Rheoli’ch biliau
Mae’n bwysig eich bod yn cael y ddêl orau yn seiliedig ar eich anghenion chi. Mae llawer o bobl yn amharod i newid cyflenwr ac maent o bosibl yn talu mwy na’r arfer am eu nwy a’u trydan.
Mae nifer o gwmnïau cymharu prisiau yn gallu eich helpu i ganfod y ddêl orau i chi a phob un ohonynt â gwahanol gynigion. Am gyngor ynglŷn â pha gwmnïau sydd wedi arwyddo’r cod ymarfer Ffocws Defnyddwyr, canfod y cynigion gorau sydd ar gael a chael gwybodaeth am y cod ymarfer cliciwch ar y ddolen isod:
Lleihau eich Defnydd - Camau Effeithiolrwydd Ynni
Drwy ddefnyddio ynni mewn modd mwy effeithiol gallwch hefyd ostwng eich biliau’n sylweddol. Fe all y sefydliadau isod gynnig help a chyngor i chi ar y cynnyrch a’r grantiau sydd ar gael:
Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (EST)
Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn annog defnyddio ynni glanach a chynaliadwy ynghyd ag effeithiolrwydd ynni. Ar eu gwefan fe gewch gyngor diduedd am ddim i’ch helpu i ostwng eich biliau ac arbed ynni.
Mae hwn yn cynnwys pob agwedd ar arbed ynni yn y cartref - gan gynnwys gwiriad ynni yn y cartref sy’n cwrdd â’ch anghenion chi - a gwybodaeth am grantiau gwelliannau ynni yn y cartref / cynigion sydd ar gael ar yn o bryd.
Cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor Effeithiolrwydd Ynni ar Radffôn 0800 512 012
Energy Savings Trust (Head Office)
21 Dartmouth Street
London
SW1H 9BP
Gwefan: www.est.org.uk/myhome
EAGA
EAGA sy’n rhedeg y cynllun Warmfront a ariennir gan y llywodraeth. Gall defnyddwyr fanteisio ar grantiau hyd at £2,700, sy’n gallu gwneud eich cartref yn gynhesach, iachach a rhatach i’w gynhesu.
Os nad ydych ar y brif gyflenwad nwy mae’n bosibl eich bod yn gymwys i dderbyn grant hyd at £4,000 er mwyn gosod system gwres canolog olew.
Os ydych yn berchen ar eich cartref neu’n rhentu drwy landlord preifat ac yn derbyn budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm, oed neu anabledd, dylai fod hawl gennych i’r canlynol:
- System gwres canolog newydd yn eich cartref i arbed ynni, neu uwchraddio/atgyweirio eich system bresennol
- Inswleiddio llofft
- Inswleiddio wal geudod
- Diogelu rhag drafft
- Cysylltwch ag EAGA ar Radffôn 0800 316 6011
EAGA
Scottish Life House
Archbold Terrace
Newcastle upon Tyne
NE2 1BR
Gwefan: www.eagagroup.com
Grwpiau Cynhesrwydd Fforddiadwy
Cewch afael ar y rhain mewn nifer o ardaloedd, ac maent yn cynnig cyngor am ddim am grantiau ynni-effeithiol yn ychwanegol i’r rhai a ddarperir gan EAGA – Warmfront. Yn ogystal gallant drefnu gwneud y gwaith. Gallwch ganfod a oes Grŵp Cynhesrwydd Fforddiadwy yn eich ardal chi drwy ffonio eich cyngor lleol (gofynnwch am yr adran cyngor ar ynni).
Gwefan: http://www.direct.gov.uk/dl1/Directories/LocalCouncils/fs/en
National Energy Action
Maent wedi ymrwymo i waredu tlodi tanwydd ac maent yn cydweithio â chynghorau lleol a nifer o sefydliadau eraill. Maent hefyd yn gyfrifol am oruchwylio a gweinyddu’r Cynllun Warm Zone.
Sefydlwyd Warm Zones mewn rhai ardaloedd penodol er mwyn helpu cartrefi na allant fforddio digon o wres er lles eu hiechyd a’u cysur. Gelwir y cartrefi hyn yn ‘dlawd o ran tanwydd’. Cewch fwy o wybodaeth am hyn ar wefan Warm Zones.
Yn amodol ar gyllid, gall Warm Zones gynnig mesurau inswleiddio am ddim neu fesurau rhad ar gyfer:
Pob teulu os ystyrir eu bod mewn tlodi tanwydd
Pob cartref sy’n derbyn budd-daliadau penodol
Bydd mesurau gwres canolog am ddim ar gael, yn amodol ar angen, lleoliad a’r cyllid sydd ar gael, ar gyfer:
Cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd neu sy’n gymwys i dderbyn rhai budd-daliadau penodol
Yn ogystal, mae cyngor budd-daliadau a chefnogaeth am ddim ar gael er mwyn helpu cynyddu incwm y teulu, ynghyd â chyngor am ddim ar ynni er mwyn atal unrhyw wariant diangen yn y teulu. Yn achos y cartrefi hynny nad ydynt yn gymwys i dderbyn mesurau am ddim gall Warm Zones gynnig gostyngiadau sylweddol ar inswleiddio. Ar hyn o bryd mae’r cynllun yn weithredol yn nwyrain Llundain, Gateshead, Hull, Castell-nedd Port Talbot, Newham, Newcastle, Northumberland, Sandwell a Stoke. Os ydych yn byw yn un o’r ardaloedd hyn ffoniwch 0191 269 6113 i gael manylion cyswllt.
Gwefan: www.warmzones.co.uk
Rhaglen Gwres Canolog Gweithrediaeth yr Alban
Mae hwn ar gael ar gyfer y rheiny sy’n 60 oed neu’n hŷn ac sy’n berchen ar eu cartref neu’n rhentu eu cartref o landlord yn y sector preifat (naill ai’n eiddo awdurdod lleol neu gymdeithas tai).
Mae Gweithrediaeth yr Alban wedi ymestyn y rhaglen gwres canolog i gynnwys y bobl hynny sy’n 80 oed neu’n hŷn, sy’n berchen ar eu cartrefi neu’n rhentu eu cartrefi o landlord y sector preifat ac sydd yn meddu ar:
System wresogi rannol neu
System sy’n aneffeithiol (fel rheol dros 20 mlwydd oed).
Yn achos y cleientiaid hyn mae’r rhaglen yn caniatáu uwchraddio eu systemau, lle bo angen, neu osod system gwresogi newydd.
Bellach mae’n cynnwys y bobl hynny sy’n derbyn elfen sicr isafswm incwm y credyd pensiwn os oes ganddynt system rannol neu aneffeithiol.
Central Heating Programme
FREEPOST
Edinburgh
EH6 0BR
Ffôn: 0800 316 1653
Gwefan: https://www.britishgas.biz/ScottishExecutive/CentralHeatingProgramme.aspx
Rhaglen Warm Deal
Mae grant inswleiddio gwerth hyd at £500 ar gael ar gyfer perchnogion tai a thenantiaid eiddo a rentir yn breifat sy’n derbyn budd-daliadau. Os nad ydych yn derbyn budd-daliadau cymwys ond rydych yn 60 oed neu’n hŷn, ac yn berchennog tŷ neu’n denant eiddo a rentir yn breifat, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i dderbyn grant hyd at £125 ar gyfer inswleiddio, diogelu rhag drafft, bylbiau ynni isel, ac ati.
Warm Deal
Freepost
Edinburgh
EH6 0BR
Ffôn: 0800 072 0150
Energy Action Scotland
Energy Action Scotland yw’r elusen genedlaethol sydd â’r nod o ddileu tlodi tanwydd drwy godi ymwybyddiaeth am dlodi tanwydd, yn enwedig ei effaith ar gartrefi incwm isel; cynnal blaenoriaeth uchel i dlodi tanwydd fel mater cenedlaethol; a gweithio tuag at gynhesrwydd fforddiadwy i bawb; canfod atebion effeithiol a allai drawsnewid tai oer a llaith yn gartrefi clud; ymchwilio i dlodi tanwydd a materion cysylltiedig er mwyn darparu dealltwriaeth ddofn am achos ac effeithiau ac i hyrwyddo’r arfer orau; a sicrhau buddsoddiad cyhoeddus a phreifat mewn mentrau effeithiolrwydd ynni yn y cartref.
Energy Action Scotland
Suite 4a
Ingram House
227 Ingram Street
Glasgow G1 1DA
Ffôn: 0141 226 3064
Ffacs: 0141 221 2788
e-bost: eas@eas.org.uk
Gwefan: http://www.eas.org.uk/

