Ewch yn syth i'r cynnwys

Cyrff rydyn ni’n gweithio gyda nhw

Mae gan y Swyddfa Masnachu Teg, sy’n rheoli Cyswllt Defnyddwyr, nifer o bartneriaid rhyngwladol.

 

Back to top

ECA - Awdurdodau Cystadleuaeth Ewropeaidd

Cafodd yr ECA ei sefydlu yn 2001 yn fforwm trafod ar gyfer yr awdurdodau cystadleuaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Cymdeithas anffurfiol yw’r ECA ac mae’n anelu at wella’r cydweithredu rhwng awdurdodau cystadleuaeth a chyfrannu at orfodaeth effeithlon ar y gyfraith genedlaethol ac Ewropeaidd. Mae’r cydweithredu’n cael ei ddatblygu drwy drefnu cyfarfodydd, sefydlu gweithgorau a chyfnewid gwybodaeth, arbenigedd a staff.
Edrych ar wefan yr OFT

Back to top

ICN – Y Rhwydwaith Cystadleuaeth Rhyngwladol

Sefydliad rhithwir yw’r ICN, a gafodd ei sefydlu yn 2001 gan awdurdodau cystadleuaeth i drafod amrywiaeth o faterion ymarferol ynghylch gorfodi cystadleuaeth a pholisi cystadleuaeth. Mae’n rhwydwaith anffurfiol o awdurdodau cystadleuaeth o wledydd sydd wedi datblygu a gwledydd sydd wrthi’n datblygu. Mae’n gweithredu drwy gonsensws. Mae aelodau’r ICN yn cyfarfod bob blwyddyn i drafod ffrydiau gwaith sydd wedi’u seilio ar brojectau, gan anelu at rannu profiadau, cyfnewid safbwyntiau a gwella’r cydweithredu rhyngwladol ar faterion cystadleuaeth.
www.internationalcompetitionnetwork.org/

Back to top

ICPEN – Rhwydwaith Rhyngwladol Diogelwch a Gorfodaeth Defnyddwyr

Mae ICPEN yn rhwydwaith anffurfiol o’r awdurdodau sy’n gorfodi diogelwch defnyddwyr mewn mwy na 30 o wledydd ledled y byd (ynghyd â sylwedyddion o’r OECD a’r CE).  Prif amcan y rhwydwaith yw hybu camau ymarferol i atal camymddygiad mewn marchnata ar draws ffiniau. Mae’r rhwydwaith yn hybu cydweithredu anffurfiol rhwng aelodau ICPEN, sy’n cyfarfod fel grŵp ddwywaith y flwyddyn yn y wlad sy’n dal y Llywyddiaeth.
 www.icpen.org

Back to top

OECD – Pwyllgor Polisi Defnyddwyr

Aelodau’r Pwyllgor Polisi Defnyddwyr yw’r adrannau polisi diogelu defnyddwyr o’r 30 gwlad sy’n aelodau o’r OECD ynghyd â sylwedyddion. Mae’r OFT yn mynychu’r Pwyllgor, ar y cyd ag Adran Masnach a Diwydiant y DU. Mae’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, i edrych ar gwestiynau sy’n ymwneud â pholisi a’r gyfraith ar ddefnyddwyr ac i gyfrannu at ragor o ddatblygu a chryfhau ar y cydweithredu rhwng yr aelod-wledydd wrth ddatblygu polisïau ac wrth orfodi'r gyfraith.
Gwefan polisi defnyddwyr yr OECD

Back to top

OECD – Pwyllgor Cyfraith a Pholisi Cystadleuaeth

Mae’r Pwyllgor Cystadleuaeth yn dwyn ynghyd yr awdurdodau cystadleuaeth o’r 30 gwlad sy’n aelodau o’r OECD ynghyd â sylwedyddion. Mae’r OFT yn cymryd rhan weithgar yn y Pwyllgor Cystadleuaeth ac mae’n cynrychioli’r DU ym Miwro Cystadleuaeth y Pwyllgor. Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn i drafod gweithgareddau’r aelod-wledydd ym maes cystadleuaeth ac i gyfnewid profiad a datblygu’r arferion gorau ar bynciau sydd o ddiddordeb i bob aelod. Mae’r Pwyllgor hefyd yn cynnal deialogau yn null yr OECD gyda gwledydd nad ydyn nhw’n aelodau yn y Fforwm Byd-eang blynyddol ar gystadleuaeth.
gwefan polisi cystadleuaeth yr OECD


"Nôl i'r brig

Did you know

Os byddwch yn prynu cyfrifiadur ar-lein, gwnewch yn siŵr fod gan y cwmni gyfeiriad a rhif ffôn yn y DU, rhag ofn bod rhaid ichi gysylltu â nhw os bydd problem yn codi.

Rhagor o Wybodaeth >