Diogelwch
Diogelwch Nwy
Mae pedwar prif gwmni dosbarthu nwy, sef National Grid, Scotia Gas Networks, Northern Gas Networks a West & Wales Utilities yn ogystal â nifer o gludwyr nwy annibynnol llai. Mae pob dosbarthwr nwy yn gyfrifol am ymdrin â gollyngiadau nwy ac argyfyngau yn eu rhwydweithiau unigol. Os ydych yn arogli nwy neu os ydych yn tybio bod gollyngiadau o fygdarthau eraill fel carbon monocsid (CO), ffoniwch y rhif argyfwng cenedlaethol 24 awr am ddim ar 0800 111 999.
Bydd peirianwyr o’r cwmni dosbarthu nwy sy’n berchen ar y rhwydwaith ar gyfer eich ardal yn ymweld ag unrhyw ollyngiad nwy ac ni chodir tâl am hyn. Os yw’r gollyngiad yn eich cartref, efallai y byddant yn diogelu’r sefyllfa drwy ddiffodd y cyflenwad. Fodd bynnag, byddant yn cadw cyflenwad ar gyfer offer gwresogi a choginio os yw’n ddiogel gwneud felly.
Os gall y peiriannydd drwsio’r offer neu’r pibwaith sy’n gollwng cyn pen 30 munud, ac am bris nad yw’n fwy na £4.65, fe wnaiff hynny. Os na all wneud hynny, bydd yn ynysu’r offer (er mwyn atal ei ddefnyddio pan nad yw’n ddiogel) a throi’r nwy ymlaen, os yw’n ddiogel. Bydd y peiriannydd yn gadael gwybodaeth ynghylch pwy i gysylltu â hwy er mwyn atgyweirio’r offer. Os y cwmni dosbarthu sy’n gyfrifol am dorri’r cyflenwad i’ch eiddo, bydd hawl gennych i gael iawndal, os ydych heb gyflenwad nwy am fwy na 24 awr. Dylech gysylltu â’ch cyflenwr os yw hyn yn berthnasol i chi.
Beth ddylech ei wneud os ydych yn tybio bod gollyngiad:
AGORWCH Y DRYSAU A’R FFENESTRI
GWNEWCH YN SIWR NAD YW’R CYFLENWAD NWY AR GYFER OFFERYN YN DAL WEDI EI GYNNAU AC NAD YW’R FFLAM BEILOT WEDI DIFFODD
DIFFODDWCH Y CYFLENWAD AR Y MESURYDD
PEIDIWCH Â DEFNYDDIO MATSIS NEU FFLAM AGORED
PEIDIWCH Â SMYGU
PEIDIWCH Â CHYFFWRDD AG UNRHYW SWITSHIS TRYDAN - GAN GYNNWYS SWITSHIS GOLAU A CHLYCHAU DRWS
Diogelwch a Thorri Cyflenwad
Gwasanaethau am Ddim
Mae’ch diogelwch personol yn bwysig. Er mwyn gweld os ydych yn gymwys i dderbyn gwiriad diogelwch nwy am ddim ynghyd â llawer o wasanaethau eraill am ddim, gweler ein gwybodaeth Gwasanaethau Am Ddim.
Atgyweirio offer a phibellau nwy yn eich cartref a’r Gofrestr Diogelwch Nwy.
Mae diogelwch nwy ym Mhrydain yn newid. Mae cofrestru CORGI ar gyfer nwy yn dod i ben ym Mhrydain ar 31 Mawrth 2009 ac ni fydd yn ddilys bellach ar gyfer deddfwriaeth diogelwch nwy. O 1 Ebrill 2009, bydd yn rhaid i bob peiriannydd nwy fod wedi cofrestru ar y Gas Safe Register™ er mwyn gwneud gwaith yn ymwneud â nwy yn gyfreithlon. Felly o fis Ebrill, gofynnwch bob tro am beiriannydd wedi’i gofrestru â Gas Safe. A gofynnwch am weld cerdyn adnabod bob amser. Byddwch yn ddiogel o ran nwy. Am fwy o wybodaeth ewch i www.GasSafeRegister.co.uk neu ffoniwch 0800 408 5500.
Gwasanaethau blaenoriaeth yn ystod torri cyflenwad
Os ydych yn anabl, â salwch cronig neu o oedran pensiwn, a bod yr argyfwng wedi golygu bod eich offer gwresogi neu goginio wedi’u datgysylltu, mae gennych hawl i offer gwresogi a choginio eraill am ddim nes i’ch offer arferol gael eu hatgyweirio.
Mae eich diogelwch personol yn bwysig, felly beth am ymweld â’n safle Gwasanaethau Am Ddim a gweld a ydych yn gymwys i gael Gwiriad Diogelwch Nwy am ddim ynghyd â llawer o opsiynau eraill am ddim.
Cliciwch i fynd at www.GasSafeRegister.co.uk

