Ewch yn syth i'r cynnwys

Post

Dilynwch yr awgrymiadau hyn i helpu sicrhau bod eich post yn cyrraedd y lle iawn ar yr adeg iawn.

1. Ysgrifennwch y cyfeiriad yn glir mewn inc. Cofiwch gynnwys enw’r stryd a rhif y tŷ. Ysgrifennwch y cod post ar linell ar wahân. Os nad ydych yn gwybod y cod post,  ewch i www.royalmail.co.uk neu ffoniwch y Post Brenhinol ar 0906 302 1222 (graddfa premiwm) ddydd Llun i ddydd Gwener 8.00 a.m - 6.00 p.m neu 08457 111 222 ar bob adeg arall.

2. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu cyfeiriad dychwelyd ar gefn yr amlen neu’r parsel. 

3. Gwnewch yn siŵr bod pob eitem wedi ei phacio’n iawn - yn enwedig os yw’n fregus.

4. Rhowch rybudd clir ar becynnau bregus ac amlygwch hyn i staff swyddfa’r post.

5. Gofynnwch a yw’r gwasanaeth post sy'n cael ei gynnig i chi yn diogelu eich eitem ar gyfer iawndal os digwydd iddi fynd ar goll neu os caiff ei difrodi, ac os felly am faint.
Gallwch brynu yswiriant ychwanegol gydag amryw o wasanaethau’r Post Brenhinol a Parcelforce.

6. Pan fyddwch yn prynu nwyddau ar y rhyngrwyd, gwnewch yn siŵr bod y sawl sy’n anfon y nwyddau’n defnyddio’r gwasanaeth mwyaf priodol. Wrth archebu, ystyriwch a yw’r eitem yn werthfawr, a oes brys amdani neu oes angen llofnod.

7. Gofynnwch am Dystysgrif Postio - derbynneb prawf postio sydd ar gael am ddim o swyddfa’r post - pan fyddwch yn anfon rhywbeth trwy’r post. Heb hyn mae’n bosibl na fydd y Post Brenhinol yn talu iawndal os caiff eich eitem ei cholli.

8. Defnyddiwch Ddanfoniad Arbennig os ydych yn postio eitemau sy’n sensitif i amser megis tocynnau cyngerdd. Bydd staff cownter swyddfa’r post yn gallu eich cynghori ar y lefel gywir o sicrwydd colled canlyniadol i’w brynu.

9. Os ydych am i’r sawl sy’n derbyn yr eitem lofnodi ei fod wedi derbyn eich eitem yn y post, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn pa wasanaeth llofnodi sydd fwyaf priodol. Mae rhai yn benodol ar gyfer eitemau gwerthfawr.

10. Os yw’r gwasanaeth rydych yn ei ddefnyddio’n cynnig tocyn postio neu gyfeirnod, cadwch y rhain yn ddiogel nes eich bod yn siŵr ei fod wedi cyrraedd.


"Nôl i'r brig

Did you know

Mae’n bosibl y bydd manwerthwyr trydanol yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig i chi. Os prynwch un, mae gennych 45 diwrnod i ganslo rhag ofn i chi newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >