Rheoli’ch biliau
Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau eich helpu i hawlio’r budd-daliadau y mae hawl gennych eu derbyn. Yn achos pobl hŷn ac anabl, gallant hyd yn oed drefnu cyfweliad wyneb yn wyneb yn eich cartref ac archwiliad budd-daliadau yn rhad ac am ddim.
I ganfod mwy am bensiynau, hawliau pobl anabl a gofalwyr, ategiad incwm a’r holl fudd-daliadau a lwfansau eraill rydych o bosibl yn eu colli, ynghyd â manylion eich swyddfa leol ewch i wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gwefan: www.dwp.gov.uk/contact
Llinell Dyled Genedlaethol
Gall y Llinell Dyled Genedlaethol fod o gymorth i chi os ydych yn gofidio ynglŷn â dyledion neu os oes angen cymorth arnoch i ddelio â chredydwyr. Mae’n rhoi cefnogaeth ddiduedd a chyfrinachol am ddim i helpu pobl i ddatrys problemau â’u dyledion.
Ffoniwch ar radffôn: 0808 808 4000
Gwefan: www.nationaldebtline.co.uk
Cyngor Ar Bopeth
Mae Cyngor Ar Bopeth yn cynnig gwybodaeth rad ac am ddim, ymarferol ac i’r funud ar ystod eang o bynciau gan gynnwys budd-daliadau, tai, gwaith, dyled, ystyriaethau defnyddwyr a chyfreithiol.
Gwefan: www.citizensadvice.org.uk

