Cyrff rydyn ni’n gweithio gyda nhw
Cyrff eraill
Mae gan Gyswllt Defnyddwyr bartneriaethau allweddol hefyd â dau gorff y tu allan i’r llywodraeth, sef Cyngor ar Bopeth a Chyswllt y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol.
anchor[Cyngor ar Bopeth]Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig gwybodaeth i bobl am eu hawliau - gan gynnwys budd-daliadau, tai a chyflogaeth, ac am ddyledion, materion defnyddwyr a materion cyfreithiol.
Nod Cyngor ar Bopeth yw rhoi grym i ddinasyddion drwy roi’r wybodaeth y mae arnyn nhw ei hangen i ddatrys eu problemau eu hunain a’u cyfeirio at gyngor priodol pan fydd arnyn nhw ei angen.
Gall pobl gael cymorth a chyngor drwy ymweld ag un o swyddfeydd Cyngor ar Bopeth neu drwy edrych ar
www.adviceguide.org.uk
Mae gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn rhwydwaith o elusennau annibynnol.
anchor[Cyswllt y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol] Cyswllt y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr a bod arnoch eisiau gwybodaeth gyfreithiol o ansawdd dda i’ch helpu i ymdrin â’ch problemau cyfreithiol, gall Cyswllt y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (Cyswllt CLS) helpu. Mae’r gwasanaeth ar gael drwy ffonio 0845 345 4 345 neu drwy edrych ar y wefan yn www.clsdirect.org.uk
Gallwch:
- Ddarllen taflenni gwybodaeth gyfreithiol neu daflenni cymorth cyfreithiol am ddim
- Chwilio am gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr lleol o ansawdd dda
- Chwilio am wybodaeth gyfreithiol o blith detholiad o’r gwefannau cynghori gorau yn y DU
- Gweld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol drwy alw eu llinell gymorth genedlaethol ar 0845 345 4 345 i gael
cyngor am ddim am broblemau gyda budd-daliadau, credydau treth, tai, cyflogaeth, addysg neu ddyledion.
Os ydych yn byw yn yr Alban, ewch i ymweld â Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban i gael rhagor o gymorth. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i ymweld â Chomisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol Gogledd Iwerddon i gael rhagor o gymorth. Cyfrifoldeb y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yw sefydlu, cynnal a datblygu’r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (CLS). Yn 2003-04 gwariodd y Comisiwn ryw £900 miliwn drwy’r CLS, gan helpu dros filiwn o bobl gyda’u problemau cyfreithiol sifil. Mae partneriaid fel awdurdodau lleol a chronfeydd y loteri yn darparu rhagor o gymorth ac arian

