Newid Cyflenwr a Symud Tŷ
Pan fyddwch yn symud tŷ bydd angen i chi ganslo eich trefniadau presennol gyda’ch cyflenwr nwy a thrydan a phenderfynu pwy fydd yn cyflenwi eich cartref newydd. Mae rhai camau syml ond pwysig y mae angen i chi eu cymryd er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gwasanaeth iawn.
Cyn i chi symud tŷ
Rhowch wybod i’ch cyflenwr trydan a nwy o leiaf 48 awr cyn i chi symud. Bydd y cyflenwr yn trefnu darllen eich mesurydd neu’n gofyn i chi wneud hynny fel y gallant weithio allan eich bil terfynol.
Bydd y cyflenwr yn gofyn i chi am eich cyfeiriad newydd ar yr adeg hon.
Cadwch nodyn o’r darlleniadau a’r dyddiadau y’u cymerwyd rhag ofn iddynt anghytuno â rhai eich bil terfynol.
Os nad ydych yn dweud wrth eich cyflenwr cyn i chi symud, efallai bydd rhaid i chi barhau i dalu biliau eich cartref blaenorol ar ôl i chi symud.
Os yn bosibl, rhowch enw’r cyflenwr nwy a thrydan i’r bobl sy’n symud i mewn i’ch hen gartref. Gallwch wneud hyn drwy eich asiant tai, landlord neu asiant rhentu. Hefyd, rhowch gyfeirnod eich pwynt mesurydd nwy iddynt a rhif eich cyflenwad trydan (cewch afael ar y rhain ar eich biliau ynni).
Ar ôl i chi symud i’ch cartref newydd
Pan fyddwch yn symud mewn i eiddo newydd, byddwch yn cael cyflenwad o dan ‘gontract tybiedig’. Golyga hyn fod cyflenwr nwy neu drydan y preswylwyr blaenorol yn dod yn gyflenwr i chi yn eich cartref newydd.
Pan fyddwch yn symud i mewn bydd angen i chi gysylltu â’r cyflenwr presennol yn eich cartref newydd er mwyn rhoi eich manylion iddynt a’ch darlleniadau o’r mesuryddion ar y diwrnod y daethoch yn berchennog ar y lle. Bydd hyn yn galluogi’r cyflenwr i anfon bil cyntaf cywir atoch.
Os ydych yn dymuno newid cyflenwr fel rheol bydd angen o leiaf 28 diwrnod o rybudd ar y cyflenwr. Bydd angen i chi wirio’r cyfnod rhybudd yn eich cytundeb chi i gadarnhau hyn.
Pan benderfynwch gan ba gwmni rydych yn dymuno derbyn eich cyflenwad nwy a thrydan, bydd angen i chi ofyn iddynt am gontract.
I gael y mwyaf allan o newid cyflenwr, dylech geisio newid i’r cyflenwr o’ch dewis cyn gynted ag y bo modd.
Os yw’n bosb'l, ceisiwich ganfod cyfeirnod y Pwynt Mesurydd Nwy a Rhif y Cyflenwad Trydan eich cartref newydd drwy ofyn i’r preswylwyr blaenorol, y landlord neu’r asiantaeth rhentu. Bydd hyn yn cyflymu pethau o ran newid eich cyflenwr.
Os oes angen i chi ganfod pwy sy’n cyflenwi nwy i’ch cartref newydd, neu Gyfeirnod eich Pwynt Mesurydd Nwy, cysylltwch â’r llinell gymorth mesuryddion ar 0870 608 1524.
I ganfod pwy oedd yn cyflenwi trydan i’ch cartref, neu eich Rhif Cyflenwad Trydan, cysylltwch â’r cwmni cyflenwi trydan lleol. Fel rheol mae’r rhif yn y llyfr ffôn o dan ‘Electricity/Trydan’. Dylech ofyn am wasanaeth gweinyddu pwynt mesurydd (MPAS) y cwmni.
Ar y diwrnod y byddwch yn newid cyflenwr bydd y cwmni’n gofyn i chi ddarllen eich mesurydd neu byddant yn trefnu i ddarllen eich mesurydd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o’r darlleniad hwn a’r dyddiad y’i cymerwyd er mwyn sicrhau eich bod yn cael bil dim ond am y trydan neu’r nwy rydych chi wedi eu defnyddio.
Bydd hyn yn bwysig os byddwch yn anghytuno â’ch bil cyntaf.
Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â’ch bil trydan neu nwy, dylech gysylltu â’r cwmni a anfonodd y bil.
Mesuryddion rhagdal a mesuryddion Quantum
Os oes mesurydd rhagdal ar gyfer nwy neu drydan i’w gael yn y tŷ rydych yn symud iddo, bydd angen i chi gael eich cerdyn neu eich allwedd rhagdal eich hun gan y cyflenwr, gan y bydd defnyddio cerdyn neu allwedd rhagdal y preswylydd blaenorol i dalu yn rhoi credyd yng nghyfrif y preswylydd blaenorol. Yn ogystal, dylech ystyried newid i fesurydd credyd, gan y bydd hyn yn eich galluogi i gymryd mantais o ystod eang o ddulliau talu a phrisiau.

