Ewch yn syth i'r cynnwys

Rheoli’ch biliau

Dilynwch y deg cam isod i weld sut mae’n bosibl i chi dalu llai am eich ynni.

1. Newidiwch eich ffordd o dalu:
Mae’n bosibl ei bod yn rhatach i chi dalu bob mis, yn hytrach na phob tri mis neu’n flynyddol.

Fel rheol, talu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol yw’r ffordd rataf. Gall talu’n fisol â siec neu arian parod, mewn banc neu swyddfa bost (credyd safonol) fod yn rhatach na rhai ffyrdd eraill o dalu. Fel arfer, talu drwy fesurydd rhagdal yw’r ffordd ddrutaf o dalu am eich ynni.

2. Ystyriwch newid eich mesurydd rhagdal am fesurydd credyd:
Os ydych yn defnyddio mesurydd rhagdal, dylech ystyried gofyn i’ch cyflenwr i’w newid am fesurydd credyd safonol. Mae nwy a thrydan sy’n cael eu cyflenwi drwy fesurydd credyd yn rhatach na mesurydd rhagdal. Yn ogystal, bydd hyn yn eich galluogi i dalu trwy ddebyd uniongyrchol, os oes gennych gyfrif banc, gan arbed arian i chi. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd eich cyflenwr yn gofyn i chi dalu blaendal sicrwydd er mwyn newid eich mesurydd.

Dylech ystyried yr anfanteision o newid i fesurydd credyd yn ogystal â’r manteision, megis yr angen i gynilo dros gyfnod hwy rhwng eich biliau.

3. Defnyddwyr nad oes ganddynt gyfrif banc:
Os nad oes gennych gyfrif banc, mae’n dal yn bosibl i chi gymryd mantais o ddulliau talu rhatach, fel debyd uniongyrchol. Mae llawer o fanciau a chyflenwyr yn cynnig cyfrifon talu biliau sy’n caniatáu i chi dalu arian i mewn i ystod o allanfeydd. Mae hwn wedyn yn cael ei gasglu bob mis drwy ddebyd uniongyrchol. 

Fodd bynnag, nid yw’r cyfrifon hyn yn caniatáu gorddrafft. Mae rhai’n codi tâl gweinyddu ac mae’n bosibl y byddant yn codi tâl cosb os nad oes gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i dalu eich debyd uniongyrchol. 

4. Gofynnwch i’ch cyflenwr am economi saith:
Drwy ddefnyddio economi saith byddwch yn talu llai am eich ynni yn ystod y nos a mwy yn ystod y dydd. Os oes gennych wresogyddion storio neu os ydych yn rhedeg offer yn ystod y nos (fel peiriannau golchi llestri neu olchi dillad) mae’n bosibl i chi arbed arian. Cyn newid gwnewch yn siŵr eich bod yn cymharu eich biliau dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn gweld a fyddai tariff economi saith yn well i chi.

5. Chwiliwch am ddêl arbennig a gostyngiadau:
Ystyriwch brynu eich nwy a’ch trydan oddi wrth un cyflenwr er mwyn cymryd mantais o’r gostyngiadau posibl sydd ganddynt. Ystyriwch a fyddech yn arbed arian drwy lofnodi ‘cynnig bwndel’ neu ‘becyn gwasanaeth’. Deliau gan eich cyflenwyr yw’r rhain, sy’n cynnwys tanwydd deuol a gwasanaethau eraill, megis galwadau ffôn rhatach.  Os ydych yn h
ŷn, cadwch lygad allan am gynigion arbennig i bensiynwyr. 

Gofynnwch i’ch cyflenwr am fanylion unrhyw gynlluniau arbennig sydd ganddynt.

Ystyriwch y canlynol bob tro cyn i chi gytuno ar dariff newydd :

Cymharwch gost y cynllun newydd gyda’r hyn rydych yn ei dalu am eich ynni ar hyn o bryd, seiliwch eich amcangyfrifiad ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd bob blwyddyn, yn hytrach nag ar faint mae teulu cyffredin yn ei ddefnyddio, gwnewch yn siwr eich bod yn cymharu deliau tebyg i debyg - e.e. debyd uniongyrchol misol.  Gyda debyd uniongyrchol misol, gwiriwch a yw’r prisiau sefydlog y maent yn eu cynnig dan ambell i dariff ar fin cynyddu yn y dyfodol, darllenwch y print mân yn y contract; os ydych yn ystyried ‘pecyn gwasanaeth’, cymharwch gost eich gwasanaethau presennol gyda’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig, er mwyn sicrhau y byddwch yn arbed arian yn y pen draw, gwiriwch am unrhyw gosb y bydd rhaid i chi ei thalu os ydych yn gadael y cynllun neu os newidiwch i dariff arall cyn i’r contract orffen.

6. Chwiliwch am gyflenwr rhatach:
Ystyriwch newid i gyflenwr ynni newydd sy’n cynnig dêl ratach i chi. Chwiliwch o gwmpas a chymharu’r prisiau sydd ar gael gan wahanol gyflenwyr.

7. Prynwch gynnyrch sy’n defnyddio ynni’n effeithiol:
Pan brynwch offer a chynhyrchion newydd, gan gynnwys bylbiau golau, chwiliwch am y rhai sydd fwyaf ynni-effeithiol.

Bellach mae graddfa effeithiolrwydd ynni A - G wedi ei hamlygu’n glir ar yr holl nwyddau gwyn a bylbiau golau. Mae graddfa ‘A’ yn golygu y bydd y cynnyrch yn defnyddio ynni mewn modd effeithiol iawn, ac mae graddfa ‘G’ yn golygu y bydd y cynnyrch yn defnyddio ynni mewn modd llai effeithiol.

Hefyd, gallwch brynu bylbiau golau ynni isel ym mwyafrif siopau’r stryd fawr, neu gallwch eu harchebu’n uniongyrchol oddi wrth eich cyflenwr.  

8. Gofynnwch i’ch cyflenwr am gyngor ar effeithiolrwydd ynni:
Bydd eich cyflenwr yn gallu dweud wrthoch chi sut i ddefnyddio ynni mewn modd mwy effeithiol, er mwyn i chi allu gostwng cost eich biliau ynni. Yn ogystal, gallant ddweud wrthych am grantiau y gallech eu hawlio, er mwyn gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithiol.

9. Hawliwch unrhyw wasanaethau rydych yn gymwys i’w cael:
Cofrestr Gwasanaeth o Flaenoriaeth:
Os ydych dros 60 oed, yn dioddef salwch hirfaith, yn anabl, â nam ar eich golwg neu’n ddall, â nam ar eich clyw neu’n fyddar, mae gennych hawl i rai gwasanaethau am ddim gan eich cyflenwr, fel gwiriad diogelwch nwy blynyddol am ddim.

10. Hawliwch unrhyw fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w cael:
Cysylltwch â’ch Cyngor Ar Bopeth lleol, neu eich Canolfan Byd Gwaith, i wirio eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau sydd ar gael i chi. Bydd rhestr o’ch swyddfeydd lleol yn y llyfr ffôn.

Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn 60 oed neu’n hŷn, gwiriwch i weld a ydych yn gymwys i dderbyn unrhyw un o’r budd-daliadau a restrir isod: 

Taliadau Tanwydd Gaeaf:
Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn 60 oed neu hŷn, mae’n bosibl bod gennych hawl i dderbyn Taliad Tanwydd Gaeaf hyd at £200.

Cysylltwch â llinell uniongyrchol Taliad Tanwydd Gaeaf am fwy o fanylion a ffurflen gais.
Ffôn: 08459 15 15 15
Ffôn testun: 08456 01 56 13
Mae’r llinell hon ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 4.30pm.

Taliadau Tywydd Oer:
Telir Taliadau Tywydd Oer i’r rheiny sy’n 60 oed neu’n hŷn neu sy’n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, pan gaiff tymheredd cyfartalog o 0 gradd Celsius neu is ei gofnodi yn eich ardal chi am saith niwrnod yn olynol. Anfonir y taliadau hyn fel mater o drefn at y rhai hynny sy’n gymwys ac nid yw’n effeithio ar fudd-daliadau eraill.

Gwarant Isafswm Incwm:
Os ydych dros 60 oed mae’n bosibl eich bod yn gymwys i dderbyn arian ychwanegol drwy’r Gwarant Isafswm Incwm.


"Nôl i'r brig

Did you know

I fod yn gyfran amser, rhaid i ddefnyddiwyr dreulio cyfnod penodol (ond heb fod yn llai nag wythnos) mewn eiddo gwyliau bob blwyddyn am dair blynedd neu fwy.

Rhagor o Wybodaeth >