Sut gallwn ni helpu
Rydyn ni’n rhoi cyngor clir, ymarferol, diduedd i’ch helpu i ddatrys problemau ac anghytundebau a all fod gennych gyda chyflenwyr nwyddau neu wasanaethau.
O godi gormod o dâl i nwyddau diffygiol neu grefftwaith gwael, mae’n cynghorwyr ni’n barod i gynnig atebion i broblemau unigol.
Rydyn ni’n cynnig cymorth a chyngor i bob defnyddiwr unigol ym Mhrydain Fawr (waeth beth fo’u hoed, eu rhyw, eu cefndir cymdeithasol neu eu grŵp ethnig) sy’n prynu neu sydd wedi prynu nwyddau neu wasanaethau. Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu’r e-bost.
Mae’r cyngor a’r wybodaeth yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim a chewch alw mor aml ag y bydd angen. Byddwch yn talu am alwadau ffôn drwy gyfrwng y rhif 0845, a fydd hynny ddim yn fwy na phedair ceiniog y funud i gwsmeriaid BT (gall rhwydweithiau eraill fod yn wahanol).
- Mae Cyswllt Defnyddwyr ar gael ar un rhif ffôn cenedlaethol - 08454 04 04 05 – o 0800 – 1830 dydd Llun i ddydd Gwener, a 0900 – 1300 dydd Sadwrn, heblaw gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus.
- Mae gwasanaeth Saesneg Cyswllt Defnyddwyr ar gael ar 08454 04 05 06.
- Gall defnyddwyr minicom ffonio 08451 28 13 84.
- Mae galwadau ffôn i rifau 0845 Cyswllt Defnyddwyr yn costio dim mwy na phedair ceiniog y funud ar linell ddaearol BT. Gall taliadau am alwadau drwy ddarparwyr llinellau daearol eraill neu ffonau symudol fod yn wahanol. Holwch eich darparwr gwasanaeth ffôn i gael gwybod eich cyfradd chi.
- Mae Cyswllt Defnyddwyr ar gael yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Dylai defnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon gysylltu â ConsumerLine ar 08456 00 62 62.
Pam mae Cyswllt Defnyddwyr yn defnyddio rhif ffôn 0845?
Mae Cyswllt Defnyddwyr yn rhoi cyfle hawdd i ddefnyddwyr ledled Prydain Fawr gael cyngor ymarferol drwy ganolfannau cysylltu yng Nghymru a’r Alban ac yn rhanbarthau Swyddfeydd y Llywodraeth yn Lloegr. Byddwn yn gweithredu ym mhob ardal erbyn dechrau 2006. Mae manylion am y mannau lle mae’r gwasanaeth ar gael ar hyn o bryd i’w gweld ar y tudalen yma, neu drwy ddefnyddio’r map ar ein tudalen hafan.
Mae’n rhif 0845 yn caniatáu inni hysbysebu un rhif drwy’r wlad i gyd. Byddai hysbysebu llawer o rifau lleol gwahanol yn creu dryswch, ac yn golygu y byddai llawer o’n hysbysebion yn llawn gwahanol rifau ffôn yn lle gwybodaeth am y gwasanaeth. Mae’n hanfodol bod gennyn ni un rhif ffôn.
Mae defnyddio rhif ffôn 0845 yn caniatáu inni weld o ble yn y wlad mae’r defnyddiwr yn galw, a’u cyfeirio nhw drwodd i’r ganolfan gysylltu briodol.
Os bydd yna broblem gyda’r gwasanaeth mewn un ganolfan, mae’n rhif 0845 hefyd yn caniatáu inni wyro’r galwadau i ganolfan gysylltu arall. Mae hynny’n sicrhau ein bod yn gallu rhoi gwasanaeth di-dor i’r cwsmeriaid, ac mae llai nag 1.5% o’n galwadau’n cael eu gadael heb eu cwblhau.
Rydyn ni’n ymwybodol ei bod yn well gan rai ffonio rhif ar linell ddaearol yn hytrach na rhif 0845 sydd heb gysylltiad daearyddol, am fod hynny’n gallu bod yn llai costus iddyn nhw. Mae cwsmeriaid BT yn gorfod talu dim mwy na phedair ceiniog y funud am alwadau i’n rhif 0845 ni. Gall y taliadau am alwadau ar rwydweithiau eraill neu ffonau symudol fod yn wahanol. Bydd angen ichi gael golwg ar y gyfradd y byddwch chi’n ei thalu eich hun. Mae’r alwad nodweddiadol i Gyswllt Defnyddwyr yn para tua chwe munud ar gyfartaledd. Mae’n bosibl felly y byddai’n well gennych chi gysylltu â ni ar y rhif ar y llinell ddaearol briodol o blith y rhestr isod.
Mae Cyswllt Defnyddwyr wedi’i ddylunio i weithredu ar ein rhif 0845, felly allwn ni ddim gwarantu y bydd yna gysylltiad, ond o dan lawer o amgylchiadau fe fydd y rhifau daearol hyn yn gweithio’n gywir.
Cymru (drwy gyfrwng y Gymraeg): 02920 367801
Cymru (drwy gyfrwng y Saesneg): 02920 367800
Yr Alban: 01851 822401
De-ddwyrain Lloegr: 01622 626520
De-orllewin Lloegr: 01209 720333
Dwyrain Canolbarth Lloegr: 01522 563000
Dwyrain Lloegr: 01438 737460
Gogledd-ddwyrain Lloegr: 01642 495600
Gogledd-orllewin Lloegr: 0203 103 5165
Gorllewin Canolbarth Lloegr: 02476 786610
Llundain: 020 8799 9200
Sir Efrog a Humber: 0113 201 3670
Mae defnyddwyr sy’n ffonio Cyswllt Defnyddwyr ar ffôn symudol yn cael eu trafod yn bersonol. Byddwn yn cynnig anfon neges destun gyda rhif llinell ddaearol at ddefnyddwyr sy’n galw ar ffôn symudol, ac sy’n byw mewn ardal sy’n cael ei gwasanaethu gan Gyswllt Defnyddwyr. Y rheswm am hyn yw bod galwadau ar ffonau symudol i rifau 0845 yn gallu bod yn llawer drutach.

