Eich Post
Eitemau a gollwyd
Os caiff eitem ei cholli, ei difrodi neu ei hoedi yn y post gallech fod yn gymwys i hawlio iawndal. Fodd bynnag, rhaid bodloni’r amodau postio er mwyn gwneud cais. Nid oes rhaid i ddarparwyr dalu iawndal lle nad yw amodau a thelerau’r gwasanaeth wedi eu bodloni, neu dan amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth.
Dyma rai enghreifftiau:
• Cyfeiriad anghywir ar y post
• Tâl post annigonol
• Y pacio’n annigonol ar gyfer y cynnwys
• Pan anfonir arian neu dlysau drwy wasanaeth arall heblaw am Ddanfoniad Arbennig.
• Mewn tywydd garw difrifol
• Gweithredoedd o derfysgaeth neu fandaliaeth
• Eitemau â chynhwysion a waherddir neu a gyfyngir.
O ran hawlio ar gyfer post cyffredin (parsel safonol /dosbarth 1af/2ail heb iawndal estynedig) dylech gyflwyno prawf postio/tystysgrif bostio, ar gael yn rhad ac am ddim o Swyddfa’r Post adeg postio.
O ran parseli Danfoniad Arbennig/Cofnodedig/Cyffredin ag iawndal estynedig bydd prawf postio yn cael ei ddarparu fel mater o drefn.
Os bydd achos i chi hawlio am rywbeth a gollwyd yn y post, bydd angen i chi ddarparu:
• Enw a chyfeiriadau'r sawl a anfonodd yr eitem, y derbynnydd a’r hawliwr.
• Y gwasanaeth a ddefnyddiwyd, cost a dull y postio.
• Dyddiad a man postio.
• Manylion postio perthnasol yr eitem - fel dyddiad marc post, tystysgrif bostio (os yw ar gael) a dogfennaeth y cynnyrch ar gyfer Danfoniad Arbennig, Cofnodedig i’w Arwyddo Amdano a pharsel Cyffredin ag iawndal estynedig.
• Dyddiad danfon (yn achos difrod, oedi a cholled rhannol)
• Disgrifiad o’r cynnwys
Disgrifiad o’r deunydd pacio a chyflwr yr eitem post ei hun (yn achos difrod a cholled rhannol). Rhaid i’r rhai sy’n hawlio gadw’r holl ddeunydd a chynnwys eitemau a ddifrodwyd ac eitemau a gollwyd yn rhannol gan ei fod yn bosibl y bydd angen eu harchwilio.
• Tystiolaeth bostio a thystiolaeth o werth.
Cofnodedig i’w Arwyddo Amdano - mae eitemau Cofnodedig i’w Arwyddo Amdanynt yn teithio drwy’r un rhwydwaith post â’r post cyffredin. Cyfrifoldeb y dyn/fenyw post yw sicrhau eu bod yn cael llofnod. Fodd bynnag gall hyn fethu ar adegau. Os caiff yr eitem ei danfon heb lofnod mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn ad-daliad am y tâl Cofnodedig i’w Arwyddo Amdano (yn ychwanegol at y tâl postio)
Eitemau a ddifrodwyd
Pecynnu annigonol yw’r rheswm mwyaf cyffredin dros ddifrod i unrhyw bost, fodd bynnag mae llawer o becynnau sydd wedi eu pecynnu’n gywir yn cyrraedd wedi eu difrodi.
Yn aml cyfyngir yr iawndal am eitemau a ddifrodwyd i ad-daliad o’r tâl postio ac iawndal ar sail eich colled go iawn, lle y gellir darparu tystiolaeth bostio a gwerth. Os nad oes gan yr eitemau werth cynhenid, telir am gost y stampiau yn aml. Dan yr amgylchiadau a restrir uchod rhaid cyflwyno’r cais o fewn 12 mis o’i ddanfon a rhaid cadw’r eitem a ddifrodwyd oherwydd gall y darparwr ofyn am yr eitem a’r pecynnu er mwyn eu harchwilio.
Fodd bynnag, bydd angen tystiolaeth postio ym mhob achos a lle prynwyd sicrwydd yswiriant colled canlyniadol bydd angen tystiolaeth o hynny hefyd. Yn ogystal, dylech geisio darparu tystiolaeth o’r golled rydych wedi ei dioddef (h.y. derbynneb am y cynnyrch a gollwyd ac ati).

