Rheoli’ch biliau
Mae’n bosibl i chi ostwng eich biliau drwy ddefnyddio llai o ynni, cael y ddêl orau a thalu drwy ddefnyddio’r dull rhataf.
Gallai’r awgrymiadau isod eich helpu i arbed arian:
1. Cymharu prisiau eich cwmni ynni
Gallai rhywun sydd heb newid ei gyflenwr ynni erioed arbed hyd at £270 drwy symud i gwmni newydd! Gallwch ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau ar-lein hefyd sy’n gwneud y broses o gymharu prisiau a throsglwyddo hyd yn oed yn haws.
2. Talu drwy ddefnyddio’r dull rhataf
Os rydych yn talu â siec bob tri mis gallech arbed £150 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy drosglwyddo i ddebyd uniongyrchol ac o bosibl hyd yn oed mwy os newidiwch i gyfrif ar-lein. Yn achos y rhai sy’n defnyddio mesuryddion rhagdal gallwch arbed £170 y flwyddyn ar gyfartaledd os talwch drwy ddebyd uniongyrchol.
3. Rheolwch eich gwres
Ydy’ch gwres arno’n rhy uchel? Y peth pwysicaf yw cadw’n gynnes yn y gaeaf, ond gallai troi eich thermostat i lawr 1°C dorri hyd at 10% ar eich biliau gwresogi.
Os ydych yn mynd i ffwrdd dros y gaeaf, gadewch y thermostat ymlaen yn isel er mwyn cadw’r gost o ddiogelu rhag rhewi i’r lleiaf posibl. Gallech arbed oddeutu £30 y flwyddyn. Nid oes angen i’r dŵr twym fod yn chwilboeth. Bydd gosod thermostat y silindr ar 60°C/140°F yn ddigon i’r mwyafrif ohonom ar gyfer golchi ac ymolchi.
4. Grantiau Ariannol
Mae amrywiaeth o grantiau ar gael i helpu pobl i wneud eu cartrefi’n fwy ynni-effeithiol a thorri eich biliau tanwydd drwy ddiogelu rhag drafft, inswleiddio wal ceudod neu’r llofft, rheolyddion rheiddiaduron a dulliau eraill. Ffoniwch eich canolfan cyngor ynni leol ar 0800 512 012 i gael gwybod a ydych yn gymwys neu beidio.
Yn ogystal, chwiliwch am unrhyw gynigion arbennig sydd gan eich cwmni ynni neu eich awdurdod lleol - mae’n bosibl i chi dderbyn gwybodaeth am y rhain gyda’ch bil.
5. Llenwch y bylchau
Os rhwystrwch ddrafftiau a gwres rhag dianc drwy lenwi’r bylchau dan y byrddau sgyrtin gyda phapur newydd, rhimyn neu sêl mastig fe allech dorri £5-£10 oddi ar eich biliau bob blwyddyn.
Mae ffenestri gwydr dwbl yn atal hyd at 50% y gwres rhag dianc drwy’r ffenestri ac fe allai dorri eich bil gwresogi hyd at £80 - £100 y flwyddyn.
Bydd cau eich llenni wrth iddi nosi’n rhwystro gwres rhag dianc drwy’r ffenestri.
Gallwch atal hyd yn oed mwy o ddrafft a gwastraff gwres drwy ddefnyddio brwsh hawdd ei osod neu sêl PVC ar eich drysau allanol.
6. Peidiwch â gadael offer a 'segur', diffoddwch!
Mae’r cartref arferol yn gwastraffu £37 y flwyddyn drwy adael offer ar ‘segur’, offer fel setiau teledu, chwaraewyr
Diffoddwch y goleuadau wrth i chi adael ystafell neu addaswch eich llenni er mwyn gadael cymaint o oleuni â phosibl i mewn yn ystod y dydd.
7. Rhowch siaced am eich tanc dŵr poeth
Mae siaced inswleiddio ar gyfer tanciau dŵr poeth ond yn costio ychydig o bunnoedd a bydd yn talu am ei hun mewn ychydig o fisoedd. Ffitiwch un sydd o leiaf 75mm (3") o drwch ac fe allech arbed tua £20 mewn blwyddyn.
8. Hanner gwag neu hanner llawn
Rhowch ond y dŵr sydd ei angen arnoch yn y tegell. Bydd eich diod yn barod ynghynt a byddwch yn arbed ynni hefyd!
Ceisiwch roi llwyth llawn yn eich peiriant golchi dillad, sychdroellwr a’ch peiriant golchi llestri os nad oes gennych raglenni ar gyfer hanner llwyth neu raglen economi.
Defnyddiwch y rhaglen tymheredd isel gan fod powdr golchi cyfoes yr un mor effeithiol ar dymheredd is. Bydd gwasgu’r dŵr allan neu dro-sychu os oes gennych ddillad gwlyb dros ben cyn eu rhoi mewn sychdroellwr yn arbed arian i chi, a byddant wedi sychu ynghynt.
9. Defnyddiwch fylbiau golau sy’n arbed ynni
Newidiwch eich bylbiau trydan cyffredin am rai sy’n arbed ynni. Am gost o oddeutu £5 yr un, mae gan fylbiau golau sy’n arbed ynni oes sydd hyd 12 gwaith yn fwy ac, am bob bwlb a ddefnyddiwch, gallwch arbed hyd at £9 ar eich bil trydan blynyddol.
10. Ceisiwch ganfod beth sy’n gweithio i chi...sefwch Brawf Ynni Cartref EST
Rydych yn gwybod pa ddulliau arbed ynni fydd yn gweithio orau i chi. Er mwyn cael rhyw syniad o faint allech ei arbed yn eich cartref chi ewch i: online home energy check a defnyddiwch restr wirio’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Neu, gallwch gael copi papur drwy ffonio eich Canolfan Cyngor Effeithiolrwydd Ynni (EEAC) ar 0800 512 012.
Hefyd, gall staff eich Canolfan Cyngor Effeithiolrwydd Ynni leol roi cyngor diduedd am ddim i chi ar sut i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithiol a siarad â chi am y grantiau sydd ar gael yn eich ardal chi er mwyn rhoi mesurau effeithiolrwydd ynni ar waith.

