Ewch yn syth i'r cynnwys

Cyrff rydyn ni’n gweithio gyda nhw

Llais Defnyddwyr

Sefydlwyd Llais Defnyddwyr drwy uno tri sefydliad defnyddwyr, sef Golwg ar Ynni, Golwg ar Bost a’r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol (gan gynnwys Cyngor Defnyddwyr Cymru a Chyngor Defnyddwyr yr Alban). Mae’r dull newydd yn caniatáu mwy o undod i eiriol: ar ran defnyddwyr, gydag un sefydliad â llais cryf a’r gallu i ddod â thrawstoriad o arbenigedd at ei gilydd ar gyfer bethau sydd o bryder i ddefnyddwyr.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.consumerfocus.org.uk

Canolfannau Cyngor ar Bopeth

Mae canolfannau Cyngor ar Bopeth yn helpu ar amrywiaeth o broblemau gan gynnwys cwynion yn ymwneud â siopa. I ddod o hyd i’ch canolfan leol ewch i www.citizensadvice.org.uk

Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA)

Mae’r Awdurdod yn archwilio cwynion am hysbysebu, ymgyrchoedd gwerthu a marchnata uniongyrchol. Gall yr Awdurdod atal hysbysebion camarweiniol, niweidiol neu gas, sicrhau y cynhelir ymgyrchoedd gwerthu yn deg, ceisio lleihau post masnachol nas dymunir a datrys problemau ynghylch archebu drwy’r post.

Am fwy o wybodaeth am yr Awdurdod neu i gyflwyno cwyn ewch i www.asa.org.uk.


Canolfannau Cyfraith

Mae Canolfannau Cyfraith yn darparu cyngor am ddim gan gyfreithwyr a gweithwyr achos arbenigol mewn meysydd fel diweithdra, mewnfudo, budd-daliadau, tai a gwahaniaethu. I ddod o hyd i’ch swyddfa leol ewch i www.lawcentres.org.uk

Ombwdsmyn

Mae Cymdeithas Ombwdsmyn Prydain ac Iwerddon (www.bioa.org.uk) yn cyhoeddi cyfeirlyfr o gynlluniau ombwdsmyn a sefydliadau sy’n ymdrin â chwynion yn y DU ac yn Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys manylion cryno am bob cynllun a sut i gysylltu â hwy dros y ffôn, neu drwy anfon ffacs, llythyr neu neges e-bost.

Cyflafareddu

Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr
Ceir manylion o’u cynllun defnyddwyr yn www.arbitrators.org

Cyngor Cyflafareddu’r Alban
Gellir cael manylion o’u cynlluniau yn www.scottish-arbitrators.org

Ceir

Motor Codes

Sefydlwyd Motor Codes, a gefnogwyd gan y diwydiant cyfan, y llywodraeth a’r lobi defnyddwyr, i weithredu fel sefydliad hunanreoleiddiol ar gyfer y sector cerbydau modur ac mae wedi bod yn gyfrifol am weithredu dau god ymarfer yn llwyddiannus, sef y cod Ceir Newydd a’r Cod Gwasanaethu ac Atgyweirio ac mae trydydd cynllun bellach, sef un sy’n cynnwys cynhyrchion dan warant. Gallwch fynd i www.motorindustrycodes.co.uk am gyngor a gwybodaeth am ystod gynhwysfawr o faterion moduro neu gallwch ffonio am gyngor ar 0800 692 0825.

Cymdeithas Adeiladwyr ac Atgyweiriwyr Cerbydau
Mae Cymdeithas Adeiladwyr ac Atgyweiriwyr Cerbydau yn gweinyddu cod ymarfer ar gyfer atgyweiriwyr ceir sydd wedi’i chymeradwyo gan y Swyddfa Masnachu Teg, ac mae ganddi drefn ymdrin â chwynion sy’n cynnwys trefn gwneud iawn annibynnol. Am fwy o wybodaeth ewch i’w gwefan www.vbra.co.uk/

Robert Bosch Cyf
Mae Robert Bosch Cyf yn gweinyddu cod ymarfer ar gyfer eu modurdai sy’n gwasanaethu ac yn atgyweirio ceir ac sydd wedi’i gymeradwyo gan y Swyddfa Masnachu Teg ac mae ganddo drefn ymdrin â chwynion sy’n cynnwys trefn gwneud iawn annibynnol. Am fwy o wybodaeth ewch i’w gwefan www.boschcarservice.co.uk/

Cymdeithas Rhentu a Phrydlesu Cerbydau Prydain
Mae Cymdeithas Rhentu a Phrydlesu Cerbydau Prydain yn ymdrin â chwynion am rentu a phrydlesu ceir yn y DU. Am fwy o wybodaeth ewch www.bvrla.co.uk

Credyd a dyled

Ffederasiwn Canolfannau Gwybodaeth a Chyngor (FIAC)
Cysylltwch ag asiantaethau cyngor annibynnol drwy FIAC yn www.adviceuk.org.uk

Llinell Ddyled Genedlaethol
Llinell ffôn gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau dyledion. Ceir mwy o wybodaeth yn www.nationaldebtline.co.uk

Llinell Gymorth Ansolfedd
Am gyngor diduedd ar gyfer rheoli dyledion, methdalu neu ansolfedd ewch i’r wefan ganlynol: www.insolvencyhelpline.co.uk

Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr
Mae’r Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr yn darparu gwasanaeth cyfrinachol am ddim wrth geisio cael atebion realistig i broblemau dyled, osgoi methdalu a dysgu sut i drin arian. Ceir mwy o wybodaeth yn www.cccs.co.uk

Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol
Mae Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol yn rhwyd ddiogelwch derfynol ar gyfer defnyddwyr sydd â hawliadau yn erbyn cwmnïau ariannol awdurdodedig sy’n methu eu talu oherwydd, er enghraifft, eu bod wedi mynd allan o fusnes. Mae’n cynnwys blaendaliadau, yswiriant a buddsoddiadau.
Ceir mwy o wybodaeth yn www.fscs.org.uk

Cynllun yr Ombwdsmon Ariannol
Mae Cynllun yr Ombwdsmon Ariannol yn darparu cyngor annibynnol am ddim i ddefnyddwyr ynghylch datrys anghydfodau â chwmnïau ariannol. Ceir mwy o wybodaeth yn www.financial-ombudsman.org.uk

Crimestoppers

Mae Crimestoppers yn gweithredu ar draws y DU i helpu adnabod, atal, datrys a gostwng troseddau. Mae’r gwasanaeth cymunedol amhrisiadwy hwn yn galluogi unrhyw un sydd â manylion am weithgareddau troseddol i roi manylion yn ddienw, heb ofni cael eu henwi na dial arnynt.

Yr unig beth y mae angen ei wneud ar gyfer rhoi’r wybodaeth yw ffonio 0800 555 111. Ymdrinnir â phob galwad yn gwbl anhysbys fel na fydd neb yn gwybod pwy yw’r galwr, ac eithrio chi. Mae gwobrau ar gael hefyd ac fe’u telir heb gyfaddawdu anhysbysrwydd galwr. Am fwy o wybodaeth ewch i Crimestoppers www.crimestoppers-uk.org/

Nid gwasanaeth brys mohono, ac os gwelwch drosedd, dylech ffonio 999 er mwyn rhoi gwybod amdano ar unwaith. Os ydych wedi dioddef trosedd, dylech gysylltu â’ch gorsaf heddlu leol am hyn - bydd y rhif ffôn yn y Llyfr Ffôn neu ewch i’r orsaf leol.

Gwerthu Uniongyrchol

Cymdeithas Gwerthu Uniongyrchol
Mae’r Gymdeithas Gwerthu Uniongyrchol yn gweinyddu cod ymarfer ar gyfer ei haelodau sy’n gwerthu’n uniongyrchol fel Avon, Betterware ac ati, ac sydd wedi’i gymeradwyo gan y Swyddfa Masnachu Teg ac mae ganddi drefn ymdrin â chwynion, sy’n cynnwys trefn gwneud iawn annibynnol. Am fwy o wybodaeth ewch i’w gwefan www.dsa.org.uk/


Nwyddau trydan

Cymdeithas Manwerthwyr Radio Trydan a Theledu Cyf
Ceisiwch wybod os yw manwerthwr yn aelod yn www.retra.co.uk

Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Offer Trydan Domestig
Ceisiwch wybod os yw manwerthwr yn aelod. Gellir cael manylion cyswllt yn www.amdea.org.uk

Cymdeithas Gwasanaethu Offer Domestig
Ceisiwch wybod os yw manwerthwr yn aelod yn www.dasa.org.uk

Gwerthwyr tai

Yr Ombwdsmon Eiddo
Mae’r Ombwdsmon Eiddo yn gweinyddu cod ymarfer ar gyfer yr holl aelodau sy’n ymwneud â gwerthiannau preswyl sydd wedi’i gymeradwyo gan y Swyddfa Masnachu Teg ac mae ganddo drefn ymdrin â chwynion, sy’n cynnwys trefn gwneud iawn annibynnol. Am fwy o wybodaeth ewch i www.tpos.co.uk/

Dodrefn a gorffennu tai

Yr Ombwdsmon Dodrefn

Y sefydliad safonau annibynnol ar gyfer dodrefn (gan gynnwys gorchuddion llawr, ceginau ac ystafelloedd ymolchi). Gellir cael mwy o wybodaeth yn: www.thefurnitureombudsman.org/

Gall defnyddwyr sydd wedi prynu oddi wrth un o aelodau’r Ombwdsmon Dodrefn ddefnyddio ei wasanaeth cymodi/cyflafareddu i ddatrys eu hanghydfod yn anffurfiol.

Gellir cael aelodau llawn yr Ombwdsmon Dodrefn yn www.thefurnitureombudsman.org/members-of-tfo/registered-members-list

Os oes gan ddefnyddiwr anghydfod â rhywun nad yw’n aelod o’r cynllun, gall yr Ombwdsmon Dodrefn gynnal archwiliad annibynnol a darparu adroddiad ysgrifenedig a fydd yn sefydlu a oes cwyn dilys; er enghraifft diffyg gweithgynhyrchu. Y pris isaf am yr adroddiadau hyn yw £99.00 a gall yr archwiliadau gael eu cynnal ar hyd a lled y wlad.

Gellir gweld manylion am yr adroddiadau yn: www.thefurnitureombudsman.org/services

Y Ganolfan Cyngor Annibynnol am Geginau

Mae’r ganolfan cyngor annibynnol am geginau yn cynnig gwasanaeth arolwg ac adrodd i helpu datrys materion rhwng cwsmeriaid a chyflenwyr ceginau gan ddarparu adroddiadau annibynnol, am fwy o wybodaeth ewch i www.ikab.co.uk

Y Sefydliad Carpedi

Mae’r Sefydliad Carpedi yn gweinyddu cod ymarfer ar gyfer manwerthwyr carpedi sydd wedi’i gymeradwyo gan y Swyddfa Masnachu Teg ac mae ganddo drefn ymdrin â chwynion, sy’n cynnwys trefn gwneud iawn annibynnol. Am fwy o wybodaeth ewch i. www.carpetfoundation.com

Gwyliau

Trwydded Trefnydd Teithiau Awyr (ATOL)

Mae ATOL yn diogelu’r cyhoedd rhag colli arian neu fethu â mynd o wlad dramor oherwydd methiant cwmni teithiau awyr. Ceir mwy o wybodaeth yn www.atol.org.uk

Cymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain
Mae’r Gymdeithas yn cynnig cyngor ar faterion yn ymwneud â theithio. Ceir mwy o wybodaeth yn www.abta.com

Cyngor Defnyddwyr Cludiant Awyr
Mae’r Cyngor yn rhoi cyngor i deithwyr awyr am eu hawliau. Ceir mwy o wybodaeth yn www.auc.org.uk

Cyllid a Thollau
Mae’n cynnig cyngor ar gyllid a thollau yn www.hmrc.gov.uk

Carafanau

Cymdeithas Genedlaethol Perchnogion Carafanau (NACO)

Mae NACO yn sefydliad sy’n cynrychioli perchnogion carafanau gwyliau sefydlog a’i nod yw hyrwyddo tegwch o ran telerau contract ac wrth ymdrin â chwsmeriaid.

Lle bo angen, bydd NACO yn cynorthwyo aelodau sydd â chwynion dilys i gael setliad drwy sianelau cyfreithiol os na ellid eu datrys drwy ddulliau eraill fel cyfryngu.

Mae gan NACO Wasanaeth Cyngor i Aelodau a gellid cysylltu â’r Gymdeithas ynglŷn ag unrhyw beth, o newidiadau i gontractau meysydd carafanau i fwy o wybodaeth am ei Rhaglen Gyswllt Gyfnewid lle gall aelodau gyfnewid carafanau ag aelodau eraill ac ymweld â lleoliadau gwahanol ledled Prydain.

Gallwch gysylltu â’r Gymdeithas drwy ffonio 01255 820 321 neu cewch fwy o wybodaeth ar ei gwefan www.nacoservices.com

Cyfrannau Cyfnodol

Y Gymdeithas Cyfrannau Cyfnodol (TATOC)

Cymdeithas ddefnyddwyr yw TATOC sy’n cynrychioli buddiannau dros chwarter miliwn o berchnogion unedau cyfrannau cyfnodol mewn mwy na 80 o gyrchfannau. Mae’n gweithredu gwasanaeth ffôn a gwasanaeth rhyngrwyd os oes gan aelodau o’r cyhoedd ymholiadau ynghylch cyfrannau cyfnodol, ailwerthu neu glybiau gwyliau . Ewch i www.timeshareassociation.org neu ffoniwch 0845 230 2430 am fwy o wybodaeth.

Y Sefydliad Datblygu Cyrchfannau (RDO)

Corff masnach ar gyfer y diwydiant cyfrannau cyfnodol a pherchnogaeth ffracsiynol yn Ewrop yw’r RDO. Mae’n cynnig gwasanaeth am ddim os cyflwynir cwyn am un o’i aelodau ynghyd â chynllun datrys anghydfod pris isel yn y sefyllfa annhebygol na chaiff y gŵyn ei datrys. Ceir mwy o wybodaeth yn www.rdo.org neu cysylltwch â’r adran gwasanaeth defnyddwyr yn info@rdo.org

Gwasanaethau cyfreithiol

Cynllun Cystadlu Pro Bono
Mae Cynllun Cystadlu Pro Bono yn cynnig rhywfaint o gyngor cyfreithiol am ddim i unigolion a busnesau sydd o’r farn bod eu hawliau o dan gyfraith cystadlu wedi’u torri neu sy’n pryderu eu bod hwy yn troseddu. www.probonogroup.org.uk/competition

Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyfreithiol yn archwilio’r ffordd yr ymdrinnir â chwynion am gyfreithwyr gan sefydliad proffesiynol y cyfreithiwr. Ceir mwy o wybodaeth yn www.olso.org

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyfreithiol yr Alban
Mae Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyfreithiol yr Alban yn archwilio cwynion am y modd y mae sefydliad proffesiynol wedi ymdrin â chwyn yn erbyn ymarferydd cyfreithiol. Ceir mwy o wybodaeth yn www.slso.org.uk

Prynu drwy’r Post

Cymdeithas Masnachwyr sy’n Gwerthu drwy’r Post
Chwiliwch a yw cwmni sy’n gwerthu drwy’r post yn aelod o’r Gymdeithas. Gellir cael manylion cyswllt yn www.adassoc.org.uk

Cymdeithas Marchnata Uniongyrchol
Chwiliwch p’un ai yw’r cwmni archebu drwy’r post yn aelod yn www.dma.org.uk

Cynllun Papurau Newydd Cenedlaethol i Ddiogelu Archebu’n Ddiogel o’ch Cartref (SHOPS)
Mae’r cynllun yn darparu iawndal i ddarllenwyr papurau newydd cenedlaethol pan fydd y defnyddiwr yn prynu’n uniongyrchol drwy hysbysebion a chatalogau a welir mewn papurau newydd cenedlaethol. Ceir mwy o wybodaeth yn: www.shops-uk.org.uk

Galwadau/post/ffacsiau digroeso

Cynllun dewis post
Mae’r cynllun yn dileu eich manylion post o restrau post digroeso. Ceir mwy o fanylion yn www.dma.org.uk

Cynllun Dewis Galwadau Ffôn
Mae’r Cynllun yn galluogi defnyddwyr ddewis peidio â derbyn galwadau gwerthu a marchnata. Ceir mwy o fanylion yn www.tpsonline.org.uk

Gwasanaeth Dewis Ffacs
Mae’r Gwasanaeth yn galluogi defnyddwyr ddewis peidio â derbyn ffacsiau gwerthu a marchnata nas archebwyd gartref. Ceir mwy o fanylion yn www.fpsonline.org.uk

Y Swyddfa Gyfathrebiadau
Rheoleiddiwr ar gyfer cyfathrebiadau’r DU yw Ofcom ac mae cyfrifoldebau ganddo am deledu, radio, telegyfathrebu a gwasanaethau cyfathrebu diwifr. www.ofcom.org.uk

Comisiwn Cwynion y Wasg (PCC)
Sefydliad annibynnol yw Comisiwn Cwynion y Wasg sy’n ymdrin â chwynion gan y cyhoedd am gynnwys golygyddol papurau newydd a chylchgronau. Mae’n gweithio hefyd er mwyn atal aflonyddwch gan y cyfryngau a gall gynnig cyngor cyn cyhoeddi i’r cyhoedd. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan: www.pcc.org.uk/

Y Rhyngrwyd

Eich dewisiadau ar-lein (Your Online Choices)
Ar y wefan hon cewch wybodaeth am sut y mae hysbysebu ymddygiadol yn gweithio, mwy o wybodaeth am gwcis a’r camau y gellir eu cymryd i ddiogelu’ch preifatrwydd ar y rhyngrwyd. Am fwy o wybodaeth a chanllaw syml ynghylch hysbysebu ymddygiadol ewch i www.youronlinechoices.co.uk/

Byddwch yn Ddiogel Ar-lein (Get safe online)
Rhowch brawf i’ch sgiliau diogelwch ar-lein, ceisiwch gyngor ar-lein am ddiogelwch eich cyfrifiadur a diogelwch gwybodaeth adnabod ar-lein drwy wasgu ar y ddolen hon i fynd i Get Safe Online.

Partneriaeth ar y cyd rhwng y Llywodraeth, yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA), Ofcom a noddwyr sector preifat o’r meysydd technoleg, cyfathrebu, manwerthu a chyllid sy’n annog defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel.

Dŵr

Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr [Ofwat]
Ofwat yw rheoleiddiwr economaidd cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr. Am fwy o wybodaeth ewch i www.ofwat.gov.uk

Cyngor Defnyddwyr Dŵr
Asiantaeth defnyddwyr cenedlaethol i warchod y diwydiant dŵr, dylai cwynion yn y lle cyntaf gael eu cyfeirio at eich cwmni dŵr lleol. Os ydych am fynd â’ch cwyn ymhellach, ewch i’r wefan ganlynol www.ccwater.org.uk

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os bydd rhywbeth yn bod ar ddyfais drydanol yn yr ychydig fisoedd o’i phrynu, dylech fynd yn ôl at y manwerthwr a werthodd yr eitem i chi ( nid y gwneuthurwr).

Rhagor o Wybodaeth >