Ewch yn syth i'r cynnwys

Rheoli’ch biliau

 

Mae’n bosibl y bydd y cyngor hwn yn ddefnyddiol os rydych yn talu eich landlord am drydan neu nwy ar gyfer defnydd cartref.

Mae hyn yn cynnwys:

• Eiddo wedi ei rentu lle rydych yn talu eich landlord am y trydan a’r nwy a ddefnyddiwyd
• Parciau carafannau lle rydych yn talu’r perchennog am y trydan a’r nwy a ddefnyddiwyd
• Tai a bythynnod gwyliau lle rydych yn talu’r perchennog am y trydan a’r nwy a ddefnyddiwyd
• Cwch preswyl a llongau lle rydych yn talu’r gweithredwr angorfeydd am y trydan a’r nwy a ddefnyddiwyd
 
Nid yw hyn yn berthnasol i:

• Eiddo masnachol
• Eiddo lle mae costau trydan a nwy wedi eu cynnwys yn y rhent, neu’r ffioedd safle ac angorfa.

Beth yw’r Pris Adwerthu Uchaf?

Y Pris Adwerthu Uchaf yw’r uchaf y gall eich landlord godi arnoch am y nwy a’r trydan a brynodd gan gyflenwr a’u gwerthu ymlaen i chi. Mae hwn yn cael ei bennu gan y rheoleiddiwr diwydiant, sef y Swyddfa Nwy a Marchnadoedd. 

Ni all unrhyw un sy’n prynu nwy neu drydan oddi wrth gyflenwr awdurdodedig adennill mwy na'r hyn y talwyd amdano yn y lle cyntaf. Mae’r modd y bydd landlord yn adennill ei gostau’n dibynnu ar a yw eich defnydd yn cael ei gofnodi gan fesurydd.

Os caiff eich defnydd ei gofnodi gan fesurydd dylai eich landlord ofyn i chi dalu am yr unedau a ddefnyddiwyd a’ch rhan chi o unrhyw dâl sefydlog am yr un pris ag y talodd ef i’r cyflenwr.

Os nad yw eich defnydd yn cael ei gofnodi gan fesurydd dylai’r landlord rannu costau yn ôl y gofod llawr rydych yn trigo ynddo a’r offer rydych yn eu defnyddio. Mae’n rhaid i’r landlord ddangos i chi bod y dull y mae wedi ei ddefnyddio i rannu’r costau yn un rhesymol.

Yr hyn na ellir ei adennill?

Rhaid i’r bil nwy a thrydan y mae eich landlord yn ei roi i chi gynnwys cost y nwy a’r trydan a ddefnyddiwyd yn unig. Rhaid i unrhyw gostau eraill, fel costau gweinyddol am filio neu am oleuo mannau cyffredin, fod ar wahân ac nid ydynt yn destun Pris Adwerthu Uchaf.

Anghydfodau

Dylech ofyn i’ch landlord esbonio ar ba sail yr amcangyfrifwyd eich costau.

Os ydych yn teimlo eich bod yn talu gormod dylech godi’r mater gyda’ch landlord yn y lle cyntaf. Os nad yw’n bosibl datrys yr anghydfod yn anffurfiol dylech ffonio Cyswllt Defnyddwyr i gael mwy o gyngor.


"Nôl i'r brig

Did you know

Wrth brynu cyrfrifiadur personol, ceisiwch ddarganfod pa feddalwedd sy’n cael ei gynnwys ac a yw wedi cael ei osod ymlaen llaw.

Rhagor o Wybodaeth >