Ewch yn syth i'r cynnwys

Newid Cyflenwr a Symud Tŷ

Mae’r gystadleuaeth yn y marchnadoedd nwy a thrydan yn golygu eich bod bellach yn gallu dewis pwy sy’n cyflenwi eich nwy a’ch trydan. Cynlluniwyd y wybodaeth hon i’ch cynorthwyo drwy’r broses o ddewis a newid cyflenwyr er mwyn i chi ddewis pa gyflenwr fydd orau i chi.

Dewis cyflenwr newydd

Mae llawer o gyflenwyr i ddewis rhyngddynt, waeth lle bynnag rydych yn byw ym Mhrydain Fawr. Gallwch ddewis cwmnïau gwahanol i gyflenwi eich nwy a thrydan, neu gallwch ddewis un cwmni i gyflenwi’r ddau - gelwir hyn yn danwydd deuol.

Er mwyn cymharu’r prisiau a gynigir gan wahanol gyflenwyr gyda phris eich cyflenwr presennol, bydd angen i chi amcangyfrif faint rydych yn ei dalu am eich tanwydd yn flynyddol ar hyn o bryd. Gallwch weithio hyn allan drwy edrych ar eich pedwar bil chwarterol.

Yn ychwanegol at hyn efallai bod nifer o gwestiynau yr hoffech eu gofyn cyn penderfynu newid cyflenwr.
 
Cwestiynau i’w gofyn

Faint fydd y cyflenwr newydd yn ei godi?

Mae’n rheidrwydd ar bob cyflenwr i gyhoeddi eu prisiau. Gallant anfon fanylion eu prisiau ar gais atoch.

I sicrhau eich bod yn cael y fargen orau, mae’n werth chwilio o gwmpas a chymharu’r prisiau sy’n cael eu cynnig gan wahanol gyflenwyr yn eich ardal.

Sut allaf dalu?

Fel rheol mae cyflenwyr yn cynnig amrywiaeth o ddulliau talu i gwsmeriaid, yn amrywio mewn amlder o opsiynau wythnosol i chwarterol a thalu ag arian parod, archeb post, siec, debyd uniongyrchol, neu fesurydd rhagdal. Gofynnwch i gyflenwyr ddweud wrthoch am yr opsiynau talu sydd ar gael i chi er mwyn i chi wneud y dewis gorau i chi. Hefyd, efallai byddai’n syniad i chi sicrhau nad oes unrhyw gosb am ganslo’r contract.

Pa restr brisiau ddylwn ei dewis?

Cofiwch fod rhai dulliau talu’n rhatach nag eraill. Er enghraifft, fel rheol mae’n rhatach i dalu eich biliau tanwydd drwy ddebyd uniongyrchol misol, yn hytrach na thrwy siec bob tri mis. Cynigir gwahanol brisiau i wahanol gwsmeriaid yn ôl eu hamgylchiadau.

Hefyd, bydd faint o danwydd rydych yn ei ddefnyddio yn effeithio ar y pris y byddwch yn ei dalu. Efallai bydd rhywun sy’n defnyddio llawer o ynni yn cael cynnig cyflenwad ynni ar raddfa ratach na rhywun sy’n defnyddio llai. Beth bynnag fo’r pris a ddyfynnir i chi, gwnewch yn siwr ei fod yn cynnwys TAW.

A fydd y cyflenwr yn cynnig unrhyw ostyngiadau, cynlluniau neu anogaethau arbennig?

Mae’n bosibl y bydd rhai cyflenwyr yn cynnig gostyngiadau arbennig neu anogaethau i ddefnyddwyr sydd am iddynt gyflenwi nwy a thrydan (h.y.tanwydd deuol) ar eu cyfer.
Mae gan gyflenwyr eraill becynnau a allai gynnwys gwasanaethau eraill fel gwasanaethau ffôn rhatach neu ostyngiadau teithio mewn awyren.

Mae rhai cyflenwyr yn cynnig cynlluniau talu arbennig ar gyfer pensiynwyr. Gwnewch yn siwr eich bod yn gofyn am fanylion cyn cytuno.

A oes ganddynt unrhyw gostau ychwanegol neu gudd?

Mae rhai cyflenwyr yn ychwanegu tâl sefydlog at eich bil tanwydd ac eraill ddim yn gwneud felly. Mae’n bosibl bod y cwmnïau hynny nad ydynt yn gofyn am dâl sefydlog yn gosod pris uwch ar bob uned o nwy a thrydan rydych yn eu defnyddio.

A ydynt yn derbyn nifer uchel o gŵynion?

Os oes gennych ddiddordeb yn y math o wasanaeth rydych yn debygol o’i gael gan gyflenwr newydd, ynghyd â’r pris y byddant yn ei godi, mae’n werth i chi wneud ymholiadau am eu perfformiad.

Sut i newid cyflenwr

Pan rydych yn hapus eich bod wedi dewis y cyflenwr gorau i gwrdd â’ch anghenion chi, mae trosglwyddo’n broses gymharol hawdd.

Cam 1: Cysylltwch â’r cyflenwr newydd a chytunwch ar gontract. Cyn gynted ag y cytunwch ar gontract, dylai’r broses drosglwyddo gymryd oddeutu chwe wythnos i’w chwblhau. Bydd eich cyflenwr newydd yn rhoi gwybod i chi ynglŷn â sut mae’r trosglwyddiad yn dod yn ei flaen.

Cam 2: Rhowch 28 diwrnod o rybudd eich bod yn newid cyflenwr i’ch hen gyflenwr. Rydym yn eich cynghori i wneud hyn dros y ffôn yn gyntaf ac wedyn ei gadarnhau mewn llythyr. Os nad ydych yn rhoi gwybod i’ch hen gyflenwr gall hyn oedi neu amharu ar eich trosglwyddiad i’r cyflenwr newydd.

Cam 3: Talwch unrhyw filiau mewn llaw sydd arnoch i’ch cyflenwr presennol. Os nad ydych yn gwneud hyn, mae’n bosibl iddynt eich atal rhag trosglwyddo.

Cam 4: Darllenwch eich mesurydd ar y diwrnod rydych yn newid cyflenwyr. Os nad yw eich hen gyflenwr yn ei ddefnyddio i weithio allan eich bil terfynol, neu os nad yw eich cyflenwr newydd yn ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer eich bil cyntaf, gadewch iddynt wybod eich darlleniad mesurydd.

Rhestr prisiau arbennig a chynlluniau gwobrwyo

Dyma rai enghreifftiau o gynlluniau sydd ar gael:

  • Cynlluniau gwobrwyo ac arian yn ôl. Mae rhai cyflenwyr yn cynnig anogaethau i drosglwyddo (e.e. arian yn ôl) neu am aros gyda nhw (e.e. milltiroedd awyr).
  • Rhestr brisiau ar gyfer pobl hŷn. Mae gan rhai cyflenwyr restr brisiau arbennig ar gyfer pobl hŷn.
  • Rhestr brisiau ar y rhyngrwyd. Gallwch ymuno a rheoli eich cyfrif dros y rhyngrwyd.
  • Rhestr brisiau werdd. Mae gan rai cyflenwyr restr brisiau a all helpu’r amgylchedd.
  • Talu’n Brydlon. Mae rhai cyflenwyr yn cynnig gostyngiadau os ydych yn talu’r bil o fewn cyfnod penodol.
  • Os hoffech wybod mwy am y cynlluniau hyn cysylltwch â’ch dewis gyflenwr yn uniongyrchol.

"Nôl i'r brig

Did you know

Wrth brynu cyrfrifiadur personol, ceisiwch ddarganfod pa feddalwedd sy’n cael ei gynnwys ac a yw wedi cael ei osod ymlaen llaw.

Rhagor o Wybodaeth >