Newid Cyflenwr a Symud Tŷ
Mae Cyswllt Defnyddwyr yn ymwybodol bod cwsmeriaid wedi cael eu camarwain neu eu dychrynu i lofnodi contractau neu fod eu llofnod wedi’i ffugio ar gontractau ynni. Mae’r camymddygiadau hyn yn achosi trallod difrifol ac anghyfleustra i lawer o ddefnyddwyr ac o ganlyniad mae defnyddwyr yn ofni prynu ar garreg drws neu dros y ffôn.
Mae mwyafrif llethol y bobl sy’n gwerthu ynni yn ymddwyn yn briodol ar garreg drws defnyddwyr, mewn mannau cyhoeddus a thros y ffôn. I lawer o ddefnyddwyr, gall y dulliau gwerthu hyn fod yn ffordd bwysig o ddarganfod y cynigion gwahanol am ynni sydd ar gael.
Mae llawer o gamau y gall defnyddwyr eu cymryd i leihau’r risg o ddod yn darged i gynrychiolwyr gwerthu diegwyddor.
Rheolwch beth sy’n digwydd ar eich carreg drws.
Bu achosion o bobl yn esgus bod yn gynrychiolwyr gwerthu ac yn galw ar gartrefi pobl. I ddiogelu’ch hun rhag galwyr ffug, cofiwch y gall cynrychiolwyr gwerthu gwirioneddol ddangos prawf eu cwmni o bwy ydynt.
Os bydd unigolyn sy’n honni bod yn gynrychiolydd gwerthu yn galw arnoch:
- gofynnwch am weld prawf eu cwmni o bwy ydynt
- os ydych yn amau prawf y galwr o bwy ydyw gwiriwch hyn gyda’r cwmni y maent yn honni eu bod yn ei gynrychioli
-
holwch ymholiadau rhifau ffôn am y rhif ffôn neu chwiliwch amdano yn y llyfr ffôn. Peidiwch â gofyn i'r galwr amdano
-
os ydych yn drwgdybio bod galwr yn ffug, peidiwch â’i adael i mewn i’ch eiddo
-
cofiwch nad oes ymrwymiad arnoch i adael unrhyw i mewn i’ch eiddo;
-
os ydych yn byw mewn tai gwarchod a bod gennych naill ai warden neu ofalwr, rhowch wybod iddynt pan fydd rhywun yn galw heibio ac nad ydych yn eu hadnabod. Gofynnwch iddynt fod yn bresennol yn ystod unrhyw ymweliad.
Dywed defnyddwyr wrthym: -
y rhoddwyd gwybodaeth gamarweiniol iddynt
-
eu bod wedi cael eu twyllo a’u dychrynu i lofnodi contractau ynni newydd
-
bod eu llofnod wedi’i ffugio ar gontractau ynni
Os daw gwerthwr ynni i’ch cartref, neu os yw’n cysylltu â chi dros y ffôn, neu’n siarad â chi mewn man cyhoeddus fel archfarchnad, cofiwch: -
ofyn pa gwmni mae’r gwerthwr yn ei gynrychioli
-
peidio â llofnodi dim oni bai eich bod wedi penderfynu newid cyflenwr, hyd yn oed os yw’r gwerthwr yn dweud wrthych nad contract yw’r ddogfen y gofynnir i chi ei llofnodi
-
gofyn am gymhariaeth ysgrifenedig rhwng y swm rydych yn ei dalu ar hyn o bryd a’r pris y mae’r cyflenwr newydd yn ei gynnig, cyn eich bod yn ystyried llofnodi contract
-
bod unrhyw ddyfynbris a ddarperir yn seiliedig ar eich defnydd blynyddol gwirioneddol yn hytrach nag ar ddefnydd teulu ar gyfartaledd, fel y gallwch weld yn union faint y byddech yn ei arbed ar eich biliau tanwydd. Gwnewch yn siwr hefyd eich bod yn cymharu’r hyn sy’n gyffelyb (h.y. os ydych ar hyn o bryd yn talu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol gwnewch yn siwr bod y dyfynbris a gewch am ddebyd misol uniongyrchol)
-
bod yn gwbl glir ynghylch beth rydych yn ei geisio pan fyddwch yn gofyn am fwy o wybodaeth am newid cyflenwr. Pwysleisiwch nad ydych yn cytuno i fynd ar gontract os nad ydych am wneud felly. Nid oes rhaid i chi lofnodi dim er mwyn cael mwy o wybodaeth.
Ymdrin â thwyll:
Mae nifer o ddefnyddwyr wedi darganfod bod cynrychiolwyr gwerthu wedi ffugio eu llofnod ar gontractau i drosglwyddo eu cyflenwad.
I leihau’r risg o’r math hwn o dwyll: -
ceisiwch osgoi llofnodi unrhyw ddogfennau o gwbl oni bai eich bod yn siwr eich bod am newid cyflenwr
-
cadwch o’r golwg unrhyw ddogfennau sy’n cynnwys eich llofnod, fel cyfriflenni banc
-
peidiwch â gadael i’r cynrychiolydd gwerthu fynd o gwmpas eich tŷ heb fod rhywun gydag ef/hi
-
os byddwch yn darganfod bod rhywun wedi ffugio’ch llofnod ar gontract, dylech gysylltu â’r cyflenwr ynni hwnnw ar unwaith. Gan fod twyll yn drosedd, dylech ystyried rhoi gwybod i’r heddlu a Cyswllt Defnyddwyr am yr hyn a ddigwyddodd, fel y gellir dwyn achos yn erbyn y gwerthwr a’r cwmni ynni dan sylw.
os byddwch yn darganfod bod rhywun wedi ffugio’ch llofnod ar gontract, dylech gysylltu â’r cyflenwr ynni hwnnw ar unwaith. Gan fod twyll yn drosedd, dylech ystyried rhoi gwybod i’r heddlu a Cyswllt Defnyddwyr am yr hyn a ddigwyddodd, fel y gellir dwyn achos yn erbyn y gwerthwr a’r cwmni ynni dan sylw.
Ymdrin â phroblemau yn dilyn ymweliad gan werthwr
Os cewch eich trosglwyddo i gyflenwr newydd heb eich caniatâd, ar garreg drws, dros y ffôn neu mewn man cyhoeddus a bod eich cyflenwr yn methu â datrys y broblem, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr.
Dulliau cyffredin o dwyllo:
Mae rhai o’r dulliau mwyaf cyffredin o dwyllo a ddefnyddir gan gynrychiolwyr gwerthiant ynni yn cynnwys twyllo defnyddiwr i lofnodi contract heb eu bod yn gwybod eu bod yn gwneud felly. Cofiwch yr unig dro y dylech lofnodi unrhyw beth yw pan fyddwch yn cytuno i newid cyflenwr.
Os gofynnir i chi lofnodi unrhyw beth arall, byddwch yn wyliadwrus, gan mai contract yw yn ôl pob tebyg.
Mae’r tactegau canlynol ymhlith y rhai a ddefnyddir gan gynrychiolwyr gwerthu i dwyllo defnyddwyr i lofnodi:
“Dw i yma i ddarllen y mesurydd – llofnodwch yn y fan hon.”
Nid oes angen llofnodi ar gyfer darllen y mesurydd.
“Llofnodwch yn y fan hon fel y gallwn anfon mwy o wybodaeth atoch am y prisiau rydyn ni’n eu cynnig.”
Nid oes angen llofnodi er mwyn derbyn mwy o wybodaeth.
“Llofnodwch yn y fan hon i gadarnhau fy mod wedi ymweld â chi heddiw neu byddaf mewn helynt â’m meistri.”
Nid oes angen llofnodi i gadarnhau bod gwerthwr wedi ymweld â chi.
“Ni chaf fy nhaliad comisiwn oni bai eich bod yn llofnodi.”
Telir comisiwn i gynrychiolwyr gwerthu dim ond pan fyddwch yn cytuno i newid cyflenwr.
“Mae’r cynnig hwn ar gael heddiw yn unig. Collwch y cyfle os na fyddwch yn llofnodi nawr.”
Peidiwch â chael eich gorfodi i lofnodi yn y fan a’r lle. Cymerwch ddigon o amser i ystyried unrhyw gynnig a gynigir i chi a chwiliwch o gwmpas.
“Ni allaf adael eich tŷ nes eich bod yn llofnodi.”
Os na fydd gwerthwr yn gadael pan ofynnwch iddo/iddi, ffoniwch yr heddlu.
Mae dulliau eraill o dwyllo gan gynrychiolwyr gwerthiant yn cynnwys:
“’Dw i’n dod o Cyswllt Defnyddwyr/Y Swyddfa Masnachu Teg/Transco/Ofgem/y llywodraeth a dw i am sôn wrthych am gynigion neu ostyngiadau ynni arbennig mae gennych hawl iddyn nhw. ”
Nid yw’r sefydliadau hyn yn cyflenwi nac yn gwerthu nwy na thrydan ac nid ydynt yn cyflogi cynrychiolwyr gwerthu a fydd yn galw yn eich cartref heb wneud trefniadau. Yr unig adeg y byddai Transco yn galw heibio heb wneud trefniadau yw os byddai argyfwng nwy.
“’Dw i’n gwybod bod fy ngherdyn adnabod yn dangos fy mod o gyflenwr gwahanol i’ch cyflenwr presennol chi ond rydym i gyd yn perthyn i’r un cwmni bellach.”
Efallai bod yn wir neu ddim yn wir. Os ydych yn amheus ynghylch hyn, ceisiwch wybodaeth gan eich cyflenwr presennol neu Cyswllt Defnyddwyr.
“‘Dw i’n cynrychioli eich cyflenwr presennol a dw i yma i roi allwedd, taleb neu gerdyn mesurydd blaendalu rhatach i chi.”
Pe byddai eich cyflenwr presennol am roi allwedd, taleb neu gerdyn newydd i chi, byddai’n rhoi gwybod i chi drwy’r post. Os byddwch yn cael cynnig allwedd newydd ar eich carreg drws gan gynrychiolydd gwerthiant, mae’n debygol nad yw’n perthyn i’ch cyflenwr presennol o gwbl. Os gofynnir i chi lofnodi am yr allwedd, mae’n bosibl eich bod yn llofnodi contract i newid cyflenwr a dylech fod yn ymwybodol y gallai’r hyn a gynigir i chi fod yn ddrutach i’w ddefnyddio.
“‘Dw i’n perthyn i’ch cyflenwr presennol a dw i yma i ddweud wrthych am y gostyngiadau y mae gennych hawl iddyn nhw …”
Fel arfer byddai eich cyflenwr presennol yn anfon gwybodaeth atoch drwy’r post. Gallai’r cynrychiolydd gwerthu fod yn gweithio i gwmni arall. Gofynnwch am weld eu cerdyn adnabod a chysylltwch â’ch cyflenwr i ddilysu hyn.
“Bydd yn rhatach os talwch ymlaen llaw ag arian parod.”
Peidiwch byth â thalu ymlaen llaw ag arian parod am unrhyw nwyddau neu wasanaethau. Ni fydd cwmnïau ynni fyth yn gofyn i chi wneud hyn.
Eich hawliau pan fyddwch yn newid cyflenwr yn eich cartref, dros y ffôn neu mewn man cyhoeddus:
Os byddwch yn cytuno i gontract yn eich cartref, neu mewn man cyhoeddus, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ‘gyfnod ailfeddwl’ o saith diwrnod ar ôl i chi lofnodi’r contract.
Os gwnaed eich contract dros y rhyngrwyd neu’r ffôn yna efallai bydd gennych gyfnod ailfeddwl hefyd. Gwiriwch delerau ac amodau eich cytundeb a chysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr os nad ydych yn siwr.
Os byddwch yn newid eich meddwl am eich penderfyniad i newid cyflenwr, rhowch wybod i’r cwmni newydd ar unwaith gan gadarnhau yn ysgrifenedig unrhyw alwad ffôn a wnaethoch.

