Eich Post
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Danfoniad Cofnodedig (llofnodwyd amdano) a Danfoniad Arbennig?
Bwriedir Danfoniad Cofnodedig ar gyfer unrhyw un sydd angen profi y danfonwyd ac y cludwyd eitem pan nad oes angen yswirio'r cynnwys.
Mae post wedi’i gofnodi’n teithio drwy’r rhwydwaith post ochr yn ochr â’r post dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth cyffredin ac felly ni ellir gwarantu ei gludiad.
Gyda’r gwasanaeth hwn, mae tâl ychwanegol am eich bod yn talu i gofnodi’r cludiad. Gwneir hyn drwy gael llofnod gan y cyfeiriad derbyn, er nid o angenrheidrwydd llofnod y sawl y cyfeiriwyd y llythyr ato.
Mae’r gwasanaeth Danfoniad Arbennig yn cynnig ffordd fwy diogel na’r post dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth cyffredin ac yn cynnig mwy o iawndal petai’n mynd ar goll neu’n cael ei ddifrodi. Yn ogystal, mae’n gwarantu cludiad erbyn 1.00 p.m y diwrnod gwaith nesaf yn rhan fwyaf o ardaloedd y DU, neu ad-delir eich tâl post. Gellir defnyddio Danfoniad Arbennig ochr yn ochr ag yswiriant Colled Canlyniadol hefyd, ond rhaid i chi wneud hyn pan fyddwch yn prynu’r gwasanaeth.

