Ewch yn syth i'r cynnwys

Newid Cyflenwr a Symud Tŷ

 

Cod gwirfoddol yw’r  Siarter Trosglwyddiad Anghywir i Gwsmeriaid, neu’r Erroneous Transfer Customer Charter, sy’n ceisio diogelu cwsmeriaid sy’n cael eu trosglwyddo at gyflenwr newydd drwy gamgymeriad. 

Mae’r Siarter Trosglwyddiad Anghywir i Gwsmeriaid yn gosod allan y lefel isaf o wasanaeth y dylai cwsmer ei ddisgwyl yn dilyn trosglwyddiad anghywir.

Mae trosglwyddiad anghywir yn digwydd pan gaiff cwsmeriaid eu trosglwyddo i gyflenwr heb fod unrhyw gontract dilys yn newid ei le.

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, fe fydd y Siarter Trosglwyddiad Anghywir i Gwsmeriaid ond yn berthnasol mewn achos o drosglwyddiad anghywir ac nid er enghraifft pan fydd cwsmer yn newid ei feddwl ar ôl newid cyflenwr.

Dyma fanylion y Siarter Trosglwyddiad Anghywir i Gwsmeriaid:

• Os yw cwsmeriaid yn tybio eu bod wedi eu trosglwyddo’n anghywir, gallant gysylltu â’r hen gyflenwr neu’r cyflenwr newydd.  
• Bydd y cyflenwr y cysylltwyd ag ef yn cysylltu â’r cyflenwr arall i ddatrys y mater.
• Dylai cynrychiolydd, sydd wedi ei hyfforddi’n briodol, o’r cyflenwr y cysylltwyd ag ef esbonio’r canlynol i’r cwsmer: 

1.      Pa gamau fydd yn cael eu gweithredu.

2.      Pryd y gallant ddisgwyl yn rhesymol i’w cyflenwad gael ei drosglwyddo yn ôl i’r cyflenwr gwreiddiol.

3.      Y byddant yn talu ond unwaith am yr ynni a ddefnyddiwyd a lle bo’n bosibl sut y bydd eu trefniadau bilio’n cael eu trefnu. 

4.      Sut y byddant yn cael gwybod am gynnydd i ddatrys y sefyllfa.

5.      Ar gais, sut mae cwynion yn cael eu datrys a, lle bo’n briodol, sut y byddant yn trin hawliadau am iawndal.

• Bydd y cyflenwr y cysylltwyd ag ef yn anfon cadarnhad mewn llythyr am y manylion a roddwyd ymhen 5 diwrnod gwaith i’r cyswllt gan y cwsmer.
• Ble bynnag fo’n bosibl, bydd y cyflenwr yn esbonio pam ddigwyddodd y trosglwyddiad anghywir.
• Bydd y cwsmer yn derbyn cadarnhad ymhen 20 diwrnod gwaith o’u cyswllt cyntaf y byddant yn dychwelyd at eu hen gyflenwr. 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os ydych chi wedi talu am nwyddau a gwasanaethau ar gerdyn credyd, a’ch bod wedi gwario mwy na £100, efallai y bydd y cwmni credyd yr un mor gyfrifol am nwyddau diffygiol, gwaith o ansawdd wael neu wasanaethau annigonol.

Rhagor o Wybodaeth >