Ewch yn syth i'r cynnwys

Rheoli’ch biliau

Ceir gwahanol fathau o gontractau ar gyfer cyflenwadau trydan a nwy. Mae’n bwysig deall y contractau hyn, yn enwedig os dymunwch newid cyflenwr.

Cyn cytuno i’r contract darllenwch ef yn ofalus neu gofynnwch yn uniongyrchol i’r cyflenwr ei esbonio i chi. Os oes unrhyw beth nad ydych yn siŵr ohono neu nad ydych yn cytuno ag ef, trafodwch hyn gyda’r cyflenwr cyn penderfynu newid. Gallwch gysylltu ag energywatch am gyngor ar gontractau. 

Contractau tymor penodol

Gall cyflenwyr gynnig contractau dros gyfnod penodol e.e. un neu ddwy flynedd.
Fel arfer mae’r contractau hyn yn denu gostyngiadau ond os newidiwch eich cyflenwr cyn i’r cyfnod penodol ddod i ben efallai bydd rhaid i chi dalu ffi am derfynu eich contract.

Contractau tybiedig

Pan fyddwch yn symud i gartref newydd byddwch yn cymryd contract gyda chyflenwr nwy neu drydan y preswylydd blaenorol fel mater o drefn neu ‘tybir’ eich bod wedi cymryd y contract hwn.  Mae cael contract tybiedig yn debygol o gostio mwy na chyflenwr rydych wedi cytuno i gontract ag ef. Os ydych yn dymuno newid cyflenwr bydd angen o leiaf 28 diwrnod o rybudd ar eich cyflenwr presennol fel rheol, er y bydd angen i chi wirio’r cyfnod rhybudd yn eich contract i gadarnhau hyn.

A oes angen contract arnaf?

Os ydych am newid i gyflenwr nwy neu drydan arall bydd angen i chi gytuno i gontract newydd gyda nhw. Bydd angen i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i’ch cyflenwr presennol.
Mae rhan fwyaf y c
yflenwyr yn defnyddio contractau treigl. O dan gontract treigl byddwch yn parhau i dderbyn cyflenwad nes i chi benderfynu canslo. Gall y cyflenwr newid y gost rydych yn ei thalu ond mae’n rhaid iddynt ddweud wrthych am gynnydd pris ymhen 10 diwrnod. Os penderfynwch eich bod am newid i gyflenwr rhatach rydych yn rhydd i wneud hynny, heb gosb fel rheol, ond mae’n well i chi wirio union delerau eich contract.

Contractau tanwydd deuol

Gall cyflenwr sy’n darparu nwy a thrydan naill ai eu cyflenwi gan ddefnyddio contractau ar wahân neu ddefnyddio un contract “tanwydd deuol”. Os ydych yn ystyried prynu eich nwy a’ch trydan o dan gontract deuol dylech ofyn y cwestiynau canlynol:

A fyddaf yn arbed y mwyaf gyda thanwydd deuol?

Ar adegau bydd cyflenwyr tanwydd deuol yn cynnig gostyngiad ychwanegol os prynwch y ddau danwydd oddi wrthynt. Mae’n bosibl mai gostyngiad penodedig i’ch bil fydd hwn neu raddfa arbennig am un neu ddau danwydd. Fodd bynnag, efallai nad dyma’r ffordd rataf i chi brynu eich nwy a’ch trydan. Efallai y byddai’n rhatach i chi brynu nwy o un cyflenwr a thrydan o un arall. I ddod o hyd i’r ddêl orau ar eich cyfer chi, gwiriwch a chymharwch brisiau’n ofalus.

A allaf newid fy meddwl a phrynu dim ond un tanwydd?

Gallwch, fe allwch chi newid i gyflenwr arall ar gyfer un tanwydd. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn gweld eich bod yn talu mwy am y tanwydd arall rydych yn parhau i’w brynu o’ch cyflenwr gwreiddiol.

A fydd fy miliau nwy a thrydan yn cyrraedd ar yr un pryd?

Mae hyn yn dibynnu ar eich cyflenwr a’ch dull talu. Er enghraifft, fel rheol bydd cwsmeriaid sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol misol yn canfod bod y swm y maent yn ei dalu’n fisol yn talu am y nwy a’r trydan. Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid sy’n defnyddio dulliau talu eraill yn sylweddoli eu bod yn parhau i gael dau fil oddi wrth eu cyflenwr tanwydd deuol.

Bydd cwsmeriaid sy’n talu am nwy a thrydan drwy fesuryddion rhagdal yn parhau i dalu drwy fesuryddion ar wahân.

Beth os wyf yn cael anawsterau i dalu am fy miliau?

Mae’n rhaid i gyflenwyr trydan a nwy gynnig help i gwsmeriaid sy’n cael anhawster talu am eu biliau. Fel rheol mae’r manylion i’w cael ar gefn y bil. Mae’n bosibl y bydd eich cyflenwr yn cynnig cynlluniau talu gwahanol neu’n gosod mesurydd rhagdal yn eich cartref. Os rydych yn cael problemau wrth dalu eich biliau ynni dylech gysylltu â’ch cyflenwr cyn gynted â phosibl i drafod y mater.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch rywbeth sy'n costio mwy na £35 oddi wrth werthwr sy'n galw heibio i'ch cartref, mae gennych saith niwrnod i ganslo eich archeb.

Rhagor o Wybodaeth >