Ewch yn syth i'r cynnwys

Cyrff rydyn ni’n gweithio gyda nhw

Mae Cynllun Cymeradwyo Codau Defnyddwyr (CCAS) yn ffordd i ddod o hyd i fusnes y gallwch ymddiried ynddo.

Mae’r CCAS yn cymeradwyo codau defnyddwyr sy’n cael eu gweinyddu gan gorff masnach (sef cymdeithas fasnach at ei gilydd). Rhaid i’r corff masnach roi tystiolaeth bod eu cod defnyddwyr yn bodloni meini prawf ymestynnol sydd wedi’u pennu gan yr OFT, bod aelodau’r corff masnach yn defnyddio’r cod yn iawn a bod y cod o fantais i’w cwsmeriaid. Dim ond pan fydd yr OFT yn gwbl sicr bod y cod yn effeithiol y bydd yn ei gymeradwyo.

Pan fydd cod wedi’i gymeradwyo gan yr OFT, wedyn mae’r corff masnach a’i aelodau’n cael arddangos logo Cod wedi’i gymeradwyo gan yr OFT. Os yw busnes yn arddangos logo Cod wedi’i gymeradwyo gan yr OFT, gallwch fod yn hyderus y byddan nhw:

  • Wedi ymrwymo i’ch trin yn deg os bydd problemau’n codi
  • Yn gwarantu gwasanaeth da i’w cwsmeriaid
  • Yn rhoi gwybodaeth bendant am y nwyddau neu’r gwasanaethau y maen nhw’n eu gwerthu
  • Wedi rhoi gweithdrefnau syml, cyflym a hawdd eu defnyddio ar gyfer ymdrin â chwynion cwsmeriaid
  • Yn cynnig datrys anghydfod am ddim neu am dâl bach, megis cymrodeddu neu ombwdsmon, os na allwch gytuno sut i ddatrys problem
  • Yn cynnig mwy o hawliau ichi nag y mae’r gyfraith yn eu rhoi.
  • Os ydych chi am ddod o hyd i aelod o god sydd wedi’i gymeradwyo gan yr OFT yn eich ardal chi, neu os hoffech gael gwybod a ydy’r busnes rydych chi wedi ymwneud ag e yn aelod o god sydd wedi’i gymeradwyo gan yr OFT, neu os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth am y CCAS, edrychwch ar wefan y CCAS yn www.oft.gov.uk/codes

Gweler hefyd:

Codau ymarfer 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os gwelwch chi nam ar eitem drydan yn y misoedd cyntaf ar ôl ei phrynu, dylech fynd nôl at y manwerthwr a’i gwerthodd i chi (nid at y gweithgynhyrchydd).

Rhagor o Wybodaeth >