Ewch yn syth i'r cynnwys

Rheoli’ch biliau

Pethau sylfaenol am filiau

Pa mor aml ddylai fy nghyflenwr anfon bil ataf?

Nid oes gofyniad cyfreithiol ar gwmnïau ynni anfon biliau ar adegau penodol. Fodd bynnag, dylai’r mwyafrif o ddefnyddwyr dderbyn bil oddi wrth eu cyflenwr bob tri mis (nid yw o bwys os ydynt yn talu drwy ddebyd uniongyrchol bob mis neu gredyd arferol bob tri mis).

Os ydych yn talu am eich nwy neu eich trydan drwy fesurydd rhagdal, fel rheol gallwch ddisgwyl datganiad/adroddiad unwaith y flwyddyn sy’n dangos faint o ynni rydych wedi ei ddefnyddio dros y cyfnod hwnnw. Mae’n bosibl nad yw’r rhain hyd yn oed wedi eu seilio ar ddarlleniadau mesurydd ond yn rhai y mae eich cyflenwr wedi eu hamcangyfrif.

Os oes gennych gyfrif ar-lein gyda’ch cyflenwr ynni dylech ddisgwyl cael mynediad ar-lein at eich datganiadau a’ch biliau.


Pa wybodaeth ddylai ymddangos ar fy mil?

Dylai pob bil ynni gynnwys rhai darnau allweddol o wybodaeth ar gyfer defnyddwyr. Mae’r prif rai fel a ganlyn:

1. Manylion cyswllt y cyflenwr.

2. Eich cyfeirnod cwsmer neu rif eich cyfrif - dylai hwn fod i’w weld yn amlwg ar y bil a dylid ei ddyfynnu pryd bynnag rydych yn cysylltu â’ch cyflenwr.

3. Eich balans mewn llaw ar hyn o bryd, mewn teip trwm fel rheol.

4. Eich enw a’ch cyfeiriad.

5. Y dyddiadau y mae’r bil yn eu cynnwys.

6. Darlleniad diwethaf eich mesurydd, a’r darlleniad newydd.

7. Sawl awr cilowat o nwy neu drydan rydych wedi eu defnyddio.

8. Faint mae eich cyflenwr yn ei godi arnoch am bob awr cilowat o nwy neu drydan.

9. Eich cyfeirnod cyflenwad safle penodol chi. 

10. Dylai manylion cyswllt Cyswllt Defnyddwyr fod ar gefn eich bil, er mwyn iddynt eich helpu os ydych yn methu datrys cwyn gyda’ch cyflenwr.  

11. Manylion cyswllt brys os ydych yn colli eich cyflenwad neu mewn argyfwng arall.

Sut a ble gaf i dalu fy mil?

Gallwch dalu eich bil nwy neu drydan drwy nifer o ffyrdd gwahanol, ac mae nifer o fannau gwahanol lle y gallwch wneud hyn. Mae mwyafrif y cwmnïau ynni’n derbyn taliadau arian parod, sieciau, debyd uniongyrchol, archeb sefydlog, mesurydd rhagdal, cerdyn credyd neu ddebyd, taliadau ar-lein neu gardiau talu dros gyfnodau rheolaidd.

Fel rheol gallwch dalu eich bil yn eich banc, drwy’r post at eich cyflenwr, ar-lein ar wefan eich cyflenwr, dros y ffôn, mewn Swyddfa’r Post neu allfa PayPoint neu Payzone (mae’r gwasanaeth hwn am ddim, ffoniwch 0845 6020236 i ddod o hyd i’ch allfa PayPoint agosaf neu 0845 7660111 ar gyfer Payzone).

Mae fy mil diwethaf lawer yn uwch na'r arfer

Mae dau brif reswm posibl dros fil uwch na’r arfer.

1. Mae eich cyflenwr wedi eich bilio ar ôl cynnig darlleniad a amcangyfrifwyd (gweler isod) sy’n uwch na’r darlleniad gwirioneddol, ac wedi anfon y swm uchaf atoch. Os felly, dylech gysylltu â’ch cyflenwr ar unwaith a rhoi’r darlleniad cywir iddynt a gofyn iddynt anfon bil cywir atoch.

2. Mae eich cyflenwr wedi bod yn eich bilio ar sail darlleniadau a amcangyfrifwyd am beth amser, a bellach mae wedi derbyn y darlleniad gwirioneddol, sy’n dangos nad ydych wedi bod yn talu digon.  Mae’n ofynnol bod cyflenwyr wneud ‘ymdrechion rhesymol’ a darllen eich mesurydd bob dwy flynedd sy’n golygu mai amcangyfrifiadau fydd mwyafrif eich biliau.  Dyma pam mae’n talu ffordd i chi wirio eich bil yn erbyn eich mesurydd bob amser.

Os mai dyma’r achos, mae’n rhaid i chi dalu am y swm rydych wedi ei ddefnyddio mewn gwirionedd. Oherwydd hyn, bob tro rydych yn derbyn bil (yn enwedig os mai amcangyfrif ydyw) dylech sicrhau bod y darlleniad mesurydd y mae eich cyflenwr wedi ei ddefnyddio yn cyfateb i ddarlleniad y mesurydd mewn gwirionedd a chysylltu â’r cwmni os nad yw felly.  Os gwnewch hyn mae’r posibilrwydd o dderbyn bil llawer uwch yn hwyrach yn llawer llai.

Os ydych yn derbyn bil llawer uwch ac yn methu ei dalu i gyd ar unwaith dylech ofyn i’ch cyflenwr am gynllun talu a fydd yn eich galluogi i dalu’r ddyled yn ôl fesul dipyn.

Sut mae fy nghyflenwr yn amcangyfrif darlleniadau fy mesurydd?

Mae cwmnïau ynni’n cynhyrchu darlleniadau a amcangyfrifir drwy edrych ar faint o ynni rydych wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol ar adeg benodol o’r flwyddyn. Os ydych newydd drosglwyddo byddant naill ai’n cynhyrchu amcangyfrif cyffredinol neu’n cysylltu â’r casglwr data er mwyn cael hen ddarlleniadau ganddynt.

Beth yw ystyr y llythrennau sy’n ymddangos ar ôl darlleniad y mesurydd?

Mae nifer o lythrennau’n ymddangos ar ôl y darlleniad ar eich bil nwy neu drydan. Mae rhai o’r rhai mwyaf cyffredin yn cynnwys:

(E) – mae hwn yn golygu bod eich cyflenwr wedi amcangyfrif y darlleniad

(A) – mae hwn yn golygu bod eich cyflenwr wedi defnyddio darlleniad gwirioneddol a gafwyd trwy ddarllen y mesurydd.

(C) – mae hwn yn golygu bod eich cyflenwr wedi defnyddio’r darlleniad rydych wedi ei ddarparu (NEU, yn achlysurol, gall hyn olygu ‘darlleniad amcangyfrif cwmni’)

(R) – dyma ddarlleniad terfynol mesurydd sydd bellach wedi ei symud

(N) – dyma ddarlleniad cyntaf ar fesurydd newydd

(F) – darlleniad terfynol wrth adael eiddo, torri cyflenwad neu newid cyflenwr.

Mae’n bosibl bod rhai cyflenwyr yn defnyddio llythrennau gwahanol, ond mae’r mwyafrif yn defnyddio’r rhain ac, yn ogystal, fe ddylai eich bil ddangos allwedd sy’n esbonio ystyr pob llythyren.

Sut allaf gyflwyno fy narlleniadau mesurydd fy hun?

Mae gan bob un o’r prif gwmnïau ynni linell ffôn neilltuol y gallwch ei defnyddio ar gyfer cyflwyno eich darlleniadau mesurydd eich hun. Dylai’r rhif hwn ymddangos yn glir ar eich bil.

Bydd rhai cwmnïau’n anfon bil newydd atoch fel mater o drefn ar sail eich darlleniad, bydd eraill yn gofyn a ydych am fil newydd neu byddant yn meddu ar bolisïau gwahanol o ran a fyddant yn anfon bil diwygiedig atoch neu beidio.

Gofynnwch i’ch cyflenwr os ydych yn ansicr.  

Dydw i ddim wedi cael bil ers amser maith – a fydd rhaid i fi dalu beth bynnag?  

Mae’n gyfreithiol angenrheidiol i ddefnyddwyr dalu am eu gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Fodd bynnag, mae Deddf Cyfyngiadau 1980 yn rhwystro adennill taliadau trydan neu ynni os y’u defnyddiwyd dros chwe blynedd yn ôl. Yn achos Yr Alban, pum mlynedd yw’r cyfnod hwn.

Dylai cyflenwyr o leiaf gynnig cynllun talu sy’n caniatáu i chi dalu’r ddyled yn ôl dros yr un cyfnod y mae wedi cronni.  Mewn geiriau eraill, os nad ydych wedi cael bil oddi wrth eich cyflenwr ers tair blynedd, pan ddaw’r bil yn y pen draw dylech allu rhannu’r ad-daliadau dros gyfnod o dair blynedd. Fodd bynnag, os ydych yn derbyn cynllun talu ni fyddwch yn gallu newid eich cyflenwr nes i chi glirio’r ddyled.

Fodd bynnag, o ganlyniad i’r ‘gŵyn-fawr’ a gafodd ei chyflwyno ym mis Ebrill 2005 i’r rheoleiddiwr ynni, Ofgem, dywedwyd wrth gwmnïau ynni na ddylent, o fis Gorffennaf 2006 ymlaen, gyflwyno bil am unrhyw ynni a ddefnyddiwyd fwy na dwy flynedd yn flaenorol lle mae’r cwmni ei hun wedi methu â darparu bil. Ni ddisgwylir i gwmnïau ynni gyflwyno bil am unrhyw swm sy’n dyddio yn ôl yn bellach na blwyddyn.


"Nôl i'r brig

Did you know

I fod yn gyfran amser, rhaid i ddefnyddiwyr dreulio cyfnod penodol (ond heb fod yn llai nag wythnos) mewn eiddo gwyliau bob blwyddyn am dair blynedd neu fwy.

Rhagor o Wybodaeth >