Ewch yn syth i'r cynnwys

Polisi cwynion

Rydyn ni wedi ymrwymo i roi gwasanaeth i ddefnyddwyr sydd o safon uchel, yn hawdd troi ato ac yn ymateb yn dda. Un ffordd i ni barhau i wella’n gwasanaeth i chi a defnyddwyr eraill yw gwrando ar eich sylwadau a’ch cwynion ac ymateb iddyn nhw.

I gael cyngor ar gwyno am fasnachwr, edrychwch ar Gwneud cwyn


Back to top

Eich sylwadau

Rydyn ni bob amser yn falch o gael eich sylwadau am ein gwaith. Mae’n fuddiol i ni wybod pryd rydyn ni wedi gwneud gwaith da, yn ogystal â phan fydd pethau heb fod cystal. Mae hyn yn ein helpu i gynnal a gwella’n gwasanaeth i’n holl gwsmeriaid.

Back to top

Eich cwynion

Gobeithio y byddwch yn gwbl fodlon ar y gwasanaeth a gewch gan Gyswllt Defnyddwyr, ond os oes gennych chi gŵyn am ein gwasanaeth fe hoffen ni glywed gennych. Byddwn yn mynd ati o ddifrif ynglŷn â’ch cwyn, gan roi sylw iddi ac ymateb iddi cyn gynted ag y gallwn.

Back to top

Sut i anfon eich adborth

Gallwch anfon eich sylwadau neu’ch cwynion am ein gwasanaeth, sy’n cael eu trafod yn gyfrinachol, drwy ffonio, ar-lein neu mewn ysgrifen.
Drwy ffonio
Ffoniwch 08454 04 05 05.

Ar-lein
I roi adborth ar unrhyw ran o wasanaeth Cyswllt Defnyddwyr, edrychwch ar Adborth ar-lein

Mewn ysgrifen

Os hoffech ysgrifennu aton ni gyda’ch sylwadau neu’ch cwynion am wasanaeth Cyswllt Defnyddwyr, ysgrifennwch at:

Consumer Direct
The Office of Fair Trading
2-6 Salisbury Square
London EC4Y 8JX


Sylwch mai dim ond i gyflwyno sylwadau neu i gwyno am wasanaeth Cyswllt Defnyddwyr y dylech ddefnyddio’r cyfeiriad yma.

Back to top

Yr hyn y mae angen inni ei wybod

I’n helpu i ymchwilio i’ch cwyn, rhowch gymaint ag y gallwch o’r wybodaeth ganlynol wrth gysylltu â ni:

  • P’un ai dyma’r tro cyntaf ichi gwyno, ynteu ydych chi’n dilyn ateb nad oeddech yn fodlon arno.
  • Disgrifiad clir o’r gŵyn a’r hyn yr hoffech i ni ei wneud i’w datrys.
  • Manylion unrhyw rifau achos neu rifau cyfeirnod perthnasol sy’n ymwneud ag unrhyw gysylltiadau blaenorol â Chyswllt Defnyddwyr ar y pwnc yma (er enghraifft wrth ichi alw’r gwasanaeth ffôn, neu wrth anfon neges e-bost i wefan Cyswllt Defnyddwyr). Dylai rhif yr achos fod ar ffurf pedair llythyren ac wyth rhif, er enghraifft SCCO00001234.
  • Eich cyfeiriad post llawn, eich rhif ffôn (gan gynnwys y cod deialu), a’ch cyfeiriad e-bost os oes un gennych chi.


Back to top

Beth sy’n digwydd nesaf?



Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith. Rydyn ni’n gobeithio ymateb yn llawn o fewn yr amser yma, ond os nad oes modd gwneud hynny byddwn yn esbonio pam ac yn dweud pryd y gallwch ddisgwyl cael ateb llawn.
Pan fyddwn yn cysylltu â chi, byddwn hefyd yn sôn am yr hyn y gallwch ei wneud os ydych yn dal yn anfodlon. Yn ôl natur eich cwyn, byddwch hefyd yn cael cwyno i’r Comisiynydd Seneddol dros Weinyddu (yr Ombwdsmon), neu i Ombwdsmon Llywodraeth Leol.


 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os bydd rhywbeth yn bod ar ddyfais drydanol yn yr ychydig fisoedd o’i phrynu, dylech fynd yn ôl at y manwerthwr a werthodd yr eitem i chi ( nid y gwneuthurwr).

Rhagor o Wybodaeth >