Ewch yn syth i'r cynnwys

Mesuryddion Rhagdal


Mesuryddion Rhagdal

Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth hon o gymorth os ydych yn defnyddio mesurydd taleb sydd angen talebau papur neu gardiau i dalu am drydan.Yn ogystal mae’n esbonio sut i wirio eich bod yn talu’r pris cywir am drydan a beth ddylech ei wneud os nad ydych.  
Os ydych yn defnyddio mesurydd rhagdal sydd wedi ei ddiweddaru gyda system allwedd neu gerdyn smart/credyd, nid yw hwn yn berthnasol i chi. Nid yw’n berthnasol i fesuryddion nwy ychwaith.

Ynglŷn â mesuryddion taleb

Hen dechnoleg yw’r mesuryddion taleb a gall y pris y maent yn ei godi ddyddio’n hawdd. Os yw eich cyflenwr trydan yn newid ei brisiau mae’n rhaid i beiriannydd ymweld â’ch cartref i newid gosodiadau eich mesurydd er mwyn casglu taliadau ar y raddfa newydd. Gall unrhyw oedi rhwng cyhoeddi’r newid yn y pris a’r cyflenwr trydan yn addasu eich mesurydd tocyn arwain at broblemau.

Yn gyntaf, os ydych yn defnyddio mesurydd taleb gallwch fynd i ddyled annisgwyl oherwydd bod eich mesurydd taleb yn parhau i gasglu ar yr hen raddfa is nes iddo gael ei addasu. Mae rhai cwmnïau trydan yn disgwyl i chi dalu’r pris newydd o’r diwrnod y gwneir y cyhoeddiad, nid y diwrnod y maent yn ymweld â chi i newid eich mesurydd. Os yw eich cyflenwr trydan yn penderfynu casglu’r ddyled hon drwy eich mesurydd bydd hyn yn golygu bod rhan o’r hyn rydych yn ei dalu am drydan mewn gwirionedd yn mynd i dalu’r ddyled.

Yn ail, os na addaswyd eich mesurydd taleb ers tro, rydych yn debygol o weld naid fawr yn y pris rydych yn ei dalu am drydan.

Mae hwn i’w weld yn annheg - pa ddiogelwch sydd gennyf?

Dylai eich cyflenwr trydan drefnu i beiriannydd ymweld â’ch cartref ac addasu eich mesurydd o fewn cyfnod rhesymol ar ôl newid y pris. Os cafwyd oedi mewn addasu’r prisiau yn eich mesurydd mae’n bosibl y bydd eich cyflenwr yn dweud wrthoch eich bod wedi mynd i ddyled a bod rhaid i chi ei had-dalu. Er mwyn iddynt gasglu’r math hwn o ddyled, mae’n rhaid iddynt brofi eu bod wedi ceisio, o fewn rheswm, diweddaru’r mesurydd taleb ar ôl pob cynnydd mewn pris. 

Hefyd, mae’n rhaid i’ch cyflenwr ddarparu cyfiawnhad ysgrifenedig ar eich cyfer gan esbonio sut yr amcangyfrifwyd eich dyled. Os ydych yn credu bod y gyfriflen cyfrif hon yn anghywir neu os yw’n dangos na addaswyd eich mesurydd dros gyfnod arwyddocaol, fe ddylech gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr am gyngor.

A ydw i’n talu’r pris cywir?

Mae’n dibynnu pryd addaswyd eich mesurydd taleb ddiwethaf gan beiriannydd. Os na ddiweddarwyd eich mesurydd yn ddiweddar mae’n bosibl eich bod yn talu’r pris anghywir am eich trydan.

Ffordd hawdd o ganfod a ydych yn talu’r pris cywir yw gwirio eich cyfriflen drydan neu eich bil. Defnyddiwch hwn i ganfod yr hyn ddylech ei dalu am eich trydan fesul uned a’i gymharu â’r pris sydd wedi ei osod ar eich mesurydd taleb. Bydd hwn i’w weld ger faint o gredyd sydd gennych.

Os cewch broblemau wrth weithio allan a yw eich mesurydd wedi ei osod ar y pris cywir, ffoniwch eich cyflenwr trydan. 

Os yw fy mesurydd wedi ei osod ar y pris anghywir, beth ddylwn ei wneud?

Os yw’r pris ar eich mesurydd yn anghywir mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’ch cyflenwr trydan a mynnu apwyntiad cyfleus er mwyn i beiriannydd mesurydd ymweld â chi ac addasu eich mesurydd. Cysylltwch â’ch cyflenwr trydan i wneud apwyntiad. Os ydych yn ffonio, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi ac yn cadw’r manylion am yr amser, y dyddiad ac enw’r sawl sy’n siarad â chi.

Roedd fy nghyflenwr trydan fod i alw heibio i addasu fy mesurydd, ond does neb wedi galw - beth allaf ei wneud? 

Os ysgrifennodd eich cyflenwr trydan atoch i wneud apwyntiad i addasu eich mesurydd, cadwch gopi o’r llythyr apwyntiad gwreiddiol a chysylltwch â’ch cyflenwr trydan i ofyn am apwyntiad arall. Os nad yw eich cyflenwr trydan yn cadw apwyntiad mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael iawndal.

Os yw’n cymryd mwy na mis arall i’ch cyflenwr trydan addasu eich mesurydd, ysgrifennwch atynt neu ffoniwch nhw â manylion y dyddiadau y gofynnoch am apwyntiad. Mynnwch eu bod yn cynnig apwyntiad newydd cyfleus i chi a’u bod yn dileu unrhyw ddyled sydd wedi cronni (neu eich ad-dalu am unrhyw arian rydych wedi ei ordalu) oherwydd iddynt fethu addasu eich mesurydd ymhen mis o’ch cais am apwyntiad.

A allaf osgoi talu am fy nhrydan os rwyf yn atal neu’n rhwystro fy nghyflenwr trydan rhag addasu fy mesurydd?

Na. Os yw eich cyflenwr trydan yn credu eich bod wedi ceisio ei rwystro rhag diweddaru’r pris ar eich mesurydd mae’n bosibl y bydd yn codi tâl am unrhyw newid pris o’r dyddiad a ddaeth i rym. Gall rhwystro eich cyflenwr eich gadael mewn dyled fawr.

Yn ogystal, gall eich cyflenwr trydan wneud cais i’r llys am warant mynediad i’ch tŷ a’ch datgysylltu os gwrthodwch dalu am y trydan rydych wedi ei ddefnyddio.

Beth os wyf yn talu dyledion eraill yn ôl i’m cyflenwr trydan eisoes?

Mae’n rhaid i chi dalu’r holl ddyledion eraill yn ôl beth bynnag. Mae’r newid hwn ond yn berthnasol i’r dyledion hynny sydd wedi cronni oherwydd methiant eich cyflenwr trydan i addasu eich mesurydd taleb yn ddigon cyflym ar ôl cynnydd yn y pris.

Mae gennyf ddyledion oherwydd ni addaswyd fy mesurydd taleb yn ddigon cyflym, a oes cyfyngiadau ar faint o arian y gall fy nghwmni ynni godi arnaf?
Oes, ond bydd y swm yn ddibynnol ar nifer o amgylchiadau. Yn achos newidiadau pris cyn mis Awst 2007 bydd y mwyafrif o gwmnïau trydan ond yn hawlio arian am y 12 mis diwethaf os mai nhw oedd ar fai, ond mae’n dibynnu ar y cwmni.

Ym mhob achos ni ddylai eich cyflenwr geisio ad-daliad am ddyled mesurydd taleb sydd yn hŷn na 12 mis.

Hefyd, mae’n rhaid i’ch cyflenwr trydan ddarparu cyfiawnhad ysgrifenedig ar eich cyfer sy’n esbonio sut yr amcangyfrifwyd eich dyled. Os nad yw hyn yn cynnig esboniad teilwng ar sut yr amcangyfrifwyd eich dyled mesurydd taleb, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr am fwy o gyngor.

A allaf newid fy mesurydd taleb?

Gallwch. Ar hyn o bryd, mae cyflenwyr trydan wrthi’n newid mesuryddion taleb ym Mhrydain Fawr a gosod mesuryddion rhagdal sy’n haws i’w defnyddio ac sy’n rhoi prisiau newydd ar waith ar unwaith. Dylai eich cyflenwr trydan newid eich mesurydd am ddim i chi erbyn 2009 fan bellaf.

A allaf drosglwyddo i fesurydd credyd?

Bydd eich cyflenwr ynni’n dweud wrthoch chi os gallwch newid eich mesurydd rhagdal am fesurydd credyd. Nid yw mwyafrif y cwmnïau’n codi tâl am drosglwyddo i fesurydd credyd, er efallai y bydd rhaid i chi dalu blaendal diogelwch os cawsoch anhawster wrth dalu am eich ynni yn y gorffennol. Gallwch arbed arian drwy newid i fesurydd credyd a thalu drwy ddebyd uniongyrchol (pan gymerir arian o’ch cyfrif banc yn fisol) ond mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod y dull hwn o dalu’n iawn ar eich cyfer chi.

Newidiwch er mwyn Arbed Arian

Os oes gennych fesurydd rhagdal o unrhyw fath mae’n bosibl eich bod yn talu am eich ynni drwy ddefnyddio’r dull drutaf. Mae rhai cyflenwyr yn codi llawer mwy nag eraill, ac mae’n bosibl y gallech arbed dros £100 y flwyddyn drwy newid i gwmni nwy a thrydan arall.  Gall cwsmeriaid rhagdal newid ar yr amod bod arnynt lai na £100.


"Nôl i'r brig

Did you know

Wrth brynu cyrfrifiadur personol, ceisiwch ddarganfod pa feddalwedd sy’n cael ei gynnwys ac a yw wedi cael ei osod ymlaen llaw.

Rhagor o Wybodaeth >