Ewch yn syth i'r cynnwys

Gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i bobl hŷn a defnyddwyr sy’n agored i niwed a’u gofalwyr

Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i bobl hŷn ac agored i niwed a’u gofalwyr.

Cadwch yn gynnes ac yn iach yn ystod y gaeaf

Ymgyrch genedlaethol gan y llywodraeth i ostwng salwch a marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r oerfel yn ystod y gaeaf yw Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach. Mae’n cynnig cyngor ar gadw chi a’ch teulu yn gynnes ac iach y gaeaf hwn ac yn eich helpu chi i ostwng eich biliau gwresogi a chadw eich cartref yn gynnes. Am wybodaeth ynghylch cadw’n gynnes ac iach yn ystod y gaeaf, gweler pamffledi Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach sydd ar gael o’ch meddygfa, fferyllfa neu swyddfeydd y cyngor lleol. Yn ogystal, gallwch weld yr holl wybodaeth ar-lein yn: http://campaigns.direct.gov.uk/keepwarmkeepwell
 
Mae grantiau’r llywodraeth sydd ar gael yn cynnwys:

Warm Front sy’n helpu i gynhesu cartrefi a’u gwneud yn fwy ynni-effeithlon. Ffoniwch 0800 316 2805 am fwy o wybodaeth.

Defnyddiwch y gwasanaeth Gwirio Hawl i Fudd-daliadau er mwyn gweld a ydych chi’n gymwys i gael mwy o fudd-daliadau nag yr ydych chi’n eu derbyn ar hyn o bryd. Ffoniwch 0800 072 9006 am fwy o wybodaeth.

Y Gwasanaeth Pensiwn

Yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau, sefydlwyd y Gwasanaeth Pensiwn er mwyn gwella’r gwasanaeth a ddarperir i bensiynwyr heddiw a phensiynwyr y dyfodol. Mae gan y Gwasanaeth Pensiwn rwydwaith o ganolfannau pensiwn a gefnogir gan wasanaethau lleol sy’n gweithio yn y gymuned, sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a sefydliadau o’r sector gwirfoddol. Mae yna linell gymorth gyffredinol ar gael i gwsmeriaid ar 0845 60 60 265 (ffôn testun 0845 60 60 285). Am fwy o wybodaeth ar y Gwasanaeth Pensiwn, ewch at www.pensiynau.gov.uk/cymru.

Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn cynhyrchu canllaw cynhwysfawr i bobl hŷn sy’n cynnwys manylion yr holl gymorth a gwasanaethau sydd ar gael ledled y llywodraeth.


Age Concern

Age Concern yw un o’r sefydliadau mwyaf sy’n gweithio gyda phobl hŷn yn y DU. Ffederasiwn o fwy na 400 elusen ydym ni sy’n cydweithio er mwyn hyrwyddo lles pobl hŷn.

Mae gwaith Age Concern yn amrywio o ddarparu gwasanaethau lleol allweddol i ddylanwadu ar farn gyhoeddus a’r llywodraeth. Bob dydd rydym ni’n cysylltu â miloedd o bobl hŷn o bob math o gefndiroedd - ac yn eu galluogi nhw i wneud y mwyaf o’u bywydau.

Am wybodaeth rad ac am ddim ar ystod eang o bynciau, cysylltwch â Llinell Gymorth Age Concern ar radffôn 0800 00 99 66 - 8am i 7pm, 365 diwrnod y flwyddyn - neu ewch at www.ageconcern.org.uk

Y Sefydliad Byw’n Anabl

Elusen genedlaethol yw’r Sefydliad Byw’n Anabl sy’n darparu gwybodaeth a chyngor cynhwysfawr a diduedd ynghylch offer/technoleg gynorthwyol i alluogi pobl hŷn ac anabl i fyw’n fwy annibynnol.

Mae cronfa ddata o dechnoleg gynorthwyol yn ganolog i wasanaethau’r Sefydliad Byw’n Anabl; offeryn hanfodol i ymgynghorwyr mewnol sy’n gweithredu’r Llinell Gymorth a gweithio yn y Ganolfan Arddangos Offer.  


"Nôl i'r brig

Did you know

Os bydd rhywbeth yn bod ar ddyfais drydanol yn yr ychydig fisoedd o’i phrynu, dylech fynd yn ôl at y manwerthwr a werthodd yr eitem i chi ( nid y gwneuthurwr).

Rhagor o Wybodaeth >