Ewch yn syth i'r cynnwys

Eich Post


Yn unol â Deddf Gwasanaethau’r Post  2000, mae’n drosedd i rywun agor eitem o ohebiaeth maent yn gwybod neu’n amau ei bod wedi ei dosbarthu’n gywir at y cyfeiriad - ond sydd wedi ei chyfeirio at y preswylwyr blaenorol.

Mae’n rheidrwydd ar y Post Brenhinol i ddosbarthu’r post yn ôl y cyfeiriad ac maent yn eich cynghori mai’r unig ffordd i atal dosbarthiad yw wrth ei darddiad. 


Rhowch linell drwy’r cyfeiriad gyda phin ysgrifennu ac ysgrifennwch ar flaen yr amlen NIS ADNABYDDIR YN Y CYFEIRIAD HWN DYCHWELER AT YR ANFONWR.  Rhowch y post yn ôl yn y blwch postio – nid oes rhaid i chi dalu. Os nad oes cyfeiriad i’w weld, mae gan y Post Brenhinol ganolfan ym Melfast ar gyfer llythyron a ddychwelir, lle mae ganddynt hawl i agor y post a’i ddychwelyd at y sawl a’i hanfonodd. Yn dilyn hyn fe ddylai’r bas data perthnasol gael ei ddiwygio ac atal unrhyw lythyron pellach. Os nad yw’n bosibl adnabod derbynnydd priodol bydd yr eitem yn cael ei dinistrio.


"Nôl i'r brig

Did you know

Mae’n bosibl y bydd manwerthwyr trydanol yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig i chi. Os prynwch un, mae gennych 45 diwrnod i ganslo rhag ofn i chi newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >