Ewch yn syth i'r cynnwys

Mwy o Gymorth

Os ydych yn ddefnyddiwr domestig ac o oed derbyn pensiwn, yn anabl, â salwch hirfaith neu â nam ar eich clyw a/neu eich golwg, mae’n ofynnol bod eich cyflenwr ynni yn darparu ystod o wasanaethau am ddim, a gynlluniwyd i wneud eich bywyd yn haws, felly peidiwch â cholli allan ar wasanaeth sydd ar gael i chi.  Ar hyn o bryd, nid oes gwasanaethau cyffelyb ar gael ar gyfer defnyddwyr Nwy Petrolewm Hylifol (LPG).  Dylech gysylltu â’ch cyflenwr i ganfod beth sydd ar gael, ond gallai gynnwys un neu fwy o’r canlynol:

Cynllun diogelu cyfrinair

Mae eich diogelwch personol yn bwysig iawn ac i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod bod y sawl sy’n cnocio ar eich drws yn ddilys gallwch gytuno ar gyfrinair unigryw gyda’ch cyflenwr nwy a/neu drydan a fydd yn cael ei ddefnyddio bob tro y mae aelod o’u staff yn ymweld â’ch cartref. Drwy wneud hyn, gallwch ddiogelu eich hun yn erbyn ‘galwyr ffug’ sy’n dweud eu bod yn dod o’ch cyflenwr nwy a thrydan.

Cael Mynediad at Fesuryddion Rhagdal

Os nad ydych yn gallu cael mynediad at eich mesurydd nwy a/neu drydan gall eich cyflenwr ei symud am ddim i fan sydd o fewn eich cyrraedd os yw’n ddiogel ac yn ymarferol i wneud hynny. 

Darlleniad Mesurydd

A oeddech chi’n gwybod mai ond unwaith mewn 2 flynedd sydd yn rhaid i’ch cyflenwr nwy a thrydan ddarllen eich mesurydd? Heb ddarlleniadau cywir, mae llawer o bobl wedi derbyn biliau mawr ‘dal i fyny’ am filoedd o bunnoedd.

Mae’n bwysig bod eich biliau wedi eu sefydlu ar yr ynni rydych yn ei ddefnyddio. Os nad yw unrhyw un yn eich tŷ chi’n gallu darllen eich mesurydd nwy a thrydan, bydd eich cyflenwr yn trefnu darllen eich mesurydd bob tri mis ac anfon y biliau atoch ar sail y darlleniadau hyn.

Cynllun Enwebai Biliau

Os hoffech anfon eich biliau neu gopïau o’ch biliau at gyfeiriad ffrind, perthynas, neu  ofalwr fel y gallant eich helpu i wirio eich bil, gall eich cyflenwr drefnu hyn ar eich cais.

Hefyd, maent yn gallu anfon copi atoch er gwybodaeth i chi, os oes angen.

Cymorth arbennig os caiff eich cyflenwad nwy ei dorri

Os torrwyd neu os tarfwyd ar eich cyflenwad nwy am resymau diogelwch a bod pob un o’r oedolion sy’n byw yn eich cartref yn gymwys i dderbyn gwasanaethau o flaenoriaeth, bydd eich cyflenwr yn darparu cyfleusterau coginio a gwresogi eraill ar eich cyfer.

Rhybudd o flaen llaw os oes rhaid tarfu ar eich cyflenwad trydan

Os ydych yn dibynnu ar drydan i gyflenwi offer meddygol hanfodol yn eich cartref, gallwch dderbyn rhybudd o flaen llaw os oes angen torri eich cyflenwad oherwydd gwaith cynlluniedig.  Dylai hyn eich helpu i wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.

Gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid â nam ar eu golwg neu eu clyw

Gall eich cyflenwr ddarparu gwybodaeth defnyddiwr, gan gynnwys darlleniadau mesurydd a biliau, mewn fformat sydd addas ar eich cyfer chi, ar ffurf braille, print mawr, ar dâp sain, ffôn testun neu typetalk.Os ydych am wneud cwyn neu ymholiad, gallant eich helpu i wneud hyn hefyd.

Gwiriad Diogelwch Nwy

Os ydych yn gymwys i dderbyn gwasanaethau am ddim, yn berchen ar eich cartref eich hun,  yn derbyn budd-dal sy’n seiliedig ar eich incwm ac yn byw ar eich pen eich hun neu gydag oedolion eraill sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau am ddim, neu’n byw gydag eraill y mae o leiaf un ohonynt dan 5 oed, rydych yn gymwys i dderbyn Gwiriad Diogelwch Nwy blynyddol o’ch holl offer a gosodiadau nwy eraill.

Symud Mesuryddion

Os ydych yn anabl ac yn methu cael mynediad at eich mesurydd nwy a/neu drydan, mae’n bosibl y bydd eich cyflenwr yn gallu trefnu adleoli eich mesurydd am ddim i chi.

Grantiau Ynni

Mae’n bosibl i chi golli hyd at 60% o’r gwres rydych yn talu amdano heb inswleiddio digonol. Mae grantiau ynni ar gael i inswleiddio llofft a wal geudod, gosod system gwres canolog ac atgyweirio neu uwchraddio system wresogi sydd eisoes mewn bodolaeth.
 

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Mae’n bosibl y bydd manwerthwyr trydanol yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig i chi. Os prynwch un, mae gennych 45 diwrnod i ganslo rhag ofn i chi newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >