Ewch yn syth i'r cynnwys

Eich Post

Anfon post dramor

Ceir nifer o wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid sy’n dymuno anfon llythyrau, pacedi a pharseli dramor. Fel yn y DU, gall costau postio amrywio yn ôl maint a phwysau llythyrau/pecynnau, ac i ble maent yn cael eu hanfon.

Yn gyffredinol mae cyfeiriadau yn yr UE yn rhatach na’r rhai sydd bellach i ffwrdd fel UDA, Awstralia/Seland Newydd; hefyd bydd y post dros wyneb y tir (ar lori neu ar y môr) yn rhatach na phost awyr.

Mae sawl ffordd i anfon eich post dramor. Y rhain yw:

Post Awyr.
Defnyddir trafnidiaeth awyr i gludo eitemau a bydd fel rheol yn cymryd rhwng 3-5 diwrnod, yn ddibynnol ar y pen taith.  

Post Arwyneb.
Defnyddir gwasanaeth tir/llong i gludo eitemau ac, yn gyffredinol, caiff ei ystyried yn wasanaeth economaidd ar gyfer eitemau heb frys i’w dosbarthu. Mae’n bosibl i’r cyfnod dosbarthu amrywio rhwng 2 wythnos a 12 wythnos, yn ddibynnol ar y pen taith.  

Airsure.
Mae’r post yn gadael y DU ar y daith awyren gyntaf bosibl a rhoddir blaenoriaeth iddo wrth ei drafod dramor. Mae’n cael ei dracio’n drydanol ac mae ar gael mewn 30 o wledydd. Mae pecynnau iawndal hyd at £500 ar gael i’w prynu.  

Llofnod rhyngwladol
Os ydych am lofnod i gadarnhau bod eich eitem wedi cyrraedd pen ei thaith. Mae pecynnau iawndal hyd at £250 neu £500 ar gael i’w prynu (mae’n ddibynnol ar y wlad).

Datganiadau tollau

Anfon post dramor
I gael manylion llawn datganiadau tollau, bydd gofyn i chi gael cyngor eich cyflenwr post neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Fodd bynnag, yn gyffredinol, ni fydd angen ffurflen dollau ar gyfer llythyrau, cardiau post a dogfennau ar eu pen eu hunain. Ceir cyfyngiadau gwahanol ar gyfer parseli, ond mae pecynnau bach sy’n cynnwys nwyddau, sy’n cael eu cludo yn yr UE, y tu allan i gylch gwaith y tollau fel arfer hefyd.

Derbyn post o'r tu allan i’r UE 
Mae eitemau post sydd yn dod i mewn i’r DU o du allan i’r Undeb Ewropeaidd sydd â gwerth mwy na £18 (neu £36 os yw'n rhodd) yn gyffredinol, yn drethadwy i TAW a tholl mewnforio. Y sawl sy’n derbyn y nwyddau sy’n talu’r costau hyn yn y DU ac fel rheol fe’u cesglir gan y cwmni dosbarthu ar
ran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi pan fyddant yn dosbarthu’r pecyn.  Lle mae toll mewnforio neu TAW yn daladwy, mae’n rhaid i'r sawl sy'n derbyn dalu ffi clirio tollau. Mae’r ffi hon yn talu am gostau casglu, gweinyddu, trin a thrafod, a phrosesu’r doll ddyledus, casglu arian a darparu cyfleusterau i’r tollau glirio pecynnau. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â TAW a tholl mewnforio, ewch i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am gyngor.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os ydych chi wedi talu am nwyddau a gwasanaethau ar gerdyn credyd, a’ch bod wedi gwario mwy na £100, efallai y bydd y cwmni credyd yr un mor gyfrifol am nwyddau diffygiol, gwaith o ansawdd wael neu wasanaethau annigonol.

Rhagor o Wybodaeth >