Ynni
Nwy Petrolewm Hylifedig - Cyflenwad Domestig
Darllenwch gyngor am newid cyflenwr Nwy Petrolewm Hylifedig ar ôl 13 Ebrill 2009.
Nwy Petrolewm Hylifedig (LPG) - Cyflenwad Domestig - eich hawliau wrth drosi i gyflenwr newydd.
Daeth y Gorchymyn Ymchwiliad Marchnad mewn perthynas â Nwy Petrolewm Hylifedig i rym ar 13 Ebrill 2009. Os yw eich cartref chi’n defnyddio tanc LPG unigol, mae’r Gorchymyn yn eich galluogi i drosi i gyflenwr LPG newydd yn haws, heb orfod cael tanc newydd yn y rhan fwyaf o achosion. Nid yw’r Gorchymyn yn berthnasol i ystadau sy’n meddu ar fesuryddion, lle rydych yn rhannu tanc gyda phreswylwyr eraill, nac at LPG mewn potel.
Gall eich cyflenwr presennol fynnu rhybudd hyd at 42 diwrnod cyn dod â’ch contract i ben. Gall cyflenwyr eich gorfodi i brynu LPG oddi wrthyn nhw yn unig am hyd at ddwy flynedd. Os ydych chi tu allan i’r cyfnod hwn, neu os yw eich cyflenwr presennol yn cytuno i ddod â’r contract i ben yn gynnar (efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i wneud hyn), gallwch brynu LPG oddi wrth gyflenwr newydd. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i gyflenwr newydd eich derbyn fel cwsmer. Er enghraifft, mae’n bosibl nad ydynt yn cyflenwi eich ardal.
Ar wefan UKLPG (www.uklpg.org), cymdeithas fasnach cyflenwyr LPG, mae yna restr o gyflenwyr a’u manylion cyswllt (gweler y cwmnïau nwy). Mae’r cyflenwyr wedi ymrwymo i gynnig pris LPG i chi dros y ffôn.
Gallwch ofyn i’ch hen gyflenwr neu’ch cyflenwr newydd weithredu’r newid ar eich rhan. Gallwch ofyn am danc newydd neu ofyn i’r cyflenwr newydd ddefnyddio’ch tanc presennol. Ond rhaid cofio na fydd y cyflenwr newydd yn fodlon gwneud hynny ym mhob achos, neu efallai na fydd yn medru defnyddio’ch tanc presennol. Os yw cyflenwr newydd yn prynu eich tanc, rhaid trosi o fewn 28 diwrnod o hysbysu eich hen gyflenwr eich bod yn dymuno newid. Estynnir y cyfnod hwn i 42 diwrnod os oes angen tanc newydd arnoch.
Wrth drosi o un cyflenwr i un newydd, rhaid i’r ddau gyflenwr ymdrechu i sicrhau nad yw eich cyflenwad yn cael ei dorri.
Am fwy o wybodaeth, ewch at: http://www.oft.gov.uk/shared_oft/monopolies/lpg-faqs.pdf

