Ewch yn syth i'r cynnwys

Trosolwg

Mae’r Swyddfa Masnachu Teg (OFT) yn adran o’r llywodraeth heb weinidog a’i rôl yw sicrhau bod marchnadoedd yn gweithio’n dda i ddefnyddwyr. Mae marchnadoedd yn gweithio’n dda pan fydd busnesau yn cystadlu’n agored, yn deg ac yn drylwyr â’i gilydd i ennill busnes y defnyddiwr.

Rhoi dewis i’r defnyddwyr

Gwaith yr OFT yw sicrhau bod gan y defnyddwyr gymaint o ddewis â phosibl, a hynny ar draws yr holl wahanol sectorau yn y farchnadfa. Pan fydd gan y defnyddwyr ddewis, mae ganddyn nhw bŵer dilys a pharhaol.

Fel corff proffesiynol annibynnol, mae’r OFT yn chwarae rhan flaenllaw i hybu a diogelu buddiannau defnyddwyr drwy’r DU i gyd, ac mae’n sicrhau ar yr un pryd fod busnesau yn deg ac yn gystadleuol. I wneud hyn, mae gan yr OFT nifer o ddulliau sydd wedi’u rhoi iddi o dan y ddeddfwriaeth ynghylch defnyddwyr a chystadleuaeth.

Mae Cyswllt Defnyddwyr yn wasanaeth sy’n cynnig cyngor i ddefnyddwyr dros y ffôn ac ar-lein. Mae’n cael ei redeg gan yr OFT, a’i gyflwyno mewn partneriaeth â Gwasanaethau Safonau Masnachu yr Awdurdodau Lleol.

Gwaith Cyswllt Defnyddwyr yw cynnig cyngor clir, ymarferol i ddefnyddwyr am unrhyw beth o bâr o esgidiau £30 i welliant cartref £30,000.

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu gan Gyswllt Defnyddwyr yn cael ei defnyddio wedyn i fwydo ac i ffocysu adnoddau a gwaith yr OFT a Gwasanaethau Safonau Masnachu yr Awdurdodau Lleol.

Edrychwch ar wefan yr OFT yn www.oft.gov.uk

Gweithio i Gyswllt Defnyddwyr

Swyddi gwag i gynghorwyr

Ar hyn o bryd, does yr un o’n canolfannau rhanbarthol yn recriwtio cynghorwyr, ond pan fyddan nhw’n recriwtio fe fydd y manylion ar gael yma.

Did you know

Os prynwch chi nwyddau ffug ac nad ydyn nhw’n bodloni’ch disgwyliadau, chewch chi ddim gwasanaeth na gwarant ar ôl ichi eu prynu.

Rhagor o Wybodaeth >