyddo iddyn nhw.

Yn aml, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn gallu rhoi sylw i’ch gofid chi ar unwaith ond, pan fydd angen ymyrryd yn uniongyrchol ar eich rhan neu pan fydd angen cyngor wyneb-yn-wyneb, fe allem eich cyfeirio at Wasanaethau Safonau Masnach yr Awdurdod Lleol neu gorff arall sy’n gallu helpu.

Mae’n bwysig nodi bod y gwasanaethau y gall y Gwasanaethau Safonau Masnach eu cynnig yn gallu amrywio o’r naill awdurdod lleol i’r llall.

  •  Edrychwch ar wefan Safonau Masnach i gael rhagor o wybodaeth.

"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi nwyddau ffug ac nad ydyn nhw’n bodloni’ch disgwyliadau, chewch chi ddim gwasanaeth na gwarant ar ôl ichi eu prynu.

Rhagor o Wybodaeth >